Trwy weithio mewn partneriaeth gyda’r Drindod Dewi Sant, gallwch ddefnyddio Gradd-brentisiaethau ar gyfer gweithwyr i dyfu eich busnes, hybu cynhyrchiant a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Buddion i Gyflogwyr – Pam y dylech gynnig Gradd-brentisiaethau
- Mae prentisiaid yn datblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiadau a ddysgir ganddynt yn ystod y rhaglen radd ac yn eu cymhwyso’n uniongyrchol yn y gweithle. Mae hyn yn helpu gweithwyr i feistroli’u rolau cyfredol ac i lenwi bylchau sgiliau o fewn y busnes.
- Mae prentisiaid yn hysbysu’r busnes am y datblygiadau a’r technolegau diweddaraf a ddysgwyd ganddynt yn ystod eu rhaglen radd.
- Mae cyflogwyr yn elwa o fuddsoddiad gyda chynnydd mewn cynhyrchiant a gwell perfformiad busnes.
- Bydd cyflogwyr yn gallu denu a chadw gweithwyr talentog, trwy ddarparu llwybr at gyfleoedd a hwb i gamu ymlaen yn eu gyrfa.
- O ganlyniad bydd y busnes yn gallu cynllunio olyniaeth mewn swyddi allweddol, nodi’r perfformwyr gorau a pharatoi rheolwyr ar gyfer y dyfodol.
- Mae prentisiaid yn gweithio ar brosiectau sy’n seiliedig ar waith diwydiannol a ddewisir trwy drafodaethau gyda’u cyflogwyr, eu tiwtoriaid a’u swyddogion cyswllt. Cytunir ar gynlluniau sydd o fudd i’r busnes a’r meini prawf academaidd.
- Cefnogir y Rhaglenni Gradd-brentisiaeth gan Gyllid Llywodraeth Cymru neu’r Cynllun Ardoll Prentisiaethau.
Pam y Drindod Dewi Sant?
Mae’r Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr Gradd-brentisiaethau prifysgol.
Ar hyn o bryd rydym yn darparu gradd-brentisiaethau i dros 100 o gyflogwyr yng Nghymru a Lloegr. Rydym wedi sefydlu perthnasoedd cryf gyda sefydliadau sector preifat a chyhoeddus gan gynnwys Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau), Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG.
Mae ein Gradd-brentisiaethau’n cynnig cyfle i gyflogwyr feithrin eu talent eu hunain. Gall cyflogwyr ddewis uwchsgilio neu ailsgilio gweithwyr cyfredol, neu recriwtio a hyfforddi gweithwyr newydd trwy ein Prentisiaethau at lefel gradd.
Bydd y cyflogwr, y prentis a’r brifysgol yn arwyddo Cytundeb Dysgu Prentisiaeth ar ddechrau’r rhaglen sy’n amlinellu ymrwymiad, rôl a chyfrifoldebau pawb dan sylw.
Byddwn yn eich cynghori chi, y cyflogwr, ynglŷn â’r pwynt mynediad gorau ar gyfer y prentis unigol yn seiliedig ar ei gymwysterau a’i brofiad presennol, ac yn asesu anghenion dysgu a datblygu penodol yr unigolyn.
Pan fyddwch yn llunio partneriaeth gyda ni, byddwch chi a’ch prentisiaid yn cael eich cefnogi drwy gydol y rhaglen radd trwy gyfrwng y canlynol:
- Rheolwr cyfrif penodol – Swyddogion Cyswllt Prentisiaethau.
- Cyngor a chymorth gyda’r cais cyllido.
- Swyddog Cyswllt Prentisiaethau i ddarparu cymorth bugeiliol ac academaidd ar gyfer y prentis.
- Gofod arddangos ar unrhyw rai o ddiwrnodau agored/ digwyddiadau brecwast yr Uned Brentisiaeth.
- Cymryd rhan yng Ngrŵp Cyswllt y Diwydiant – Caiff pob cymhwyster ei ffurfio gan fwrdd cynghori o gyflogwyr, sy’n ein helpu i lunio ein cyrsiau i fodloni’n uniongyrchol ofynion busnes a newidiadau mewn Diwydiant.
- Cymorth i recriwtio darpar ymgeiswyr.
- Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru,
- Sectorau Gofal Acíwt a Chynradd GIG Cymru
- Tata Steel
- Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
- Ford Motor Company
- BAE Systems
- AWE
- DSTL
- Roxel
- QinetiQ
- DE&S
- Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr