Jan van der Straet Venationes, Ferarum, Avium Piscium Pugna

Er iddo gael ei eni yn Llundain, gŵr o Sir Faesyfed oedd Phillips.  Daeth yn llawfeddyg a gyflogid gan yr East India Company, gan wneud ffortiwn sylweddol yn dilyn blynyddoedd lawer yn gwasanaethu yn India. Ar ôl ymddeol i Lundain yn 1817, neilltuodd weddill ei fywyd i hybu addysg yng Nghymru.

Yn India, roedd Phillips eisoes wedi dechrau sefydlu llyfrgelloedd bach gyda’r nod o gyfoethogi meddyliau a chymeriad moesol milwyr a oedd yn gwasanaethu. Ar ôl ymddeol i Brunswick Square, dechreuodd wneud rhoddion sylweddol o arian, llyfrau a chywreinbethau i nifer o unigolion  a sefydliadau yn Llundain, y Gororau a De Cymru. Coleg Dewi Sant, Llambed oedd un o'r buddiolwyr hyn.  Ddechrau’r 1830au, ymwelodd Phillips â’r coleg newydd, cyfarfu’r llyfrgellydd, yr Athro Rice Rees, a gwelodd fod y llyfrgell yn fach iawn.  Cyrhaeddodd ei gyflenwad cyntaf o 444 o gyfrolau ym mis Mawrth 1834. Roedd yn cynnwys argraffiadau o weithiau Pliny a Tertullian  o ddechrau’r 16eg ganrif ac argraffiadau cyntaf o waith Adam Smith Wealth of Nations (Llundain, 1776) a Poems on Several Occasions (Llundain, 1720) John Gay. Rhwng 1834 a 1851 anfonodd Phillips 22,500 o gyfrolau i’r llyfrgell mewn pum deg naw llwyth, yn ogystal â gwaddoli ysgoloriaethau a Chadair mewn Gwyddor Naturiol.   Roedd ei roddion yn cwmpasu llyfrau o bob math: gwerslyfrau ysgol rhad, llenyddiaeth ‘goeth’ yn Saesneg a Ffrangeg, llyfrau o ddarluniau wedi’u lliwio â llaw, llyfrau teithio, atlasau a chosmograffeg, gweithiau astudiaethau natur, cyfrolau athroniaeth, ynghyd â phregethau a diwinyddiaeth ddadleuol.  Er yr ymddengys yn debygol bod rhai o'r llyfrau hyn yn perthyn i’w gasgliad personol ei hun, cafodd y rhan fwyaf ohonynt mewn ystafelloedd arwerthu a siopau llyfrau yn Llundain i’w hanfon i Lambed.  Ychydig iawn o lyfrau a ddaeth o gasgliadau unigol, er y cyrhaeddodd nifer sylweddol yn 1847 o lyfrgell yr Hynafiaethydd, Henry Hatcher o Gaersallog.  Ar ôl 1833 ac un ar bymtheg arwerthiant Heber, fe ymddengys bod gormodedd o hen lyfrau ar gael, a olygai fod prisiau wedi gostwng.  Llwyddodd Phillips i brynu incwnabwla ac eitemau prin eraill heb fawr o gost.  Ymddengys yn debygol iddynt gael eu cludo mewn llong i Gaerfyrddin ac yna dros y tir mewn cart am y 23 milltir i Lambed.

Ymhlith y cyfrolau a roddwyd gan Phillips roedd chwe llawysgrif ganoloesol a thua hanner cant o gywreinbethau.  Mae’r cynharaf o’r rhain, sy’n dyddio o oddeutu 1200, yn rhan o lyfr mawr o distinctiones.  Mae nifer o eitemau yn cynnwys tystiolaeth o’u tarddiad ac anodiadau gan berchnogion blaenorol, gan gynnwys rhai casglwyr nodedig o’r ddeunawfed ganrif.  Roedd rhoddion Phillips yn cynnwys copi John Locke o waith Antonii van Dale, Dissertationes de origine ac progressu idolatriae (Amsterdam, 1696) a chopi Thomas Cranmer o Hugonis Cardinalis Divina expositio in altos quattuor Euangeliorum apices (Paris, 1508).

Roedd y rhan fwyaf o’r incwnabwla yn Llambed yn rhoddion gan Phillips, bron yn gyfan gwbl o weisg Almaeneg ac Eidaleg.  Credir mai gwaith printiedig cynharaf Llambed yw Epistolae Sant Jerome, a olygwyd gan Johannes Andreae ac a gyhoeddwyd yn Rhufain yn 1470.  Hefyd o Rufain daeth Vitae Plutarch (1470-71), a argraffwyd gan Hahn Ulrich o Bafaria.  Tarddai tri deg pump o incwnabwla Phillips o argraffdai mawr y Dadeni yn Fenis.  Mae'r uchafbwyntiau arbennig yn cynnwys Genealogia deorum Boccaccio, a argraffwyd gan un o'r brodyr Spira yn 1472.  Mae nifer o dudalennau wedi'u haddurno â choed achyddol wedi’u peintio â llaw, sy'n amlinellu tras y duwiau clasurol.   Ymhlith y printiadau eraill o Fenis mae Epistolae ad familiares Cicero (1491), Opera Horace (1490) a Metamorphoses Ovid (1497).

