Skip page header and navigation

Yr Athro Cysylltiol Caroline Lohmann-Hancock BA, MA, DMSIAD, Dip AD, EdD, HEA

Image and introduction

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Uwch Ddarlithydd Rheolwr Rhaglen: MA Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas

Cyfarwyddwr Graddau Ymchwil yr Athrofa

Ffon: +44 (0) 01267 676674 
E-bost: c.lohmann-hancock@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Uwch Ddarlithydd

Cyfarwyddwr Graddau Ymchwil yr Athrofa

  • Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
  • MA Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas

Cyfarwyddwr Rhaglen

Cyfrifoldebau o fewn y Ddisgyblaeth:

  • Goruchwyliwr PhD
  • Arholwr Mewnol PhD
  • Tiwtor Derbyn (Ar gyfer y rhaglen a nodir uchod)
  • Tystlythyrau Myfyrwyr (Ar gyfer y rhaglen a nodir uchod)
  • Tiwtor Personol (Ar gyfer y rhaglen a nodir uchod)
  • Marchnata ar gyfer y Ddisgyblaeth

Cyfrifoldebau o fewn y Gyfadran:

  • Aelod o’r Pwyllgor Ymchwil - Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
  • Aelod o’r Pwyllgor Marchnata - Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Cyfrifoldebau o fewn y Brifysgol:

  • Aelod o’r Pwyllgor Graddau Ymchwil
  • Aelod o’r Pwyllgor Derbyniadau Graddau Ymchwil
  • Aelod o Weithgor Sefydliad Cytgord

Cefndir

Mae Caroline wedi gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau i gefnogi cydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant mewn cymdeithas. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Oedolion ag anghenion dysgu penodol
  • Troseddwyr ifanc
  • Unigolion ar gyfnod prawf
  • Y rheini sydd mewn perygl o gam-drin domestig
  • Oedolion sy’n ddysgwyr
  • Rheolwyr Ysgolion

Aelod O

  • Aelod o’r Gymdeithas Datblygiad Proffesiynol Ryngwladol (IPDA)
  • Cylchgrawn Addysg Cymru
  • SFHEA - Uwch Gymrawd o’r AAU
  • Cymdeithas Gymdeithasegol Prydain (BSA)

Diddordebau Academaidd

Cymdeithaseg:

  • Gan ganolbwyntio ar gymdeithaseg, addysg ac allgáu a chanolbwyntio ar dlodi, hunaniaeth a phortreadau diwylliannol a chymdeithasol yn y cyfryngau.
    • Cynaliadwyedd a Chynhwysiant Cymdeithasol
    • Unigolion a Grwpiau mewn Cymdeithas
    • Tirwedd Cynhwysiant Cymdeithasol (Damcaniaethau Cymdeithasegol)
    • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Grym ac (At)Gynhyrchu Anghydraddoldeb yn Gymdeithasol

Addysg:

  • Gan ganolbwyntio ar atgynhyrchu anghydraddoldeb drwy addysg, dysgu gydol oes a chreadigrwydd.
  • Byd Newidiol Addysg, Dysgu, Gwybodaeth
  • Addysg - Materion Hanesyddol a Chyfoes mewn Addysg
  • Diwylliant, Hunaniaeth ac Addysg
  • Dysgu mewn Amgylchedd Cynhwysol

Dysgu Gydol Oes:

  • Datblygiad yr Unigolyn a’r Gymuned
  • Dulliau Ymchwil:
  • Ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig
  • Deall Dulliau Ymchwil
  • Ymchwilio ac Adfyfyrio ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Traethodau Hir a Sgiliau Astudio:

  • Israddedig
  • Sgiliau Astudio Academaidd
  • Goruchwylio Traethodau Hir
  • Ôl-raddedig
  • Traethawd Hir: Cynhwysiant Cymdeithasol

PhD/MPhil

  • Goruchwylio Traethodau Hir Lefel 7
  • Goruchwylio Lefel Ddoethur

Meysydd Ymchwil

Mae gen i ddiddordeb eang mewn addysg, dysgu ac addysgu, dysgu ar-lein a dysgu gan droseddwyr; yng nghyd-destun materion allgáu cymdeithasol megis canfyddiadau o dlodi, grwpiau sy’n agored i niwed ac sydd wedi’u hallgáu, a rôl y cyfryngau o ran stereoteipio a rhagfarn.

