- Mae prentisiaethau ar gyfer gweithwyr o bob oed dros 18, nad ydynt mewn addysg amser llawn. Mae hwn yn llwybr dysgu gydol oes (dim terfyn oedran).
- Mae’n 2 – 4 blynedd o hyd gan ddibynnu ar y rhaglen (Mae gradd OME yn 5 blynedd).
- Mae’n rhaid i brentisiaid fod mewn swydd.
- Yng Nghyrmu, gallwch hefyd wneud cais os ydych chi’n hunangyflogedig.
- Mae’n rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig a derbyn cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf.
- Astudir yn rhan amser o amgylch ymrwymiadau gwaith.
- Mae gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd o’r gwaith â thâl i astudio.
- Mae’n addas ar gyfer pob sector diwydiant a busnesau o bob maint.
- Mae’r gost yn cael ei thalu gan y Llywodraeth. Gweler y tudalennau ariannu am y gwahaniaeth rhwng cwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a Lloegr.
- Cymwysterau – HNC, gradd anrhydedd, neu gradd Meistri y Drindod Dewi Sant gyda chymwysterau proffesiynol dewisol.