Ymdrech gymunedol i adeiladu rhaeadr synhwyraidd ar gyfer disgyblion ADY


29.09.2023

Mae ymdrech ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), elusen Cerebra a staff o ddau o siopau gwella’r cartref Abertawe wedi arwain at uwchraddio gardd un o’r ysgolion cynradd lleol.  

Dr Ross Head yw Athro Cysylltiol Dylunio Cynnyrch PCYDDS ac mae’n arwain Canolfan Arloesi Cerebra'r Brifysgol, sy’n dylunio a gwneud cynhyrchion i wella bywydau pobl ifanc ag anghenion arbennig. Prosiect ar y cyd rhwng PCYDDS a’r elusen genedlaethol, Cerebra, yw Canolfan Arloesi Cerebra.

Dechreuwyd y prosiect yn Ysgol Gynradd Dyfnant wedi i Ganolfan Arloesi Cerebra PCYDDS  wneud cais am grant o £1000 gan y B&Q Foundation i weithio ar brosiect a fyddai’n elwa’r gymuned. Tarodd Dr Head ar y syniad o greu cerflun synhwyraidd cyffyrddol i ddisgyblion anghenion addysgol arbennig (AAA) ymgysylltu a chwarae gydag ef.

Wrth ddewis Ysgol Gynradd Dyfnant yn Abertawe, meddai Dr Head ei fod yn falch i allu “rhoi rhywbeth yn ôl” i’r ysgol yr aeth ei blant iddi, gan wybod y byddai’n cael ei groesawu a’i werthfawrogi gan y staff a’r myfyrwyr yno.

Mae dyluniad y rhaeadr synhwyraidd yn cynnwys tair haen. Bydd dŵr yn diferu o’r top i’r gwaelod trwy gyfres o olwynion dŵr sy’n troelli i mewn i fasnau ar lefel is, gyda lle i tua deg o blant bach chwarae, ochr yn ochr, o’i gwmpas. Mae wedi’i wneud o bren i greu teimlad naturiol, gyda lluniau a siapiau ar y tu allan i’w wneud yn ddeniadol yn weledol.

Ymunwyd â Dr Head a’i dîm gan staff o B&Q a Valspar, a ddefnyddiodd y cyfle i ddarparu diwrnod cymunedol ar gyfer eu staff, a gweithiodd y tri thîm yn gydweithredol i wneud holl ardal tir yr ysgol yn brafiach.

Darparodd B&Q yr holl ddeunyddiau i adeiladu’r cerflun, ac fe arddiodd a chliriodd eu staff ardal pwll yr ysgol wrth i dîm paent Valspar ailbeintio ac ychwanegu lliw i’r gwelyau uchel yng ngardd yr ysgol.

Meddai Dr Ross Head: “Bu’r prosiect hwn yn un cydweithredol cymunedol gwych a llwyddiannus iawn. Mae wedi amlygu pwysigrwydd allgymorth ddinesig yn ein cymuned, ac mae’n dangos bod tîm brwdfrydig yn gallu cyflawni llawer iawn mewn cyfnod byr. Roedd gweld y plant yn mynd yn fwy a mwy chwilfrydig a chyffrous yn ystod y dydd yn hyfryd, ac yn heintus! Mae pawb fu’n rhan o’r prosiect yn awyddus i helpu eto.”

Meddai Kerry Thomas, Pennaeth Ysgol Gynradd Dyfnant: “Bu’n bleser gweithio ochr yn ochr â Chanolfan Arloesi Cerebra PCYDDS i ddatblygu’r rhaeadr ar gyfer y disgyblion, ac i ddatblygu ein pwll ac ardal berllan ymhellach gyda help staff B&Q a Valspar.”

“Mae dysgu yn yr awyr agored yn fuddiol iawn i blant oed ysgol gynradd ac rydym yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu’r ardaloedd sydd gennym o hyd, ond yn aml nid oes gennym yr adnoddau i gyflawni hynny. Mae’r timau wedi cwblhau mwy o waith nag y gallem ni fod wedi’i wneud yn yr ysgol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu help a’u hamser. Mae’r plant yn gyffrous iawn yn barod i fynd i ddefnyddio’r rhaeadr a’r pwll!

Meddai Steve Winfield, Rheolwr Siop B&Q Abertawe: “Mae’n wych gallu rhoi help llaw yn Ysgol Gynradd Dyfnant gyda chymorth Cerebra. Mae’r holl dîm yn dwlu ar ddefnyddio eu sgiliau ymarferol, ac mae’n well fyth pan fydd hynny i gefnogi achos da.”

Nodyn i'r Golygydd

Mae Canolfan Arloesi Cerebra (CIC) yn brosiect cydweithredol rhwng elusen genedlaethol Cerebra a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae Cerebra yn helpu teuluoedd sydd â phlant ag anaf i’r ymennydd i oresgyn heriau a darganfod gwell bywyd gyda’i gilydd. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cerebra.org.uk   

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden BA (Anrh) 

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Swyddfa’r Is-Ganghellor

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | Abertawe

Ffôn: 07384467078

E-bost: ella.staden@uwtsd.ac.uk