Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn credu’n gryf mewn cynnig patrymau dysgu hyblyg sy’n gweddu dysgwyr o bob cefndir ac i’r rheiny sy’n cydbwyso ymrwymiadau eraill.
Rydym yn cynnig cyrsiau rhan-amser ar lefel Israddedig ac Ôl-raddedig ynghyd ag ystod o gymwysterau proffesiynol rhan-amser.
Mae ein Tystysgrifau Addysg Uwch a’r rhaglenni Dysgu Ar-lein a Dysgu o Bell ar gael yn rhan-amser, ynghyd â’n Doethuriaethau Proffesiynol a llawer o’n Graddau Israddedig ac Ôl-raddedig.