Skip page header and navigation

Andrew Currie BA, MA, MRes

Image and intro

staff silhouettes male icon

Lecturer and Translation Services Coordinator

Institute of Education and Humanities

Tel: 01267 676846
Email: a.currie@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Darlithydd mewn Astudiaethau Celtaidd
  • Darlithydd mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd
  • Cydlynydd Gwasanaethau Cyfieithu

Cefndir

Graddiodd Andrew gyda BA yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1995. Ar wahân i’r Gymraeg ei hun, roedd hyn yn golygu astudio nifer o ieithoedd Celtaidd eraill, gan gynnwys y Llydaweg, y Gernyweg a’r Wyddeleg. Ei swydd amser llawn gyntaf ym myd addysg oedd mewn Coleg Addysg Bellach yng Nghaerdydd, lle gweithiodd fel darlithydd iaith Gymraeg am ddeng mlynedd.

Yn 2002, ymgymerodd ag MA mewn Astudiaethau Celtaidd Cynnar yn Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, gyda ffocws ar agweddau hanesyddol ac archeolegol y maes hwnnw.

Yn fwy diweddar, yn 2020, cwblhaodd Andrew MRes mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, lle mae hefyd yn rheoli’r gwasanaeth cyfieithu sefydliadol, ac wedi gweithio o’r blaen fel cyfieithydd, swyddog iaith a thiwtor iaith Gymraeg. Mae’n gweithio i’r brifysgol er 2005.

Diddordebau Academaidd

Ar hyn o bryd mae Andrew yn darlithio ar y modylau canlynol:

BA Astudiaethau Celtaidd:

  • Y Celtiaid Cynnar
  • Cernyw heb y Gernyweg
  • Gwir Frythoniaid
  • Welsh Language Skills 1
  • Welsh Language Skills 2

MA Astudiaethau Celtaidd:

  • Y Celtiaid: O’r Cychwyn i’r Cyfnod Modern
  • Welsh for Beginners

Mae hefyd yn goruchwylio traethodau hir yn Rhan 2 o’r rhaglen uchod.

MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd:

  • Cyflwyniad i Ddwyieithrwydd
  • Dwyieithrwydd Cymdeithasol
  • Agweddau Gwybyddol ar Ddwyieithrwydd
  • Modelau ar gyfer Addysgu Dwyieithog

Meysydd Ymchwil

Mae gan Andrew ddiddordeb penodol ym mhob agwedd ieithyddol ar y Gymraeg a’i chwaer-ieithoedd Brythonaidd, yn ogystal â diddordeb cyffredinol ehangach mewn ieithyddiaeth gymhwysol, ieithyddiaeth gymdeithasol ac amrywiaeth ieithyddol ar draws y byd.

Edrychodd ei draethawd hir MRes ar amrywiaeth fio-ddiwylliannol, a’r prosesau tebyg o esblygiad, ecoleg a difodiant a wynebir gan ieithoedd a rhywogaethau biolegol fel ei gilydd.

Arbenigedd

Yn ystod ei flynyddoedd mewn Addysg Bellach, gweithiai Andrew ar secondiad i Sgiliaith, yn hybu cyrsiau cyfrwng Cymraeg yn y sector hwnnw ar draws Cymru gyfan.

Yn yr un cyfnod, cymhwysodd fel gwiriwr allanol ar gyfer unedau iaith NVQ ac fel cymedrolwr dwyieithog ar gyfer Sgiliau Allweddol a Hanfodol.

Cyn symud i mewn i fyd addysg, gweithiodd Andrew fel cynllunydd yn y diwydiant electroneg am ddeuddeng mlynedd.