Yolanda yn dathlu angerdd am addysg athrawon, ymchwil, a hyrwyddo cyfranogiad merched a menywod mewn STEM
11.07.2023
Bu Yolanda Rendón-Guerrero, Cymrawd Arloesi gyda Chanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, yn dathlu ei bod wedi graddio o raglen Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) y Brifysgol.
Ar ôl astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Seville (Escuela Técnica Superior de Arquitectura (ETSA) Sevilla), symudodd Yolanda, yn 33 oed, o Cádiz, Sbaen, i Abertawe saith mlynedd yn ôl. Mae hi’n gweithio ers dros bedair blynedd yn ymchwilydd ym maes ymchwil sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar ddylunio a thechnolegau cynorthwyol, gan ganolbwyntio ar sut mae pobl yn profi'r amgylchedd rhithwir ac adeiledig.
Astudiodd Yolanda ar gyfer ei TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET), a ddarperir yn Y Drindod Dewi Sant drwy Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA), trwy astudio’n rhan-amser dros ddwy flynedd, ochr yn ochr â'i rôl brysur yn ymchwilydd gydag ATiC.
Yn ogystal â'i hymchwil a'i hastudiaethau addysg athrawon, mae Yolanda wrthi’n weithgar yn cefnogi mentrau gan gynnwys trefnu a chyflwyno gweithdai ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd yn yr ardal,
Mae hi wedi gweithio ar y cyd â'r elusen symudedd cymdeithasol The Mullany Fund, ar gyfres o weithdai a gynhaliwyd yng nghyfleusterau modern ATiC yn Ardal Arloesi Abertawe y Brifysgol yn SA1, a oedd yn canolbwyntio ar brototeipio atebion pwrpasol, gweithgynhyrchu ychwanegion ac ymchwil profiad defnyddwyr (UX).
Mae hi hefyd wedi cymryd rhan yn rhaglenni Ehangu Mynediad y Brifysgol Merched i mewn i STEM a Merched i mewn i TG, gan gyflwyno sesiynau ar straeon gyrfa gan fenywod yn y Brifysgol, yn ogystal â grŵp Menywod mewn Technoleg y Brifysgol.
Meddai Yolanda: "Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwy wedi cael cyfle i ymchwilio i gysylltiadau trosglwyddadwy rhwng fy ngyrfa yn ymchwilydd ac addysgu, lle roeddwn i’n gallu ysbrydoli cenedlaethau iau a phobl o wahanol feysydd i ymgysylltu ac arbrofi â thechnoleg.
"Rwy wedi gweithio ar y cyd â chydweithwyr yng Ngholeg Celf Abertawe <https://www.uwtsd.ac.uk/art-design/> y Brifysgol i ddod â sgiliau digidol, megis argraffu 3D a modelu 3D, ac enghreifftiau ymchwil yn y byd go iawn i'w myfyrwyr.
"Mae fy nhîm yn ATiC bob amser wedi bod yn gymorth mawr gyda’m datblygiad proffesiynol, ac o ganlyniad i hyn, es i ati i ymgysylltu â chydweithwyr eraill yn y Brifysgol, yn y Grŵp Menywod mewn Technoleg, sydd hefyd wedi fy nghefnogi i herio'r stereoteipiau sy'n dioddef yn fy maes.
"Rwy'n angerddol am ddyfodol mewn addysg sy'n galluogi dysgu rhyngddisgyblaethol, ac rwy'n ceisio ei drosglwyddo i'm myfyrwyr yn ystod fy narlithoedd a gweithdai."
Ychwanegodd Dr Sean Jenkins, Athro Cyswllt a Chyfarwyddwr Ymchwil ATiC: "Rydyn ni’n llongyfarch ein cydweithiwr Yolanda yn wresog am yr hyn y mae wedi’i gyflawni ac am raddio o raglen TAOR TAR.
"Mae ATiC yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol amrywiol, gan weithio gyda'n partneriaid a'n cydweithwyr i ddatblygu atebion arloesol ar gyfer iechyd a lles sy'n trawsnewid bywydau. Mae gan Yolanda rôl allweddol yn ein tîm, ac yn ogystal â'i gweithgarwch ymchwil mae wedi cymryd rhan mewn sawl menter allgymorth yn y Brifysgol a gyda sefydliadau a phartneriaid allanol, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
"Wrth iddi ddathlu'r llwyddiant haeddiannol hwn ar ôl dwy flynedd o waith caled, edrychwn ymlaen gyda diddordeb at beth fydd ei her nesaf!"
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
Ffôn | Phone: 07384 467071
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk