Image and intro
Cydlynydd Prosiectau a Darlithydd Cymraeg
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
E-bost: a.karadog@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Rydw i’n gweithio ar amrywiol brosiectau addysgiadol ac ieithyddol sy’n rhan o arlwy Peniarth. O waith cyfieithu, prawf-ddarllen i greu adnoddau.
Fel darlithydd rydw i wedi dysgu ar y Cwrs Sabothol ac rwy’n ddarlithydd cyfredol ar y cwrs BA Addysg fel tiwtor Cymraeg. Rydyn ni’n cynnig sesiynau gloywi iaith i fyfyrwyr gan hefyd gyflwyno methodoleg dysgu iaith a gramadeg i’r myfyrwyr ei drosglwyddo i’w gyrfaoedd fel athrawon.
Cefndir
Wedi cyfnod o bron i ddegawd yn gweithio yn y cyfryngau Cymraeg gyda chwmni Tinopolis, yn cyflwyno ac ymchwilio ar raglenni fel Wedi 7, Heno, Siaradog a Sam ar y Sgrîn, es i yn ôl i’r byd academaidd i wneud PhD mewn ysgrifennu creadigol Cymraeg. Yn ogystal â gyrfa yn y cyfryngau, rydw i wedi bod yn gweithio fel bardd, awdur ac ymarferwr creadigol ers 2005 ac wedi bod yn Fardd Plant Cymru (2013-2015) yn ogystal â chyhoeddi hanner dwsin o gyfrolau o’m gwaith fy hun a chyfieithu dwsin o lyfrau i blant.
Ymunais â’r Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg ym mis Gorffennaf, 2021 gan weithio’n rhan amser i’r Brifysgol yn ogystal â pharhau i weithio fel bardd.
Diddordebau Academaidd
- Cymraeg
- Ysgrifennu Creadigol
- Barddoni
- Cynghanedd
- Llydaweg
- Ffrangeg
- Sbaeneg (Llenyddiaeth ac Iaith)
Meysydd Ymchwil
PhD Ysgrifennu Creadigol Cymraeg, Prifysgol Abertawe, 2020. Testun fy ymchwil oedd: ‘Y berthynas rhwng y bardd, ei gyfrwng a’i gynulleidfa’.
Cyhoeddiadau
- ‘O Annwn i Geltia’, 2012, Cyhoeddiadau Barddas.
- ‘Agor Llenni’r Llygaid’, 2015, Gwasg Gomer.
- ‘Bylchau’, 2016, Cyhoeddiadau Barddas.
- ‘Llafargan’, Cyhoeddiadau Barddas, 2019
- ‘Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg’, gwasg Carreg Gwalch, 2019.
- ‘Y Gynghanedd Heddiw’ (Gol. Gydag Eurig Salisbury), 2020, Cyhoeddiadau Barddas.