Roedd Phillips yn deithiwr ac mae lle canolog i lyfrau daearyddiaeth yn ei gasgliad.  Rhoddodd i’r Llyfrgell gopi o'r atlas Ewropeaidd mawr cyntaf sef Theatrum Orbis Terrarum  Ortelius (Llundain, 1606).  Mae hwn yn cynnwys y map printiedig cynharaf o Gymru gan Humphrey Llwyd o Ddinbych. Mae nodyn wedi’i ysgythru uwchben afon Teifi sy’n darllen 'Hic fluvius solus in Britannia castores habet' (hon yw'r unig afon ym Mhrydain sy’n cynnwys afancod).  Ychwanegodd Phillips  Atlas mwy gwyddonol Mercator (Amsterdam, 1636).  Mae’r gweithiau clasurol yn cynnwys gwaith Ptolemy La geografia (Fenis, 1561) a Geographica Strabo (Basle, 1571).  Yn ôl y disgwyl, mae oes arian teithio wedi’i gynrychioli’n dda; ymhlith y naratifau teithio mae gweithiau Alexander Dalrymple, James Cook, Syr George Staunton, John Ross a George Vancouver.

Gan fod Phillips yn aelod o’r East India Company ac wedi treulio llawer o’i oes yn India, mae’r dwyrain wedi’i gynrychioli’n dda.  Cynrychiolir llawfeddyg arall, John Borthwick Gilchrist, trwy A dictionary, English and Hindoostanee (Calcutta, 1787-90) ac A grammar of the Hindoostanee language (Calcutta, 1796).  Mae The view of Hindoostan gan Thomas Pennant (Llundain, 1798) yn gyfuniad rhyfedd o ddychymyg a dogfennaeth.  Darluniwyd Travels in India, during the years 1780, 1781, 1782 & 1783 (Llundain, 1793) gan bymtheg plât o luniadau Hodges.  Dywedodd Alexander von Humboldt mai gweld golygfeydd Hodges o India oedd un o'r sbardunau a’i arweiniodd i deithio. 

Mae llyfrau astudiaethau natur wedi’u cynrychioli’n dda, gan adlewyrchu teithiau Phillips efallai.  Y llysieulyfr cynharaf yw De Viribus Herbarum gan Macer Floridus y mae’n debygol iddo gael ei argraffu yn Geneva ychydig cyn 1498.  Mae'r llysieulyfrau eraill yn perthyn yn bennaf i’r 18fed ganrif, gan gynnwys Botanicum medicinale Sheldrake (Llundain, 1759), Horti medici Amstelodamensis rariorum gan Jan Commelin (Amsterdam, 1697-1701) a Hortus Romanus gan Giorgio Bonelli (Rhufain 1772-86).  Yn y gyntaf o ddwy gyfrol gan Eleazar Albin, Natural history of birds (Llundain 1731-34), mae gennym y gwaith cynharaf ar adar i ddefnyddio platiau lliw.  Ceir copïau o’r argraffiad cyntaf cain o British Zoology gan Thomas Pennant (Llundain, 1766) a’r ail argraffiad mwy llwyddiannus a llai ei faint (Llundain, 1768-70). Disgrifiwyd gwaith Pennant gyda’i esboniad ecolegol yn fodel y byddai golygyddion modern yn gwneud yn dda i’w efelychu. 

Price, D.T.W. (1997). Thomas Phillips of Brunswick Square.  Yn: Marx, W. (gol.) The Founders’ Library University of Wales, Lampeter, bibliographical and contextual studies: essays in memory of Robin Rider.  Lampeter: Trivium Publications

Walters, G. (1998). Books from the ‘Nabob’: the benefactions of Thomas Phillips at Lampeter and Llandovery.  Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 5, 38-61.  Ar gael o: https://journals.library.wales/view/1386666/1425397/37#?cv=37&m=101&h=thomas phillips AND nabob&c=0&s=0&xywh=-2240%2C-1%2C6978%2C3505  [Cyrchwyd 17 Ionawr 2018]

Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnwys 169 o gyfrolau o bamffledi yn rhodd gan Thomas Phillips (1760-1851).

Tarddiad y cyfrolau o bamffledi gan Phillips:

Cyfrolau traethodynnau 93, 172, 179, 186, 188, 235, 277, 311, 315, 357, 376, 419-420, 451, 488, 529-534, 536-537, 545, 552, 560-564, 566-575, 577, 581-582, 586-599, 601, 604-616, 618, 620-621, 624-625, 680-681, 683-688, 692-703, 705-710, 715-718, 722-728, 730, 732-737, 739, 741, 744-746, 748-751, 755-757, 764-766, 769, 771, 773, 775-776, 778-781, 783-784, 790, 792, 784, 797, 799, 803, 807-813, 815,817, 819-820, 822-823, 825-828.

Llyfryddiaeth / Darllen pellach

James, B. Ll. (comp.) (1975).  A Catalogue of the Tract Collection of Saint David’s University College, Lampeter.  London: Mansell