Skip page header and navigation

Dr Amanda John

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Darlithydd

Yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd


E-bost: amanda.john@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Mae Amanda yn hyfforddwr SKIP Cymru (hawlfraint) i Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru (WAHPL) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).  Ar ôl cwblhau ei gradd Meistr yn 2017 drwy’r brifysgol, yn 2018 dyma hi’n dechrau ar ei hymchwil doethurol gan edrych ar effaith SKIP Cymru (hawlfraint). Mae Amanda hefyd yn gweithio ar y Rhaglen Addysg Gorfforol israddedig a Meistr.

Cefndir

Cyn ei hastudiaethau doethurol bu Amanda yn gweithio ym maes Datblygu Chwaraeon ac Addysg am dros 10 mlynedd yn Sir Benfro. Roedd ei phrif rolau’n cynnwys addysgu addysg gorfforol mewn  ysgolion cynradd ac uwchradd a chefnogi ysgolion i ddatblygu llythrennedd corfforol. Yn ystod 2015-2017 cafodd Amanda ei secondio un diwrnod yr wythnos i weithio yn rhan o Brosiect Llythrennedd Corfforol Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion yn y rhanbarth. Mae’n angerddol iawn am ei gwaith ac  yn credu y dylai  pob  plentyn gael amrywiaeth o  brofiadau symud o oedran cynnar a fydd yn caniatáu iddynt bod yn symudwyr hyderus yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae hi hefyd yn angerddol am gefnogi’r bobl allweddol fel athrawon, hyfforddwyr a rhieni sy’n gallu darparu’r cyfleoedd cynhwysol hyn.

Mae ymrwymiad Amanda i lythrennedd corfforol yn amlwg yn ei hamser hamdden ei hun gan ei bod yn gwerthfawrogi gweithgarwch corfforol yn fawr. Ei phrif gamp ers pan oedd yn ifanc yw pêl-droed, ymddeolodd yn 2016 gyda Merched Dinas Abertawe. Erbyn hyn mae ganddi fwy o amser i fwynhau ei  hobïau eraill, sy’n cynnwys taro’r gampfa, rhedeg llwybrau, beicio, sgïo, ac unrhyw beth ar y môr.