Two academics looking at a Special Collections book

Efallai nad ydych erioed wedi defnyddio gwasanaeth archifau neu lyfrgell llyfrau prin o’r blaen. Bydd yr erthygl hon yn eich arwain trwy eich ymweliad cyntaf.

Mae Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen wedi’i lleoli yn ein Llyfrgell yn Llambed ar ochr dde’r llawr gwaelod.  Mae gennym ystafell ddarllen bwrpasol lle gallwch ddefnyddio’r archifau a’r llyfrau prin a gedwir yn ein hystafell ddiogel.  Cysylltwch â ni i wneud apwyntiad i ymweld. 

Archebu deunydd

Rydym yn gweithredu "gwasanaeth wedi’i gyfryngu", gyda staff yn nôl y deunyddiau rydych chi eu heisiau.  Yn wahanol i lyfrgell mynediad agored, nid yw’n bosibl i ddarllenwyr bori’r silffoedd.  Byddwch yn arbed amser trwy achredu eitemau ymlaen llaw cyn i chi ddod.  Anfonwch e-bost at specialcollections@uwtsd.ac.uk.  Neu gallwch bori trwy’r catalog a gwneud cais am ddeunydd wedi i chi gyrraedd.

Mae ein rheoliadau’n debyg i rai nifer o wasanaethau tebyg.  Rydym yn mynnu bod gwaith yn cael ei wneud mewn pensel ac nid pen.  Ni chaniateir bwyd a diod.  Dylech wneud yn siŵr bod eich dwylo’n lân a heb farnais ewinedd.  Ar gyfer materion sydd heb hawlfraint, mae croeso i chi ddefnyddio camera digidol, ond heb fflach.

Help a chyngor

Mae archifydd neu lyfrgellydd ar gael bob amser i’ch helpu.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch!  Hefyd mae gennym gasgliad cyfeiriol bach o ddeunyddiau ategol.

Cyfleusterau a lluniaeth

Mae toiledau ar y mesanîn, ger y fynedfa i’r llyfrgell.   Mae Siop Goffi 1822 y brifysgol nesaf at Neuadd Lloyd Thomas; mae nifer o gaffis eraill o fewn taith pum munud ar droed.