Image and intro
Uwch Ddarlithydd
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: +44 (0) 1267 676615
E-bost: a.rees-edwards@uwtsd.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Cydlynydd Rhaglen FdA Plentyndod Cynnar
- Cydlynydd Ymarfer Blynyddoedd Cynnar
- Arweinydd Tîm Partneriaeth i Golegau Partner
- Cydlynydd modwl
- Cynorthwyo gyda derbyniadau
- Wythnos gyflogadwyedd
- Arholwr Allanol
- Pwyllgor Materion Rhyngwladol a Phartneriaethau Cydweithredol
Cefndir
Wedi i mi adael ysgol, penderfynais fagu teulu cyn ystyried gyrfa. Wrth i’r plant ddechrau ysgol a Chylch Meithrin, astudiais gwrs BTEC mewn Astudiaethau Datblygiad Plentyn yng Ngholeg Ceredigion. Gweithiais fel NNEB mewn ysgol gynradd am sawl blwyddyn ac ennill profiadau amhrisiadwy o weithio gyda phlant gydag ystod o anawsterau dysgu megis Dyslecsia, Dyspracsia a Syndrom Asperger.
Yn 2005, penderfynais astudio gradd BA Addysg Blynyddoedd Cynnar trwy ddilyn y Dull Dysgu Hyblyg yma yn y Drindod. Roedd hyn yn golygu gweithio yn ystod y dydd ac astudio min nos. Enillais radd dosbarth cyntaf gydag anrhydedd yn 2008 ac ymunais a’r Brifysgol fel tiwtor ar brosiect Geiriau Bach. Yn ogystal, enillais Gymrodoriaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru a chael swydd fel darlithydd i Ysgol Blynyddoedd Cynnar. Yn 2013, cyflawnais Tystysgrif Ôl-radd Dysgu mewn Addysg Uwch ynghyd ag MA Addysg Blynyddoedd Cynnar. Yn 2015, cyflawnais Tystysgrif Ôl-radd o’r Brifysgol Agored.
- BA, MA, Tystysgrif Ôl-radd Addysg Uwch
- Tystysgrif Ôl-radd o’r Brifysgol Agored
- Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
Diddordebau Academaidd
Mae gennyf ddiddordeb ym mob agwedd o fywyd plant ifainc, gyda diddordeb penodol mewn anghenion dysgu ychwanegol, pwysigrwydd chwarae, caffael iaith a defnydd o dechnoleg gan blant ifainc.
Rwy’n darlithio ar nifer o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig sydd yn cynnwys themâu a phynciau megis:
- Sgiliau astudio academaidd i fyfyrwyr;
- Datblygiad iaith a llythrennedd;
- Rhifedd cynnar;
- Cynhwysiant;
- Iechyd a lles plant ifainc.
Rwyf hefyd yn goruchwylio traethodau hir israddedig ac ôl-raddedig.
Meysydd Ymchwil
Mae fy meysydd ymchwil a ddiddordebau academaidd yn cynnwys: datblygiad iaith plant ifanc, gan gynnwys dwyieithrwydd, plant ag anghenion dysgu ychwanegol a thechnoleg. Rwyf wedi gwneud gwaith ymchwil ar fanteision therapi cerddoriaeth i blant ifanc o dan y sbectrwm Awtistig. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn agweddau myfyrwyr tuag at addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Arbenigedd
- Sgiliau astudio i fyfyrwyr
- Datblygiad iaith plant ifanc
- Arfer gynhwysol
- Llythrennedd gynnar
- Plant ag anghenion dysgu ychwanegol