Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Ddrama, Dawns a Sinemateg - Complete University Guide 2023.
Gwnewch eich marc mewn Celfyddydau Perfformio yn Y Drindod Dewi Sant. Rydym yn cynnig ystod gyffrous o raddau lefel israddedig ac ôl-raddedig yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd.
Mae cyrsiau Caerfyrddin yn cynnwys Actio, Dawns, Drama Gymhwysol a Dylunio Theatr lle mae ystod eang o ymarferwyr theatr yn cyfrannu at y rhaglenni fel tiwtoriaid, cyfarwyddwyr, coreograffwyr, dylunwyr a chyfarwyddwyr cerddorol. Bydd ein modylau a arweinir gan arfer ac a yrrir gan y proffesiwn yn rhoi i chi set sgiliau cryf ac yn eich galluogi i adeiladu portffolio helaeth o waith, gan roi’r fantais i chi wrth chwilio am swyddi mewn disgyblaeth gystadleuol.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Caerdydd yn gartref i Academi Llais Ryngwladol Cymru. Mae’r Academi a sylfaenwyd gan y tenor enwog Dennis O’Neill, yn darparu amgylchedd arbenigol tu hwnt ac unigryw ar gyfer nifer fach o gantorion a chyfeilyddion eithriadol sy’n dechrau eu gyrfa broffesiynol ac mae’n recriwtio artistiaid ifanc o bob cwr o’r byd.
Hefyd, mae’r Celfyddydau Perfformio yn Y Drindod Dewi Sant yn ymroi i hyfforddi a datblygu perfformwyr y dyfodol, ac mae Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yng Nghaerdydd yn cynnig rhaglenni gradd sydd rhoi i fyfyrwyr dechneg gadarn, law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Caerfyrddin
Caerdydd
Coleg Celf Abertawe