Cyflogadwyedd Seicoleg

Psychology Employability

Mae’r Ysgol o’r farn fod cyflogadwyedd yn nod allweddol wrth gyflwyno’r rhaglen.

Roedd 92% o fyfyrwyr YDDS yn yr Ysgol Seicoleg mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl iddynt raddio.

Mae strwythur, natur a chynnwys y rhaglenni a gynigir o fewn yr Ysgol yn caniatáu i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau dadansoddol a throsglwyddadwy cryf a groesawir gan nifer o sectorau yn cynnwys Addysg, Gofal Cymdeithasol, Nyrsio a’r galwedigaethau cysylltiedig, Busnes ac Anoddau Dynol.  Mae’r rhaglenni’n rhoi i fyfyrwyr set gadarn o sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddol a datrys problemau, yn ychwanegol at lawer o sgiliau trosglwyddadwy eraill a ystyrir yn rhai dymunol gan nifer o gyflogwyr a chyrsiau ôl-raddedig.