Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Prentisiaethau  -  Dod yn Brentis Gradd

Dod yn Brentis Gradd

Buddion i Fyfyrwyr – Pam y dylech astudio Gradd-brentisiaeth

  • Byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu - Mwynhewch fanteision bod yn weithiwr amser llawn a chael amser i ffwrdd â thâl i astudio a mynychu dosbarthiadau drwy gydol eich rhaglen radd.
  • Byddwch yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol – wedi i chi gwblhau’r rhaglen yn llawn.
  • Mae gradd-brentisiaethau’n rhoi llwyfan gwych i chi wella eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad gwaith a fydd hefyd yn gwella eich cyflogadwyedd ac yn eich helpu i gamu ymlaen yn eich gyrfa.
  • Dim dyled myfyrwyr – telir y ffioedd dysgu gan y Llywodraeth neu’r cyflogwr, gweler y dudalen ariannu.
  • Cewch fynediad llawn at ein gwasanaethau a’n cyfleusterau campws gwych.
  • Neilltuir swyddog cyswllt prentisiaethau penodol ar eich cyfer a fydd yn darparu cymorth bugeiliol ac academaidd drwy gydol eich rhaglen.
  • Cewch gyngor a chymorth gyda’r cais cyllido.

Pam y Drindod Dewi Sant?

Mae’r Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr Gradd-brentisiaethau prifysgol.

Ar hyn o bryd rydym yn darparu gradd-brentisiaethau i dros 100 o gyflogwyr. Rydym wedi sefydlu perthnasoedd cryf gyda sefydliadau sector preifat a chyhoeddus gan gynnwys Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau), Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG.

Mae ein gradd-brentisiaethau’n cynnig cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch profiadau. Gallwch astudio gradd-brentisiaeth i uwchsgilio neu ailsgilio os ydych chi eisoes mewn swydd.

Byddwch chi, eich cyflogwr a’r brifysgol yn arwyddo Cytundeb Dysgu Prentisiaeth ar ddechrau’r rhaglen sy’n amlinellu ymrwymiad, rôl a chyfrifoldebau pawb trwy gydol eich rhaglen.

Byddwn yn eich cynghori chi a’ch cyflogwr ynglŷn â’r pwynt mynediad gorau ar gyfer y rhaglen radd yn seiliedig ar eich cymwysterau a’ch profiad presennol, ac yn asesu eich anghenion dysgu a datblygu penodol.

Fe’ch cefnogir drwy gydol eich taith trwy gyfrwng y canlynol:

  • Rheolwr cyfrif penodol – Swyddogion Cyswllt Prentisiaethau.
  • Cyngor a chymorth gyda’r cais cyllido.
  • Swyddog Cyswllt Prentisiaethau i ddarparu cymorth bugeiliol ac academaidd.
  • Bydd y Swyddog Cyswllt Prentisiaethau’n rhoi diweddariad ar eich cynnydd ynghyd â chyfleoedd i gwrdd bob 6-8 wythnos drwy gydol eich amser ar y rhaglen.
  • Cymorth a chyngor i gamu ymlaen yn eich gyrfa.