Mae f’ymchwil yn canolbwyntio ar unigolion a grwpiau sydd wedi’u hallgáu neu mewn perygl o hynny, drwy roi llais iddynt drwy naratifau personol.  Yn hanesyddol o fewn ymchwil ethnograffig bu traddodiad o glywed straeon pobl sydd â safle cymdeithasol israddol drwy ddatblygu’r gwaith o ddadansoddi naratifau personol; mae hyn yn caniatáu dealltwriaeth o’r modd yr adeiladir galluedd dynol a’r syniad o’r hunan o fewn cyd-destunau amrywiol e.e. rhywedd, dosbarth, addysg, anabledd a thlodi (Maines et al, 2008).  

Mae ymchwil o fewn y fframwaith hwn yn bell o fod yn fenter sydd â naws voyeuraidd, yn hytrach ei nod yw datgelu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth ar gyfer yr actor cymdeithasol a’r ymchwilydd; yn ei dro mae hyn yn caniatáu ystyriaeth o strategaethau ar gyfer newid.  O’r safbwynt hwn mae f’ymchwil yn archwilio profiadau goddrychol ond ar yr un pryd mae’n ceisio deall y strwythurau y mae actorion cymdeithasol yn byw eu bywydau oddi mewn iddynt (O’Reilly, 2012). Rwyf wedi ymgymryd ag ystod o brosiectau ymchwil sydd wedi canolbwyntio ar y canlynol:

  • Profiadau addysg gynnar a’i heffaith ar ddysgu gan droseddwyr, dysgu gan oedolion sy’n droseddwyr o fewn amgylchedd prawf a’r carchar.
  • Canfyddiadau myfyrwyr ynghylch gradd astudiaethau addysg gynradd.
  • Defnyddio dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg a llythrennedd cyfrifiadurol gyda grwpiau sy’n agored i niwed ac mewn AU.
  • Archwiliad o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog y blynyddoedd cynnar ar gyfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
  • Plant ag aelod o’r teulu yn y carchar.
  • Dwyieithrwydd a babanod: adroddiad gwerthusol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
  • Rhoi llais i blant a phobl ifanc ag anabledd.

F’ymchwil cyfredol:

  • Codi Ymwybyddiaeth a Newid Agweddau gyda Phobl Ifanc ynghylch Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig.
  • Gwerthuso’r Portffolio Cyd-greu Newid Iach yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
  • Ydy pobl hŷn (dros 60 oed) ac iau (11-25 oed) yn canfod pobl sy’n dlawd ac yn siarad amdanynt mewn modd gwahanol? Ydy’r barnau amrywiol hyn yn cael eu ffurfio ar sail ffynonellau gwahanol o wybodaeth a phrofiad?
  • Agweddau Myfyrwyr tuag at Rôl, Swyddogaeth a Diben Gofal Iechyd o fewn y GIG.
  • Newid y Dyfodol – Disgwyliadau, Dyheadau a Chyflogaeth yn y Dyfodol: Canfyddiadau Myfyrwyr ynghylch Graddau Astudiaethau Addysg.
  • Portreadau Newidiol o Rolau’r Rhywiau yn Vogue (y DU) o 1954 i 2012: Goffman o’r Newydd.

Rhestr Cyfeiriadau:

  • O’Reilly, K (2012) Ethnographic Methods, Abingdon, Oxon: Routledge.
  • Maines, MJ, Pierce, JL and Laslett B (2008) Telling Stories: The Use of Personal Narratives in the Social Sciences and History, Ithaca, NY: Cornell University Press.

Arbenigedd

Datblygu/Dilysu Rhaglenni:

Rwyf wedi arwain a bod yn rhan o’r gwaith o ddilysu rhaglenni i’r Brifysgol nifer o weithiau gan sicrhau ymdrin â  materion Sicrhau Ansawdd.

