Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Prentisiaethau - Dod yn Brentis Gradd - Beth yw Gradd-brentisiaeth?
Beth yw Gradd-brentisiaeth?
Rhaid i chi fod gweithiwr yn y sector mewn rôl berthnasol i ymuno rhaglen prentisiaeth.
Mae gradd-brentisiaethau yn ddewis arall yn lle astudiaeth draddodiadol mewn prifysgol, ac maent yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Cynlluniau hyfforddi seiliedig ar waith ydynt. Byddwch yn cael profiad o weithle go iawn ac yn ennill cyflog, gan weithio ar yr un pryd tuag at gymhwyster gradd wedi i chi gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.
Fel prentis, ni fydd gennych unrhyw ffioedd i’w talu – bydd y brifysgol yn gweithio gyda chi a’ch cyflogwr i gael y cyllid i ariannu’r brentisiaeth gan gynllun y llywodraeth briodol.
Maent yn cyfuno gwaith ac astudio (fel arfer 1 diwrnod astudio yr wythnos, ond nid bob tro). Mae’r cyfuniad hwn yn ffordd wych o ennill y profiad a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn amgylchedd gwaith.
Mae’r ystod eang o gymwysterau prentisiaeth a gynigir gennym wedi’u datblygu gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol yn y diwydiant i sicrhau y bodlonir anghenion penodol y sector.
- Yn Lloegr, golyga’r Safonau Prentisiaethau newydd a luniwyd gan gyflogwyr fod sefydliadau’n gallu gweithredu rhaglen sy’n cyd-fynd yn dda â’u rolau yn eu busnes.
- Yng Nghymru, mae’r holl raglenni wedi’u hysgrifennu gyda chyflogwyr neu grwpiau o gynrychiolwyr cyflogwyr ac maent wedi’u mapio i Fframwaith Prentisiaethau perthnasol Llywodraeth Cymru.
Ar gyfer pwy y maent?
Maent ar gyfer gweithwyr cyfredol, gan gynnwys uwch reolwyr a gweithwyr sydd newydd eu recriwtio. Rhaid i chi fod yn gyflogedig yn y sector perthnasol i gychwyn y rhaglen.
I gael mynediad i Brentisiaeth Uwch neu Radd-brentisiaeth mae angen i chi fod â chymwysterau ar lefel 3 (Safon Uwch/Lefel A, Diploma BTEC) neu brofiad perthnasol yn y gweithle. Mae Prentisiaeth Uwch neu Radd-brentisiaeth yn gyfle gwych i bobl sydd eisoes wedi cwblhau rhaglen Brentisiaeth Lefel 3, HNC neu HND gamu ymlaen yn eu gyrfa.
Sut maent yn gweithio?
Rhaid i brentisiaid dreulio o leiaf 20% o’u hamser yn ymgymryd â hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith. Mae hyn yn cynnwys cael eu rhyddhau’n rheolaidd fesul diwrnod neu floc i fynychu’r brifysgol, diwrnodau hyfforddi arbennig neu weithdai. Rhaid i’r hyfforddiant fod yn uniongyrchol berthnasol i fframwaith neu safon y brentisiaeth a gellir ei ddarparu ym man gweithio arferol y prentis, ar yr amod nad yw’n rhan o’i ddyletswyddau gweithio arferol. Gall gwmpasu hyfforddiant ymarferol megis cysgodi, mentora, ymweliadau â diwydiant a mynychu cystadlaethau.
Mae hyfforddiant yn y gwaith yn helpu prentisiaid i ddatblygu ac ymgorffori’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau penodol ar gyfer y gweithle.
Mae angen i brentisiaid gael eu cefnogi gan fentor yn y gweithle. Wedi i brentis gwblhau ei brentisiaeth, dylai allu dangos ei fod yn medru cwblhau tasgau’n hyderus ac yn llwyr i’r safon a bennir gan y diwydiant.