Ydds Hafan - Astudio Gyda Ni - Prentisiaethau - Gradd-brentisiaeth Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron
Gradd-brentisiaeth Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron
Mae gyrfa ym maes Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron yn heriol, cyffrous a dynamig.
Gall gweithiwr proffesiynol sy’n hollol gymwys ym maes Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron weithio mewn ystod eang o sefydliadau, yn cynnwys gwasanaethau amddiffyn, cemegol, masnachol, milwrol, diogelwch, niwclear a dadansoddi (o gwmnïau amlwladol i BBaChau) a chyrff y llywodraeth (e.e. y Weinyddiaeth Amddiffyn).
Er bod cydweithio clos rhwng y sefydliadau hyn, mae’r anghenion a’r gofynion yn wahanol ar gyfer pob un. Gall gweithwyr proffesiynol ym maes Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron sy’n gweithio o fewn un o’r sefydliadau hyn symud rhwng y llywodraeth a diwydiant ac, fel y cyfryw, maent yn ganolog i gynnal diogelwch cenedlaethol nawr ac yn y dyfodol.
Lluniwch eich gyrfa ar gyfer y dyfodol drwy 1 o 5 llwybr Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron a ddarperir yn y Drindod Dewi Sant:
- Ymchwil a Datblygu Technegol
- Diogelwch
- Gweithgynhyrchu a Phrosesu
- Torri i lawr a Gwaredu
- Profi a Gwerthuso
Mae’r rhaglenni hyn wedi cael eu datblygu gyda chyflogwyr er mwyn sicrhau y byddant yn bodloni’ch anghenion datblygu gyrfa. Maent wedi eu cydnabod a’u hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Ffrwydron (IExpE).
Mae'r rhaglenni yn cydymffurfio â gofynion:
- Professiynol Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron o Sefydliad ar gyfer Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol (IFATE) (ST0574) (Fersiwn Saesneg)
- Fframwaith Prentisiaethau yn Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch o SEMTA (FR05034) (Fersiwn Saesneg)
Cewch eich cofrestru’n aelod-fyfyriwr o’r Sefydliad a bydd cwblhau’r Brentisiaeth yn arwain at gofrestriad proffesiynol gyda’r Sefydliad.
Bydd y Brentisiaeth yn rhedeg dros 5 mlynedd gyda hyfforddiant tu allan i’r gwaith yn digwydd yn ystod blociau astudio yn Adeilad IQ y Brifysgol ar y campws newydd yn SA1.
Cefnogir y prentisiaid gydol eu rhaglen gan Gynghorydd Hyfforddiant, a fydd yn ymweld â’r gweithle’n rheolaidd, gan ddarparu’r cyswllt rhwng yr astudiaethau academaidd a’r dysgu yn y gweithle, a chan fynd i’r afael ag unrhyw faterion a allai godi yn ystod y rhaglen.
Lawrlwytho y OME degree apprenticeship at UWTSD leaflet 2020 (Fersiwn Saesneg)
Uwch Prentisiaeth (Technegydd Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron)
Ym Mawrth 2021, bydd Uwch Prentisiaeth Technegydd Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (ST0833) (Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC)) ar gael. (Fersiwn Saesneg)
Lawrlwytho y Taflenni OME technician Higher Apprenticeship (HNC) at UWTSD leaflet 2020 (Fersiwn Saesneg)
Rhagor o wybodaeth
Ewch i wefan Sefydliad ar gyfer Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol (IFATE) (Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
Sut i ymgeisio
Ymgeisio at prentisiaethau@uwtsd.ac.uk
Cysylltu â'r Tîm
Ymholiadau cyffredinol
e-bost i: prentisiaethau@uwtsd.ac.uk.
Gwybodaeth am y cwrs
e-bost i: computing@uwtsd.ac.uk.