Goruchwyliaeth PhD/MPhil:

11 o fyfyrwyr PhD/MPhil

  • 5 fel prif oruchwyliwr
  • 6 fel goruchwyliwr

Rwyf hefyd yn rhoi hyfforddiant staff ar gyfer Goruchwylwyr newydd, Arholwyr Mewnol a Chadeiryddion Arholi

At hynny rwyf hefyd yn cyflwyno ystod o sesiynau hyfforddi ar gyfer Myfyrwyr Graddau PhD/Ymchwil e.e. ‘Arholiad Viva eich PhD’; Adolygiadau Llenyddiaeth; a chasglu data.

Arholi PhD/MPhil:

  • 2 fyfyriwr   - Viva PhD - Arholwr Mewnol
  • 5 myfyriwr - Uwchraddio MPhil/PhD
  • 4 myfyriwr - Cadeirydd Uwchraddio MPhil/PhD
  • 3 myfyriwr - Cadeirydd Viva PhD

Mentor yr AAU:

  • Mentor yr AAU

Adolygydd Allanol Cymheiriaid:

  • Professional Development in Education, Routledge, Taylor and Francis
  • Youth and Society Sage Publishers
  • The Journal of Social Studies Research
  • Adolygydd Llyfrau ar gyfer Open University Press, McGraw-Hill Education
  • British Education Research Journal (BERJ)
  • Adolygydd Cymheiriaid Rhyngwladol ar gyfer Ceisiadau Grant i Gyngor y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau Canada
  • Cymdeithas Astudiaethau Addysg Prydain (BESA)
  • Adolygydd Llyfrau ar gyfer Routledge, Taylor and Francis
  • Llythrennedd Gwybodaeth a’r Cyfryngau (Informing Science Press)
  • Categori Addysgu ac Addysg Athrawon o fewn Elsevier Publishing.
  • Adolygydd Cymheiriaid ar gyfer Cynigion am Lyfrau i Sage Publications
  • Papurau BERA mewn Grwpiau Diddordeb Arbennig yn cynnwys Creadigrwydd, Cyfiawnder Cymdeithasol a Methodoleg Ymchwil

Arholwr Allanol:

  • FdA Cymorth Dysgu ac Addysgu i Gynorthwywyr Athrawon Cynradd, Prifysgol Lancaster (Blackburn)
  • BA Gofal Cymdeithasol/FdA Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Lancaster (Blackburn)
  • Gradd Sylfaen mewn Gofal Cymdeithasol, Coleg Prifysgol y Santes Fair, Twickenham.  
  • Gradd Sylfaen mewn Gwasanaethau Integredig, Coleg Prifysgol y Santes Fair, Twickenham.
  • BA Astudiaethau Addysg, Prifysgol Durham

Paneli Dilysu ac Adolygu:

Prifysgolion Allanol - Dilysydd/Arholwr/Asesydd:

  • BA Plant a Phobl Ifanc - Prifysgol Northampton.
  • BA Cydanrhydedd Astudiaethau Addysg - Prifysgol Northampton.
  • BA Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd - Prifysgol Sant Ioan Caerefrog
  • (Gwerthusydd) ar gyfer BA (Anrh) Astudiaethau ac Addysg Blynyddoedd Cynnar - Prifysgol Portsmouth

