Pam Astudio Yma?

Seven doors, six of which are grey. The final door is red.

Mae’r Ysgol Seicoleg, ar draws bob campws, yn cynnig cyfuniad o boblogaeth amrywiol o fyfyrwyr a thîm darlithio profiadol, gweithgar ym maes ymchwil, gyda nifer ohonynt yn parhau i ymarfer yn broffesiynol yn eu meysydd. Mae hyn yn creu amgylchedd dysgu ysgogol sy’n cyfoethogi mwynhad myfyrwyr o’r cwrs.

Mae’r cyfleusterau seicoleg pwrpasol a'r awyrgylch cadarnhaol yn creu profiad dysgu cyffrous i fyfyrwyr a gyfoethogir ymhellach drwy gael tîm o ddarlithwyr sy’n cydweithio’n agos â’i gilydd, a gyda’r myfyrwyr eu hunain. Mae’r addysgu a’r dysgu i fyfyrwyr yn canolbwyntio ar:

  • annog sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau ac ymchwilio
  • gwella’r ddealltwriaeth o’r cyswllt rhwng cysyniadau damcaniaethol a chymwysiadau ymarferol
  • cynorthwyo ac arwain myfyrwyr ar bob lefel trwy darlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a gweithdai
  • datblygu cymorth drwy ein system tiwtor personol
  • cefnogi datblygiad ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau cyflogadwyedd ymhlith ein myfyrwyr
“Nid ydym yn addysgu mewn darlithfeydd mawr, ond mae gennym ymrwymiad i addysgu mewn grwpiau bach mewn amgylcheddau rhyngweithiol a chydweithredol. Golyga hyn y byddwch yn gweithio’n agos gyda’ch darlithwyr trwy gydol eich amser gyda ni, gan fagu hyder a meithrin ystod o sgiliau y gallwch eu cymryd ymlaen i ystod o alwedigaethau neu astudiaethau ôl-raddedig wedi ichi gwblhau eich gradd.” 
Dr Ceri Phelps – Pennaeth Disgyblaeth Academaidd (Seicoleg) 

1af Daeth YDDS yn 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Seicoleg – UKES 2018.

Labordai:

  • Biometreg
  • Ymchwil Ymddygiadol
  • Gêmeiddoli
  • Seicometreg