Gallwn ddefnyddio ein casgliadau nodedig, sydd yn aml yn unigryw, i gefnogi amrywiaeth eang o addysgu, er enghraifft yn hanes, llenyddiaeth Saesneg, archaeoleg, hanes pensaernïaeth, hanes celf, yr hen fyd, anthropoleg, treftadaeth a chrefydd. Cysylltwch â ni i drefnu sesiwn.
- Rydym yn cadw amrywiaeth enfawr o ddeunydd ffynhonnell gwreiddiol; mae defnyddio hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o’r defnydd o ddeunydd gwreiddiol mewn ymchwil. Gall ddod â’r addysgu’n fyw i diwtoriaid yn ogystal â myfyrwyr.
- Rydym yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau a deunydd dysgu ac addysgu sydd wedi’u hanelu at staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol, gan gynnwys digwyddiadau, arddangosfeydd, deunydd Sgiliau Gwybodaeth a’r cyfryngau cymdeithasol. Gan fod nifer o’n heitemau’n fregus, yn brin ac yn werthfawr, nid yw bob amser yn ymarferol eu cludo i ffwrdd o’r amodau rheoledig lle cânt eu storio, fodd bynnag cysylltwch â ni i drafod eich anghenion ac fe gawn weld beth gallwn ni wneud.
- Mae ein hystafell ddarllen yn darparu amgylchedd da ar gyfer seminarau, gan ddefnyddio deunyddiau o’n casgliadau. Gellir arddangos eitemau a, chan ddibynnu ar eu breuder, gall aelodau’r grŵp afael ynddynt. Mae ein staff yn hapus i roi cyflwyniadau cyffredinol ar y defnydd o’r casgliadau; mewn rhai achosion gall fod yn briodol i un ohonom ni baratoi a darparu sesiynau addysgu i israddedigion.
- Gallwn helpu i ddatblygu aseiniadau myfyrwyr. Gallwn hwyluso ystod eang o fathau o waith, (er enghraifft arddangosfeydd ffisegol neu ar-lein o ansawdd da, posteri a chyflwyniadau, yn ogystal â thraethodau). Mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd academydd am gyflwyno pwnc, gyda darnau unigol o waith dilynol gan fyfyrwyr yn seiliedig ar ein casgliadau. Mae gennym gyfoeth o ddeunydd, sy’n addas fel pynciau ar gyfer traethodau hir myfyrwyr.
- Gallwn dreulio amser yn gweithio gyda myfyrwyr unigol.