Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn sicrhau bod i’r Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Golyga hyn na ddylid ei thrin yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg. Mae hefyd yn fodd o sefydlu fframwaith cyfreithiol sy’n gosod dyletswydd ar rai cyrff i gydymffurfio â safonau penodol sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Beth yw Safonau’r Gymraeg?

Mae’r Safonau’n cymryd lle’r system flaenorol o gynlluniau iaith Gymraeg, a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Maent yn set o ofynion cyfreithiol sydd â’r nodau canlynol:

  • gwella’r gwasanaethau dwyieithog y gall pobl Cymru eu disgwyl gan nifer o gyrff cyhoeddus a statudol, gan gynnwys prifysgolion a cholegau
  • ei gwneud hi’n eglur sut y mae disgwyl i sefydliadau ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd
  • ei gwneud hi’n eglur i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau o ran y Gymraeg
  • ei gwneud hi’n fwy eglur i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
  • sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd

Mae disgwyl i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gydymffurfio â’r safonau canlynol:

  • Safonau Cyflenwi Gwasanaethau
  • Safonau Llunio Polisi
  • Safonau Gweithredu
  • Safonau Cadw Cofnodion

Mae’r rhain wedi eu rhestru yn yr Hysbysiad Cydymffurfio a gyflwynwyd i’r sefydliad gan Gomisiynydd y Gymraeg ddiwedd Medi 2017.

Mae’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Safonau yn golygu y dylai sefydliadau beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ynghyd â hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg (sef ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd).

Gweithredu’r Safonau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae'r Brifysgol yn bwriadu cydymffurfio â’r Safonau ar draws ei holl gampysau yng Nghymru yn unol â’r disgwyliadau a nodwyd yn yr Hysbysiad Cydymffurfio, disgrifir hyn yn ein Cynllun Cydymffurfio.

Darperir sesiynau hyfforddiant ar gyfer rheolwyr i ymgorffori’r Safonau, hyrwyddo cyfleoedd dysgu a rhannu arfer gorau a syniadau.

Mae tudalen benodol ar ein mewnrwyd yn darparu canllawiau ac adnoddau i gefnogi staff i weithredu’r Safonau a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y Brifysgol.

Y Dirprwy Is-Ganghellor yw’r swyddog arweiniol penodedig â chyfrifoldeb am sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio’n llawn â’r Safonau ar draws y campysau perthnasol.