Cynghorydd/Dilysydd Mewnol a Phaneli Adolygu PCYDDS

  • HND/C Peirianneg Drydanol ac Electronig /HNC Peirianneg Systemau Pŵer/HNC Peirianneg Offeryniaeth (Coleg Sir Benfro)
  • BSc Iechyd y Cyhoedd
  • BA (Anrh) Diwinyddiaeth, Diploma Graddedig Diwinyddiaeth (Prifysgol Newbold, Berkshire)
  • MA Diwinyddiaeth (Prifysgol Newbold, Berkshire)
  • Tystysgrif Ôl-raddedig Cenhadaeth (Prifysgol Newbold, Berkshire)
  • BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol ar gyfer Coleg Sir Gâr
  • Portffolio FdA Ffilm a Theledu
  • MArts Celfyddydau Sonig (PCYDDS)
  • Aelod o’r gweithgor oedd yn datblygu’r rhaglen EdD
  • Darllenydd Mewnol:  TAR Cynradd (PCYDDS)
  • BA Sgiliau Cwnsela ac Astudiaethau Rhyngddisgyblaethol (PCYDDS)
  • Adolygiad Mawr/Dilysu Saesneg (PCYDDS)
  • TAR Cynradd (PCYDDS)
  • BA Athroniaeth (PCYDDS)
  • BA Celf Sonig (PCYDDS)
  • BSc Cipio Symudiadau (PCYDDS)
  • Aelod o’r Gweithgor Prosesau Dilysu, Monitro ac Adolygu Rhaglenni PCYDDS
  • Rhaglenni cysylltiedig (PCYDDS)
  • BA (Anrhydedd Sengl) Athroniaeth
  • BA (Anrhydedd Sengl) Astudiaethau Moesegol a Gwleidyddol
  • BA (Cyfunol) Athroniaeth, Crefydd a Seicoleg Gymhwysol
  • BA (Cyfunol) Crefydd, Athroniaeth a Moeseg
  • BA (Cyfunol) Crefydd, Diwinyddiaeth a Moeseg
  • BA (Cyfunol) Crefydd, Moeseg a Seicoleg Gymhwysol
  • BA (Cyfunol) Crefydd, Diwinyddiaeth ac Athroniaeth
  • BA (Cyfunol) Diwinyddiaeth, Crefydd a Seicoleg Gymhwysol
  • BA (Cyfunol) Diwinyddiaeth, Athroniaeth a Moeseg
  • Diploma Graddedig mewn Athroniaeth (PCYDDS)
  • MRes mewn Athroniaeth Gyfoes (PCYDDS)
  • Aelod o’r Panel Ymholi  
  • Aelod o’r Panel Sefydlog Dilysu ac Archwilio (PCYDDS)
  • ar gyfer MA Rheolaeth CDC.
  • BA Astudiaethau Addysgol Proffesiynol (Cynradd):  Coleg y Drindod

Profiad Proffesiynol Cyffredinol:

