Ydds Hafan - Ystafell Newyddion - Digwyddiadau - Pethau Bychain
Pethau Bychain
Dathliad o ddiwylliant Cymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
23 Chwefror - 7 Mawrth 2021
Cyfle i’r Brifysgol ddod at ei gilydd i ddathlu Gŵyl Dewi drwy gyfres o ddigwyddiadau rhithiol.
Rhaglen
Cwis Kahoot Gŵyl Dewi i fyfyrwyr ar y cyd rhwng Yr Atom, Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Cyfarwyddiau:
Croseo i gwis Pethau Bychain!
Mae yna dair rownd, a deg cwestiwn ym mhob rownd.
1- Gwybodaeth cyffredinol Cymreig
2- Pa gastell?
3- Gwir neu Gai
Bydd gwobr o hamper o gynnyrch Cymreig ar gyfer yr enillydd! Am gyfle i ennill, mae'n rhaid i chi gynnwys eich rhif myfyriwr neu cychwyn eich cyfeiriad e-bost sefydliadol. Os oes yna mwy nag un person yn cael y marc uchaf, mi fydd enwau yn cael eu rhoi mewn i het! Mae'r gystadleuaeth hon ar agor i staff a myfyrwyr Prifysgol cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn unig. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch helo@yratom.cymru.
I gymryd rhan, ewch i wefan/app Kahoot, a rhowch y cod isod i fewn:
Cymraeg: 05037140
Saesneg: 0202140
Pob Lwc!
IAITH FRODOROL? MAMIAITH?: Trafodaeth a barddoniaeth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith UNESCO 2021
Digwyddiad cyfrwng Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd.
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cynhadledd ar gyfer myfyrwyr addysg, gofal plant a gwasanaethau plant a phobl ifanc mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach. Bydd y gynhadledd yn trafod bywyd plant Cymru gan gynnwys: effaith Covid-19 ar blant, hiliaeth, a'r system eiriolaeth. Ceir hefyd gyflwyniad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.
Digwyddiad cyfrwng Cymraeg.
Ymunwch â ni i glywed mwy am gyrsiau cyfrwng Cymraeg y Drindod Dewi Sant!
Cynigir cyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws campysau’r Drindod Dewi Sant yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n rhugl yn ogystal â’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae’r ddarpariaeth israddedig yn amrywio o gyrsiau sy’n cynnig ambell fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg, i eraill lle mae modd astudio’r cwrs cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n bosib i chi astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn oed os ydych yn astudio cwrs drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn ei chymuned Gymraeg a Chymreig ac yn rhoi pob cefnogaeth i’n myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa ac mae galw mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog. Oeddech chi’n gwybod bod cyflogau gyrfaoedd dwyieithog yn uwch ar gyfartaledd? Hefyd, mae nifer o’n cyrsiau israddedig yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n werth hyd at £3,000.
Ymunwch yn ein Rhith-Noson Agored ar y 25ain o Chwefror i glywed mwy am yr hyn sydd gan y Brifysgol i’w gynnig a sesiwn blasu ar eich cwrs o ddewis.
Y Gym Gym – Cymdeithas Gymraeg Myfyrwyr PCYDDS
Cystadleuaeth Pice ar y Maen.
Cyflwynwch eich lluniau o’ch piciau ar y maen er mwyn cael y cyfle i ennill £25 i'w wario yn siop ar-lein Croeso Cynnes
Yr Atom a Menter Gorllewin Sir Gâr
Awr o weithgaredd crefft mewn cydweithrediad a Menter GSG ar gyfer plant y cyfnod sylfaen.
Cofrestrwch drwy e-bostio Alma@mgsg.cymru.
Digwyddiad cyfrwng Cymraeg.
Cynhyrchiad gan fyfyrwyr cwrs BA Perfformio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ‘Un’ yn sioe a gafodd eu chreu’ arbennig ar gyfer myfyrwyr blwyddyn olaf y cwrs i’w pherfformio’n ddigidol. Yn gylch o ganeuon gwreiddiol, mae’r gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr y cwrs BA Perfformio, a’r geiriau wedi’u crefftio gan y Prifardd, Gruffudd Eifion Owen. Yn dilyn llwyddiant y dangosiad cyntaf fel rhan o arlwy Eisteddfod Amgen 2020, dyma gyfle arall i fwynhau’r sioe.
Perfformiad cyfrwng Cymraeg
Ymunwch yma i'w wylio am 7.30yh ar y 28ain o Chwefror
Her i staff, myfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol i gerdded pellter cyfwerth ag arfordir Cymru yn ystod Mis Mawrth.
Ymunwch â ni i lansio’r her yma am 10yb ar y 1af a cheir yr holl wybodaeth YMA
Dogfennwch eich camau yma bob wythnos a helpwch ni i gerdded cyfwerth ag arfordir Cymru!
#hercerddedydrindod21
Cysylltwch â Huw Thomas, Yr Athrofa Iechyd a Rheolaeth am fwy o wybodaeth: h.thomas1@uwtsd.ac.uk
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cyfres o adnoddau cyfrwng Cymraeg a fydd yn cynorthwyo myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ym maes chwaraeon wrth ymgymryd â phrofion iechyd a ffitrwydd. Bydd yr adnoddau o ddefnydd i fyfyrwyr ar draws Prifysgolion Cymru yn ogystal â myfyrwyr sy’n astudio Chwaraeon fel pwnc mewn Colegau Addysg Bellach ac Ysgolion.
Digwyddiad cyfrwng Cymraeg.
Ymunwch â’r parti gwylio yma am 11yb ar y 1af o Fawrth.
Gwasanaeth rhithiol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Estynnir croeso cynnes i holl deulu’r Brifysgol, yn staff, myfyrwyr a chyfeillion.
Cysylltwch â Bethan Wyn: bethan.wyn@pcydds.ac.uk er mwyn derbyn dolen i'r gwasanaeth.
Cyfle i gael blas ar gyrsiau plentyndod, ieuenctid ac astudiaethau addysg dros sgwrs anffurfiol.
Ymunwuch â ni am 1.30yp ar Mawrth 1af, cofrestrwch drwy e-bostio: Glenda Tinney G.Tinney@uwtsd.ac.uk
Rhagoriaith
Sesiwn flasu gwersi Cymraeg - Lefel Mynediad
Digwyddiad i staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Rhagoriaith
Sesiwn flasu gwersi Cymraeg - Lefel Sylfaen
Digwyddiad i staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Darlith flynyddol a Gwobrau Coleg Celf Abertawe gyda’r siaradwr gwadd Huw Rees
Gwyliwch y ddarlith yn y Gymraeg yma o 4yp ar y 1af o Fawrth.
Gwyliwch y ddarlith yn Saesneg yma o 4yp ar y 1af o Fawrth.
Gwyliwch y gwobrau yn ddwyieithog yma o 4yp ar y 1af o Fawrth.
Rhagoriaith a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Parti gwylio i lansio adnodd a grëwyd gan Ragoriaith a chwmni Optimwm, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n annog myfyrwyr i barhau i astudio'r Gymraeg fel pwnc (a/neu drwy gyfrwng y Gymraeg) ydy'r modiwl, gyda chyfle i ddefnyddwyr ymweld â gwahanol leoliadau a dysgu am bwysigrwydd sgiliau Cymraeg.
Digwyddiad cyfrwng Cymraeg.
Ymunwch YMA am 4yp ar yr 2il o Fawrth 2021.
Rhagoriaith
Sesiwn flasu gwersi Cymraeg - Lefel Canolradd
Digwyddiad i staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae’r Egin yn gyffrous iawn i gyflwyno am y tro cynta’ erioed gŵyl ffilmiau Antur : Yr Egin.
Dathliad yw’r ŵyl o ffilmiau awyr agored sy’n ysbrydoli, arddangos rhyfeddodau natur ac wrth gwrs tanio’r adrenalin. Bydd yn gyfle i wylio ffilmiau o Gymru a llefydd anhygoel eraill a chlywed gan y rhai o flaen a thu ôl y camera.
47 Copa, ffilm enillodd y wobr am Ffilm Antur Orau yng Ngŵyl Ffilm Mynydda Llundain bydd yn cychwyn y cyfan ar nos Wener 5 Mawrth, gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r gwneuthurwyr i ddilyn.
Yn ystod y penwythnos bydd yna sesiynau gyda phanelwyr profiadol yn rhannu cyngor a chyfrinachau, cyfle i weld ffilmiau cyffrous gwneuthurwyr ifanc ac i chi eistedd nôl ac edmygu’r golygfeydd.
Tocynnau : yregin.cymru
Cefnogwyd yr ŵyl gan Ffilm Cymru.
Dyma gwrs e-ddysgu i bob aelod o staff. Bydd y cwrs yn cynnwys:
- Cyd-destun ieithyddol a hanesyddol
- Ystadegau a defnydd iaith yn y sector addysg
- Cyd-destun o ran y Safonau Iaith newydd
- Hawliau newydd siaradwyr Cymraeg
- Sut mae defnyddio'r Gymraeg yn PCYDDS
Bydd cwestiynau ar ddiwedd pob Uned i atgyfnerthu'ch dysgu.
Bydd y ddolen isod yn eich arwain at Moodle a bydd angen i chi fewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair i gael mynediad i'r modiwl e-ddysgu.
Ymwybyddiaeth iaith (45 munud)