Abigail Penny
Uwch Ddarlithydd
Cefndir
Ganed Abi yn Ne Cymru, cafodd ei haddysg yng Nghymru a Sbaen, a derbyniodd ei BEng mewn Peirianneg a Dylunio Chwaraeon Moduro yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn 2003. Cyflawnodd ei MPhil mewn Gorchmynion Datblygiadol ar gyfer Cerbydau â Pheiriannau Tanio Mewnol yn yr un adran. Mae ganddi brofiad hefyd o fod ar bwyllgor trefnu ralïau cymalau a ffordd ar gyfer Cymdeithas Clybiau Modur Cymru. Bellach, mae Abi yn Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Peirianneg ac yn rheolwr rhaglen ar gyfer y cwrs Rheolaeth Chwaraeon Moduro. Mae ei diddordebau eraill yn cynnwys bod yn gyd-yrrwr mewn ralïau ar lefel genedlaethol, yn ogystal â thriathlonau a rhedeg.
Pynciau Arbenigol
- Gwyddor Peirianneg a Rheolaeth Chwaraeon Moduro
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Bu Abi’n gweithio yn y diwydiant chwaraeon moduro i nifer o gwmnïau yn arbennig yn y TVR Tuscan Challenge a’r Pencampwriaethau GT, a Phencampwriaeth Rali Prydain, yn fwy diweddar Britcar, GTCup, Creventic a VLN.
Cymwysterau
- MPhil
- BEng
- TAR
Ieithoedd a Siaradwyd
Saesneg
Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl
Aelod o Bwyllgor Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant Motorsport UK Hwylusydd Rhanbarthol ar gyfer Menter Girls on Track Goruchwylio Prosiectau