Ymweliad â’r campws yn ysbrydoli teuluoedd i achub ar gyfleoedd dysgu newydd
07.02.2023
Cafodd Grwpiau Ymgysylltu Teulu ac Oedolion sy’n gweithio yn adran Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) flas ar fywyd ar y campws mewn digwyddiad ar 19 Ionawr.
Fel rhan o’r ymweliad, cafwyd Dosbarth Meistr mewn Eiriolaeth / Cymdeithaseg, taith o amgylch y campws a chinio, cyn ail Ddosbarth Meistr mewn Celf, lle cafodd y grŵp gyfle i fynegi eu hunain trwy ddylunio collage.
Mae PCYDDS wrthi’n cael gwared ar rwystrau i gyfranogiad ac yn cefnogi myfyrwyr o bob cefndir ac amgylchiad i godi eu dyheadau a chyflawni eu potensial.
Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i sicrhau bod pawb sydd â’r penderfyniad a’r dyhead i gael mynediad at addysg uwch yn gallu gwneud hynny ac mae’n darparu amryw opsiynau i oedolion sydd am ddychwelyd i ddysgu, gan gynnwys sesiynau blasu, dosbarthiadau meistr, cyrsiau byr, a chyrsiau gradd llawn.
Dywedodd Donna Williams, un o’r Swyddogion Ehangu Mynediad yn PCYDDS: “Rydym yn gweithio’n agos ag unigolion yn ein cymunedau, fel Aberdaugleddau a Thrimsaran, i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i ddatblygu eu dealltwriaeth o’u cryfderau eu hunain ac i weithio ar eu llesiant a’u hunan-werth.
“Mae hyn yn datblygu cryfder yn y gymdeithas trwy alluogi unigolion i adnabod eu sgiliau trwy’r gweithdai a’r cyrsiau a ddarperir gennym. Mae hefyd yn magu hyder a gwytnwch yr unigolion i’w galluogi i gael mynediad at ein cyrsiau ‘cam ar y ffordd’ i oedolion sy’n ystyried dychwelyd i ddysgu. Pleser oedd dod i adnabod yr unigolion y bûm yn ymwneud â nhw’n wythnosol a gweld eu hyder yn ffynnu. Allwn ni ddim ag aros i gynnal mwy o ddigwyddiadau fel hyn ar y campws eto.”
Meddai Ken Dicks, Rheolwr y Rhaglen Eiriolaeth a Chymdeithaseg yn PCYDDS, a fu’n rhan o'r Digwyddiad ar y Campws yng nghwmni dau o’i fyfyrwyr, Andrea Burson a Charlene Sadd: “Fe wnaethom fwynhau’n arw rhedeg y gweithdy Cyflwyniad i Gymdeithaseg ac Eiriolaeth ar gyfer grwpiau o Aberdaugleddau a Thrimsaran. Cafwyd sgyrsiau gwych yn ystod yr ymarfer Proffilio Cymuned ac erbyn diwedd y sesiwn roedd pawb wedi rhannu eu barn. Gobeithio ein bod wedi rhoi rhai syniadau i’r dyfodol i’r grwpiau, ac edrychwn ymlaen at fod yn rhan o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mobile: 07384 467071