  • Aelod o Bwyllgor Moeseg PCYDDS
  • Aelod o Bwyllgor Moeseg yr Athrofa
  • Aelod o Fwrdd Golygyddol Cylchgrawn Y Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig PCYDDS
  • Cadeirydd Pwyllgor Moeseg y Gyfadran
  • Aelod o’r Pwyllgor Graddau Ymchwil
  • Mentor i Ymgeiswyr yr AAU
  • Aelod o Fwrdd Golygyddol Cylchgrawn Y Myfyriwr Ymchwil PCYDDS
  • Aelod /Cadeirydd Panel Gwasanaeth Prawf Troseddwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin
  • Mentor ar gyfer ‘Cynllun Mentora Menywod mewn Prifysgolion’
  • Aelod o Is-bwyllgor Moeseg ac Ymchwil y Gyfadran Addysg a Chymunedau
  • Aelod o Fwrdd y Gyfadran (Fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor Marchnata)
  • Cadeirydd Is-bwyllgor Marchnata’r Gyfadran Addysg a Chymunedau
  • Mentor ar gyfer Aelod o Staff oedd yn ymgymryd â Tyst Ôl-raddedig AU
  • Pwyllgor Moeseg y Brifysgol
  • Cydlynydd Marchnata a Gwefan yr Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol
  • Aelod o Fyrddau Apeliadau Academaidd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
  • Bwrdd Cydnabod Dysgu Blaenorol a Dysgu drwy Brofiadau (RPEL)  
  • Aelod o’r Pwyllgor Derbyniadau Graddau Ymchwil, Prifysgol Cymru:  Y Drindod Dewi Sant
  • Aelod o’r Grŵp Ysgol Haf Graddau Ymchwil, Prifysgol Cymru:  Y Drindod Dewi Sant
  • Aelod o’r Pwyllgor Graddau Ymchwil, Prifysgol Cymru:  Y Drindod Dewi Sant
  • Aelod o Fwrdd y Gyfadran (Cyfadran Addysg a Hyfforddiant)
  • Cydlynydd Ehangu Mynediad yr Ysgol Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol
  • Gweithgor y Cynllun Iaith - Cynrychiolydd y Gyfadran Addysg
  • Aelod o’r Pwyllgor Addysg Ryngwladol a Darpariaeth Gydweithredol
  • Gweithio gydag Oedolion ag anawsterau dysgu: Gweithdai Drama a Chelf ac oedolion ag anawsterau dysgu: fel cymorth cyfathrebu
  • Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a’r Gymraeg (cymorth)
  • Datblygu Rhaglen Meistr mewn Astudiaethau Cynhwysol
  • Pwyllgor Ymchwil ar gyfer Dysgu ac Addysgu
  • Datblygu dysgu/addysgu cyd-adeileddol gyda throseddwyr ar raglenni sgiliau sylfaenol yn gysylltiedig â’u gorchmynion prawf.
  • Oedolion ag Anableddau Dysgu a Phontio i waith â thâl neu waith gwerthfawr.  Agweddau a dyheadau.  
  • Ardal Brawf Dyfed-Powys:  Asesu a dylunio Arloesi Sgiliau Sylfaenol i gefnogi troseddwyr gyda llythrennedd a rhifedd sylfaenol
  • Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol.  Cefnogi Prosiect Iaith Gymraeg:  y Gymraeg a’r Cwricwlwm i Blant dan 5 oed
  • Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol.  Ymarfer Cwmpasu’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol:  Anghenion Hyfforddi Cynorthwywyr Dosbarth a Helpwyr Gwirfoddol o fewn Llythrennedd a Rhifedd
  • PLSU: Prosiect Gwasanaeth Addysg y Carchardai:  Prosiectau Llythrennedd Cymru
  • Cydlynydd APEL ar gyfer yr Ysgolion Astudiaethau Addysg ac Addysg Blynyddoedd Cynnar  
  • Cydlynydd Cwrs ar gyfer Rhaglenni Meistr o fewn yr Ysgol Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol
  • Anghenion Llythrennedd a Rhifedd o fewn Poblogaeth y Carchardai
  • Yn gyfrifol am Astudiaethau Rhyngwladol o fewn yr Ysgol
  • Edrych ar faterion addysgol yn gysylltiedig â disgyblion ag aelod o’r teulu sydd, neu sydd wedi bod, yn y carchar
  • Cysylltiadau rhwng cefndir teuluol/cefnogaeth ac agwedd myfyrwyr at addysg israddedig
  • Cysylltiadau rhwng y cwricwlwm Drama a Saesneg ar gyfer plant oed ysgol
  • Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru:  Y Drindod Dewi Sant
  • Athrawes gyflenwi yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
  • Cydlynydd Prosiect: Gair yn y Gymuned, Blwyddyn Llenyddiaeth ac Ysgrifennu y DU 1995
  • Ysgol Gynradd Abernant, Sir Gaerfyrddin:  Cyfrifoldeb am y Cwricwlwm Celf a TGCh yn CA1 a CA2
  • Dylunydd Graffig a Chydlynydd Prosiectau Llawrydd
  • Gweithio i amryw o sefydliadau’n cefnogi Anghenion Addysgol Arbennig
  • Dylunydd graffig a chydlynydd prosiectau ar gyfer amryw o sefydliadau

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

  • Lohmann-Hancock, C ac Welton, N (2019) Prosiect Ymgysylltu ag Ieuenctid HAFAN (Ariannwyd)
  • Welton, N. a Lohmann-Hancock, C. (2019) UNCRC Llywodraeth Jersey (Ariannwyd)
  • Welton, N a Lohmann-Hancock, C (Parhaus) Spectrum Project Evaluation 2018/19: Education through Delivering Context Appropriate Education on Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Ariannwyd).
  • Lohmann-Hancock, C ac Welton, N (Parhaus) Gwerthuso/Ymchwil Prosiect RCT ‘Big Lottery funding for HAPI’, prosiect 4 mlynedd a ½, £20K (Ariannwyd).
  • Lohmann-Hancock, C a Marshall, J (ParhausAdnabod Anghenion Dysgu ar gyfer Myfyrwyr Aeddfed yn y Brifysgol yn Hwyr: Yr Effaith ar Gynrychiolaeth Bersonol a’r Daith Ddysgu (PCYDDS)
  • Lohmann-Hancock, C ac Welton, N (Parhaus) Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys Hafan,
  • Lohmann-Hancock, C a Morgan, P, (ParhausCanfyddiadau Paneli Troseddau Ieuenctid: Ymateb gan Ymarferwyr ac Aelodau Paneli. Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
  • Welton, N, Lohmann-Hancock, C a Morgan, P (ParhausCodi Ymwybyddiaeth a Newid Agweddau gyda Phobl Ifanc am Drais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig: Hafan (Ariannwyd)
  • Welton, N, Lohmann-Hancock, C, (Parhaus) Hyfforddiant UNCRC ar draws Cymru: Llywodraeth Cymru (Ariannwyd)
  • Lohmann-Hancock, C a Hughes, CU (2016) ‘Gwerthuso Prosiect ‘Let’s Talk’ Hafal, (Ariannwyd) - Cwblhawyd

