Mae dewis prifysgol fel myfyriwr rhyngwladol yn benderfyniad mawr. Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae ein tîm ymroddedig a chyfeillgar yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd, o gychwyn eich cais hyd at eich helpu i ddod yn gyfarwydd gyda bywyd myfyriwr.
“Mae fy mywyd fel myfyriwr rhyngwladol yn PCYDDS wedi’i lenwi â phrofiadau newydd, atgofion gwerthfawr, a phobl ysbrydoledig. Mae Cymru yn anhygoel. Rwyf wrth fy modd â golygfeydd y mynyddoedd godidog, y cestyll hynafol a’r arfordir. Ar ben hynny, mae lletygarwch gofalgar enwog ei phobl a’i chysylltiadau cyfeillgar yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus yn derbyn Cymru fel fy ail gartref. Alla i ddim aros i brofi mwy o Gymru yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr yma.” - Myfyriwr O St. Vincents A'r Grenadines
Fel myfyriwr rhyngwladol fe gewch chi:
- Cefnogaeth lawn yn ystod eich proses ymgeisio am fisa yn y DU gan arbenigwyr ymroddedig
- Gwasanaeth croeso maes awyr o Faes Awyr Heathrow ar ddyddiadau penodedig
- Sgiliau astudio a chymorth iaith
- Rhaglenni Diwylliannol: cyfres o deithiau penwythnos o amgylch Cymru, a mannau enwog eraill yn y DU
Pa bynnag gampws rydych chi’n astudio arno, fe welwch chi amgylchedd gofalgar i ffynnu ynddo - lle rydych chi’n perthyn, lle mae pawb yn gwybod eich enw. Fe welwch eich ffit cyn pen dim o amser.