A woman in a white lab coat makes adjustments to a complicated electronic manufacturing device.

Holl ddiben y cwrs hwn yw datblygu gweithwyr mewn maes prinder gweithrediadau gweithgynhyrchu.

Mae'r rhaglen ran-amser hon wedi'i chynllunio ochr yn ochr â chyflogwyr ar gyfer gofynion gweithgynhyrchu allweddol, o safbwynt cynnwys a chyflenwi. Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd pawb sy’n graddio yn arddangos gwybodaeth a sgiliau a fydd yn eu galluogi i wella a hyrwyddo eu harfer er mwyn llunio diwydiant y dyfodol.

Pynciau Modwl

LEFEL 4

  • Mathemateg Peirianneg | 20 credyd
  • Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio | 20 credyd
  • Gwelliannau Ansawdd a Busnes | 20 credyd
  • Gweithrediadau Peiriannau a Pherfformiad | 20 credyd

LEFEL 4/5

  • Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu | 20 credyd
  • Dylunio Prosiectau | 20 credyd
  • Rheoli Arloesi a Chynaliadwyedd | 20 credyd
  • Prosiect Diwydiannol Grŵp | 40 credyd

LEFEL 5/6

  • Rheoli ac Awtomeiddio | 20 credyd
  • Dylunio a Thechnoleg Gweithgynhyrchu | 20 credyd
  • Gwregys Gwyrdd Six Sigma| 20 credyd
  • Systemau Gweithgynhyrchu ac Efelychu | 20 credyd
  • Dulliau Cyfrifiadurol | 20 credyd

LEFEL 6

  • Prosiect Annibynnol | 40 credyd
  • Peirianneg Peiriannau ac Asedau | 20 credyd
  • Rheoli Technoleg | 20 credyd

Asesiad

Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.

Un o brif rannau'r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r wybodaeth a ddatblygwyd drwy'r cwrs i ddatrys problem go iawn ym maes peirianneg yn y gweithle.