Thomas Hobbes. Leviathan. London, 1651.

Mae Casgliad Ystrad Meurig yn cynnwys tua chwe chant o eitemau o gyn-lyfrgell ysgol a phlwyf Coleg Sant Ioan (1757-1974) a sefydlwyd gan Edward Richard (1714-77), y mae tua 320 o lyfrau o’i lyfrgell wedi goroesi. Mae’r Casgliad yn cwmpasu ystod eang o bynciau yn y dyniaethau a diwinyddiaeth, yn bennaf yn Lladin a Saesneg, o’r 17eg i’r 19eg ganrif. Mae uchafbwyntiau’r Casgliad yn cynnwys Dictionary of the English Language gan Samuel Johnson, Dictionary  Pierre Bayle, a Leviathan Thomas Hobbes. 

Sefydlwyd Ysgol Ystrad Meurig c.1734 gan Edward Richard o Ystrad Meurig, a ddechreuodd trwy addysgu bechgyn lleol yn eglwys y plwyf. Roedd Edward Richard yn adnabyddus fel ysgolhaig a beirniad dwys,  hynafiaethydd, a bardd Cymraeg, ac roedd yn awdur rhai bugeilgerddi, y dywedir eu bod, o ran ceinder y cyfansoddi a phurdeb yr arddull, heb eu tebyg mewn unrhyw weithiau yn yr iaith Gymraeg. Credir iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1714, ond nid yw ei enw’n ymddangos ymhlith y bedyddiadau yn y gofrestr.

Erbyn 1759 roedd Edward Richard yn addysgu dros hanner cant o ddisgyblion ac yn 1757, sefydlwyd yr ysgol yn gyfreithiol a’i gwaddoli yn ysgol ramadeg. Yn 1774 datganwyd bod yr ysgol yn agored i fechgyn o Geredigion, gan gynnig addysg am ddim yn y Lladin ac yn egwyddorion Eglwys Loegr. Yn dilyn marwolaeth Edward Richard yn 1777, cymerodd y Parchedig John Williams yr awenau fel prifathro. O dan Williams, llwyddodd Ysgol Ystrad Meurig i sefydlu a chynnal enw da am ysgolheictod yn y clasuron. Erbyn 1812 roedd adeilad ysgol ar wahân wedi’i godi ym mynwent eglwys y plwyf a rhwng 1803 a 1827 Ystrad Meurig oedd y prif sefydliad ar gyfer hyfforddi ordinandiaid yn esgobaeth Tyddewi. Ar un adeg yn ystod y cyfnod hwn roedd 150 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol ac er i’r rhan fwyaf o’r disgyblion fynd yn eu blaenau i ddod yn glerigwyr Eglwys Loegr yng Nghymru, ymhlith y cyn-ddisgyblion adnabyddus roedd Dr David Davis, meddyg i William IV a’r Frenhines Victoria, a John Williams, warden cyntaf Coleg Llanymddyfri. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y disgyblion yn Ysgol Ystrad Meurig wedi agor Coleg Dewi Sant yn nhref gyfagos Llambed yn 1827. Daeth y cwricwlwm yn fwy tebyg i un ysgol uwchradd, a datblygodd i fod yn sefydliad paratoi i ddisgyblion a ddymunai fynd yn eu blaenau i astudio yng Ngholeg Dewi Sant, neu ym Mhrifysgol Cymru. Parhaodd yr ysgol i ddarparu addysg i fechgyn lleol a derbyn dynion y tarfwyd ar eu haddysg gan y ddau ryfel byd, cyn iddynt symud ymlaen i brifysgol. O’r 1950au dirywiodd yr ysgol yn raddol. Erbyn hyn fe’i gelwid yn Goleg Sant Ioan, er bod union ddyddiad y newid, a’r rheswm am hynny, yn anhysbys. Darparu cyrsiau lefel O a lefel A oedd ei brif rôl bellach ar gyfer darpar fyfyrwyr diwinyddiaeth yn Llambed. Ymddiswyddodd y prifathro olaf yn 1973. Ers hynny mae llyfrgell yr ysgol wedi’i symud i Goleg Dewi Sant, Llambed, a’r ysgol ei hun bellach yn cael ei defnyddio fel neuadd bentref.

 

Cwmpas a chynnwys: Mae’r archif yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud â mynediad i Ysgol Ystrad Meurig, ac o Ysgol Ystrad Meurig i Goleg Dewi Sant, Llambed; papurau ariannol, lluniau o’r coleg, copïau o gylchgrawn y coleg ac amrywiol eitemau eraill.