Ysgol Syrffio Sir Benfro yn cydweithio â chwrs Gwneud Ffilmiau Antur y Drindod Dewi Sant i arddangos eu Cwmni.
04.04.2023
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn cydweithio’n ddiweddar ag ysgol Syrffio Sir Benfro er mwyn arddangos eu cwmni.
Gofynnwyd i fyfyrwyr BA Gwneud Ffilmiau Antur greu cynnwys fideo cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr ysgol syrffio Outer Reef yn Sir Benfro er mwyn hybu eu cynnyrch a’u gwasanaethau yn Ninbych-y-pysgod a Llanusyllt.
Dwedodd y darlithydd Brett Aggersberg fod y cyfle hwn i fyfyrwyr yn:
“ffordd wych o ddechrau eu gyrfa mewn Gwneud Ffilmiau Antur. Diwydiant deinamig sy’n tyfu’n gyflym yw hwn. Mae’n gofyn am wneuthurwyr ffilmiau a ffotograffwyr a all feddwl yn wahanol, datblygu ffyrdd newydd o weithio a symud yr un mor gyflym â gofynion y sector antur. Derbyniodd y myfyrwyr yr her a goresgyn anawsterau gyda’r tywydd i greu cynnwys cyfoes a fydd yn elwa busnes lleol, a darparu profiad o’r byd go iawn ar gyfer eu CV.”
Roedd y prosiect yn cynnwys ffilmio cyfweliadau, creu saethiadau o’r cynnyrch, a saethiadau byw o gaiacio ar y môr, hyfforddiant achub a phadlfyrddio. Roedd y cyfle hwn yn galluogi myfyrwyr i arddangos eu sgiliau creadigol hwythau ar y naill law tra’n cynhyrchu cynnwys i arddangos Outer Reef ar y llall.
Soniodd un myfyriwr o'r cwrs ei fod yn:
"Meddwl ei fod yn gyfle cŵl i weithio gyda chwmni syrffio a chyfle gwych i gael profiad gwaith yn y byd go iawn."
Fel rhan o’r prosiect hefyd, darparodd y darlithydd Dave Welton ddarn o ffilm unigryw o Borthladd Llanusyllt a ffilmiwyd gan ddrôn.
Meddai Mike May, Rheolwr Datblygu Busnes Ysgol Syrffio Outer Reef:
“Roedd gwir synergeddau yng nghynnwys y cwrs a’n gofynion busnes i gael safbwyntiau marchnata ffres ar ein gweithgareddau antur. Dangosodd y myfyrwyr ddealltwriaeth o’r dasg, gan oresgyn nifer o heriau yn gysylltiedig â’r tywydd er mwyn llunio cynnwys ardderchog ar ein cyfer. Rydym yn hapus i fuddsoddi’n hamser hyfforddi er mwyn parhau i gydweithio â’r Brifysgol i gynnig profiad masnachol i’r myfyrwyr”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476