Prentisiaeth mewn Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu (BEng Anrh)
Mae rhaglen ran-amser BEng Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu wedi’i datblygu’n agos iawn gyda chwmnïau gweithgynhyrchu lleol i ddiwallu eu hanghenion penodol.
Mae’r graddau Baglor canlynol wedi’u hachredu yn rhai sy’n bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestriad Peiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) ar gyfer y carfannau sy’n dechrau o 2015 tan, a chan gynnwys, 2023.
Mae ein cwricwlwm sydd â ffocws ar y diwydiant, yn anelu at greu arweinwyr diwydiant peirianneg yfory.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nod y cwrs gweithgynhyrchu hwn yw datblygu myfyrwyr sydd â gwybodaeth gadarn am ddeunyddiau technoleg gweithgynhyrchu a’r egwyddorion peirianyddol sylfaenol sy’n llywio dulliau diwydiannol cyfredol. Yn ogystal, byddwch yn dysgu’r dulliau diweddaraf o reoli systemau ansawdd a gweithgynhyrchu.
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 Credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Prosiect seiliedig ar waith yw hwn a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a ddatblygwyd gydol y cwrs i ddatrys problem go iawn ym maes peirianneg yn y gweithle.