Croeso i Ganolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant

Croeso i dudalennau gwefan Canolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant, canolfan ymchwil ac addysgu oddi mewn i  Gyfadran y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Diben y Ganolfan yw ystyried sut rydym yn byw ar y Ddaear, gan gyfeirio’n benodol at yr awyr a’r cosmos yn rhan o’r amgylchedd ehangach. 

Y prif gymhwyster a addysgwn yw’r cwrs MA Seryddiaeth Ddiwylliannol a Sêr-ddewiniaeth o bell, ar-lein, sef yr unig radd academaidd yn y byd sy’n archwilio perthynas â’r awyr. Nid oes angen byw yn y DU i astudio’r MA hwn. Mae gennym gymuned fyd-eang o fyfyrwyr ac ysgolheigion sy’n cysylltu ar y we. Caiff modylau o’r MA hefyd eu hastudio gan fyfyrwyr ar raddau MA eraill yn y Brifysgol, gan gynnwys yr Mas mewn Crefydd yr Hen Fyd, Astudio Crefyddau, Anthropoleg Ymgysylltiedig, ac Ecoleg ac Ysbrydolrwydd.  Ar gyfer pob ymholiad academaidd a gwybodaeth bellach, cysylltwch Dr Nicholas Campion at n.campion@pcydds.ac.uk.

Mae gwaith y Ganolfan yn rhannol hanesyddol, yn rhannol anthropolegol ac yn rhannol athronyddol. Mae ganddo gylch gorchwyl eang i ymchwilio i rôl credoau cosmolegol a sêr-ddewiniol, modelau a syniadau ym maes diwylliant dynol, gan gynnwys theori ac arfer chwedl, hud, darogan, crefydd, ysbrydolrwydd, pensaernïaeth, gwleidyddiaeth a’r celfyddydau. Mae ein gwaith yn ystyried y ffyrdd y mae pobl wedi ceisio byw mewn cytgord â’r cosmos,

Rydym yn ymdrin âr byd modern yn gymaint ag arferion brodorol neu rai’r hen fyd, ac mae ein gwaith yn amrywio i astudio safleoedd Neolithig i gosmoleg ganoloesol, hanes sêr-ddewiniaeth yn yr hen fyd, yr India a’r gorllewin, natur gofod a lle ar y Ddaear yn ogystal ag yn yr awyr, a moeseg y camau modern i archwilio’r gofod.    Nid ydym yn ein cyfyngu ein hunain i unrhyw gyfnod amser neu ddiwylliant. Os yw’n ymwneud â’r awyr, fe wnawn ni ddod o hyd i le iddo!

Rydym hefyd yn cynnig yr opsiynau hyblyg canlynol i’w hastudio sy’n gweddu i fyfyrwyr sydd â naill ai diddordebau neu ymrwymiadau sy’n ei gwneud yn anodd iddynt gofrestru ar gyfer yr MA llawn:

  • Myfyriwr achlysurol (dilyn un neu ddau fodwl MA)
  • Tystysgrif Ôl-raddedig (tri modwl MA)
  • Diploma Ôl-raddedig (chwe modwl MA)

Os cofrestrwch chi ar gyfer un o’r opsiynau hyn i ddechrau, wedyn gallwch symud yn eich blaen i’r MA llawn os dymunwch.

Mae’r Ganolfan hefyd yn goruchwylio myfyrwyr PhD, yn cynnal cynadleddau, yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau, yn noddi digwyddiadau ac yn rheoli prosiectau ymchwil. Ein prif brosiect ymchwil ar hyn o bryd yw ‘Ffurfafennau Mynachlogydd Cymru’, ymchwiliad i aliniad abatai Cymru o ran nodweddion pwysig yn yr awyr a’r tir. Rydym wedi bod yn ddylanwadol o ran datblygu cysyniad y ffurfafen yn nodwedd hanfodol o ddiwylliannau dynol.

  • Ar gyfer ein gweithgareddau ymchwil gweler yma.
  • Ar gyfer ein gwaith allgymorth cyhoeddus, gan gynnwys ein cynadleddau, digwyddiadau, darlithoedd cyhoeddus ar-lein a chylchlythyrau gweler Prosiect Sophia .
  • Ar gyfer cyhoeddiadau gweler ein cyhoeddwr academaidd, The Sophia Centre Press, a sefydlwyd yn 2009 yn un o is-gwmnïau’r Brifysgol, Culture and Cosmos, cylchgrawn hanes sêr-ddewiniaeth a seryddiaeth, a Spica, cylchgrawn myfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ymhlith ein prosiectau cyfredol mae Menter Cytgord sy’n archwilio sut y gall neu sut mae pobl yn byw mewn cytgord â’r blaned ac yn cysylltu â materion amgylcheddol ehangach, a phrosiect Tairona Sophia  sy’n darparu cymorth academiaeth u Ymddiriedolaeth Treftadaeth Tairona.

Os oes gennych ddiddordeb yn y ffordd y defnyddiwn yr awyr i greu ystyr ac arwyddocâd efallai mai’r Ganolfan fydd y lle gorau i chi astudio. Trwy ymuno â Chanolfan Sophia, rydych yn dod i gymuned o ysgolheigion a myfyrwyr o’r un anian, a’i nod o archwilio perthynas dynoliaeth â’r cosmos.  

 ‘Mae gwaith y Ganolfan mor eang ag y bo modd ac mae maes llafur yr MA yn arloesol, yn unigryw ac yn arloesol. Rydym yn astudio’r ffyrdd niferus y mae bodau dynol yn rhoi gwerth i’r cosmos ac yn defnyddio’r awyr yn gefndir theatraidd i adrodd straeon a chreu ystyr.’ 

Dr Nicholas Campion, Cyfarwyddwr Canolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant.