Llun a Chyflwyniad
Rôl yn y Brifysgol
Darlithydd
Cefndir
Bûm yn gweithio yn y sector offer electronig i ddefnyddwyr am nifer o flynyddoedd cyn newid i lwybr gyrfa sy’n canolbwyntio ar Chwaraeon Moduro.
Diddordebau Academaidd
Addysgu ar draws amrywiol lwybrau o fewn yr adran Beirianneg, gan arbenigo mewn:
- Dynameg Cerbydau
- Dulliau Efelychu Dynameg Cerbydau (Gyrrwr o fewn a’r tu allan i’r Ddolen)
- Systemau Caffael Data
- Dadansoddi Data i asesu Perfformiad Cerbyd/Gyrrwr
- Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur (CAD, Dadansoddiad Strwythurol a Dadansoddiad Hylifol Cyfrifiadurol)
- Dylunio Cydrannau Peiriannau Hylosgi Mewnol
Arbenigedd
Treuliais ddegawd yn gweithio yn y sector offer electronig i ddefnyddwyr, ochr yn ochr â chwmnïau megis Samsung, LG a Panasonic, yn tracio patrymau namau, yn ymchwilio i broblemau ac yn gweithio gydag adrannau peirianneg i weithredu atebion.
O fewn amgylchedd Chwaraeon Moduro, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael profiad o weithio ar draws y categorïau canlynol:
- Ceir Rasio Un Sedd (F3 yn bennaf)
- Prototeipiau Chwaraeon (Amrywiol Gyfresi)
- Rali Grŵp B Hanesyddol
Fy mhrif faes arbenigedd yw gweithio fel peiriannydd perfformiad ar ochr y trac, yn dadansoddi data cerbydau ac yn nodi gwelliannau mewn perfformiad gan y car a’r gyrrwr.