Yr Is-Ganghellor yn cwrdd â’r Pab Ffransis
06.06.2023
Cafodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Gyfarfod Pabaidd ag Ei Sancteiddrwydd y Pab Ffransis yn y Fatican yr wythnos diwethaf.
Trefnwyd y Cyfarfod Pabaidd yn rhan o genhadaeth strategol i’r Sefydliad Esgobol i drafod sefydlu cynghrair strategol rhwng Cymru a’r Pontificia Scholas Occurentes, menter ieuenctid rhyngwladol y Pab Ffransis. Cynigodd gyfle hefyd i rannu cynlluniau ar gyfer sefydlu Sefydliad Rhyngwladol newydd yng Nghymru a fyddai’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth ieuenctid, dyfodol byd-eang a datblygiad cynaliadwy.
Wrth sôn am y Cyfarfod Pabaidd, meddai’r Athro Medwin Hughes: “Roedd hyn yn fraint ac anrhydedd mawr. Roedd cael fy nghyflwyno i’r Tad Sanctaidd yn brofiad gwefreiddiol. Cynigodd gyfle i rannu ein cynlluniau gydag ef i sefydlu’r Sefydliad ar gyfer Dyfodol Byd-eang a sut y bydd y fenter newydd hon yn adeiladu ar ein partneriaeth UNESCO gyfredol a chryfhau ymhellach ymrwymiad Cymru a fynegir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).
“Mae Cymru’n arwain y ffordd wrth feithrin partneriaethau rhyngwladol cryfion a fydd yn canolbwyntio ar raglenni addysgol ym maes Arweinyddiaeth Fyd-eang a Gwydnwch Ieuenctid”.
Bydd dirprwyaeth o’r Sefydliad Esgobol yn ymweld â Chymru yn yr hydref i hyrwyddo’r ymgysylltiad strategol.