Cyhoeddiadau

Cyfnod Cynnig Llyfr

  • Cyfnod Cynllunio: Morgan, P, Lohmann-Hancock, C., ac Welton, N., A Reader in Advocacy Studies, Seeking Publisher.

Papurau Cynhadledd ac Erthyglau – Yn cael eu datblygu ar hyn o bryd:

  • Lohmann-Hancock, C (2019) ‘Ethics Creep’ in the Social Sciences and Education: Ensuring Ethical Practice, Abertawe: Cynhadledd Nexus – i’w gyflwyno Gorffennaf 2019
  • Marshall, J & Lohmann-Hancock, C (2019) Late diagnosis of specific learning needs: managing identity and engagement in HE, Abertawe: Cynhadledd Nexus – i’w gyflwyno Gorffenna 2019
  • Lohmann-Hancock, C, Welton, N a Morgan, P (2019) Developing a Pedagogical Model of ‘Individual Power and Control’ to Evaluate Pupils Engagement with Context Appropriate Education on Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence, i’w Gyflwyno 
  • Lohmann-Hancock, C, ac Welton, N (2019) Policy in to Practice: Wales Position on Children’s Rights and the implications for practice within Youth Justice within Wales, i’w gyflwyno.

Cyhoeddiadau Ymchwil:

