Mae Llyfrgell ac Archif Roderic Bowen (LlARB) yn cadw Casgliadau Arbennig, sef llyfrau, llawysgrifau ac archifau hynaf y Brifysgol a hi yw un o brif adnoddau ymchwil academaidd Cymru.
Wedi’u caffael dros y 200 mlynedd ddiwethaf, yn bennaf trwy gymynroddion a chyfraniadau, mae’r Casgliadau Arbennig yn cynnwys dros 35,000 darn o waith argraffedig, wyth llawysgrif canoloesol, tua 100 o lawysgrifau ôl-canoloesol, a 69 incwnabwla. Mae deunydd yr Archifau'n cynnwys cofrestri myfyrwyr cynnar a ffotograffau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.
Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Llambed
Ceredigion
SA48 7ED
Ffôn: 01570 424716 (llinell uniongyrchol) neu Est. 4716 (mewnol).
Ymholiadau e-bost iL specialcollections@uwtsd.ac.uk
Cydnabyddir pob e-bost. Os na chewch chi gydnabyddiaeth, dylech gymryd yn ganiataol nad ydym wedi derbyn eich e-bost, a'i anfon atom eto.