  • Lohmann-Hancock, C ac Welton, N (2020) ‘Reflections upon Education for Sustainability: Supporting Students’ knowledge, Understanding and Practice’, pennod yn Campion, N. (2020) The Harmony Debates: Exploring a Practical philosophy for a Sustainable Future, Ceredigion, DU: The Sophia Press.
  • Lohmann-Hancock, C a Morgan, P (2019) ‘The uncertainty of students from a widening access context undertaking an integrated master’s degree in social studies’, Practice: Contemporary Issues in Practitioner Education, tt. 1-15.  
  • Jones, K, Angelle, P a Lohmann-Hancock, C (2019) ‘Local Implementation of National Policy:  Social Justice Perspectives from the USA, India, and Wales’ pennod yn Torrance D (Gol) (2019) Cultures of Social Justice Leadership: An Intercultural Context of Schools, Llundain/UDA: Palgrave MacMillan.
  • Lohmann-Hancock, C ac Welton, N (2020) ‘Reflections upon Education for Sustainability: Supporting Students’ Knowledge, Understanding and Practice’ pennod yn ‘Academic Papers from the Lampeter Harmony Conference’, Llambed: Sophia Centre Press mewn partneriaeth â PCYDDS (Adolygwyd gan Gymheiriaid).
  • Lohmann-Hancock (2017) Meritocracy and Social Mobility in HE, Prif Siaradwr yn Uwchgynhadledd Symudedd Cymdeithasol Addysgeg AAU, 13 Mehefin 2017.
  • Lohmann-Hancock C ac Welton N (2017) ‘Reflections upon Education for Sustainability: Supporting Student’s Knowledge, Understanding and Practice’, Papur Cynhadledd Harmoni.
  • Lohmann-Hancock C a Morgan, P (2017) ‘Exploring the Learning Journeys of Non-Traditional Students: Retention and Progression in a Challenging World’, Cynhadledd Flynyddol SA, Manceinion, Cymdeithas Cymdeithaseg Prydain.
  • Welton, N, Lohmann-Hancock, C, a Morgan, P, (2016) ‘Power and Control in Relationships: Responding to the Needs of Pupils in Compulsory Education through Delivering Context Appropriate Education on Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence,  Cynhadledd Flynyddol BERA, Leeds
  • Griffiths, H a Lohmann-Hancock, C (2016) ‘Much More than Just and English Class: The Journey to Inclusion and Empowerment of here Female Immigrants in Wales, Cynhadledd Flynyddol BERA Annual Conference, Leeds
  • Lohmann-Hancock, C a Morgan, P (2016) ‘The Uncertainty of Undertaking an Integrated Master’s Degree and its Potential Impact on a Student’s Identity and Anticipated Life Course Trajectory’ Cynhadledd Flynyddol BSA, Birmingham, Cymdeithas Cymdeithaseg Prydain.
  • Lohmann-Hancock, C (2015) ‘Meritocracy and Social Mobility through Education: An Obtainable Aspiration or Political Myth’, Cynhadledd Flynyddol BESA.
  • Lohmann-Hancock, C, Welton, N a Morgan, P (2015) “We Need Educating!” The Role of Education in Empowering Young People and Educators about Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence, Wiserd Annual
  • Davies, SMB, Lohmann-Hancock, C ac Welton, N, Sutton, L, McKnight, G, Fletcher- Miles, J, Jones, S, Williams, D a Marshall, J (2014) Perceptions of Poverty: A Study of the Impact of Age on Opinions about Poverty, Caerfyrddin: Pennath.
  • Lohmann-Hancock C a Booth J (2014) ‘Uncertain Futures within a Risk Society - Expectations, Aspirations and Future Employment: Student Perceptions of Education Studies Degrees’, Cyfnodolyn Addysg Prifysgol Cymru Hydref 2014.
  • Lohmann-Hancock C (2014) ‘Enhancing the Curriculum: The Place of Drugs Awareness in Education Studies’, Papur Cynhadledd a Adolygwyd gan Gymheiriaid, cyflwynwyd yn BESA Blynyddol Glasgow ‘The politics of education studies: pedagogy, curriculum, policy’.
  • Welton N a Lohmann-Hancock C (2014) ‘Raising Awareness and Changing Attitudes with Young People about Violence against Women and Domestic Abuse’, Report Paper Wisard Cardiff.
  • Welton N & Lohmann-Hancock C (2014) ‘Raising awareness and changing attitudes with Young People about violence against women and domestic abuse’. Cynhadledd Flynyddol WISERD 2014, Aberystwyth.
  • Welton, N, Lohmann-Hancock, C a Cutmore, J (2014) An Evaluation Of The Spectrum Project: Report to Hafan Cymru, Caerfyrddin: PCYDDS.
  • Lohmann-Hancock C & Booth J (2012) Changing Futures - Expectations, Aspirations and Future Employment: Student Perceptions of Education Studies Degrees, Papur Cynhadledd a Adolygwyd gan Gymheiriaid, cyflwynwyd yn 8fed Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Astudiaethau Addysg Prydain (BESA) ‘Changing Futures’, Prifysgol Hull.
  • Lohmann-Hancock C a Davies S (2011) Enhancing Learning through Technology: Student Vidcasts to Enhance Student Learning and Employability: A Case Study, Papur a Adolygwyd gan Gymheiriaid, AAU y DU/JISC/ Athrofa Dysgu ac Addysgu Prifysgol .
  • Lohmann-Hancock C a Ryder N (2011) Using Vidcasts/Screencasts/Podcasts to Enhance Student Learning Opportunities, Llundain: Enhancement Academy (Parhaus).
  • Lohmann-Hancock C (2010) Enhancing Learning through Technology Using Vidcasts with Undergraduates, AAU
  • Lohmann-Hancock, (2008) ‘The Development of Information and Computer Literacy in Offenders: Assumptions and Opportunities’, pennod yn Issues in Information and Media literacy, California, USA: Informing Science Institute.

Gwybodaeth Bellach

  • Aelod Panel/Cadeirydd Gwasanaeth Prawf Troseddau Ieuenctid Sir Gaerfyrddin
  • Aelod o Fforwm Eiriolaeth Gorllewin Cymru