Skip page header and navigation

Dr Carolyne Obonyo BEd, MA, PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Darlithydd mewn Addysg ac Ymchwil

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


Ffôn: +44 (0) 1792 481000  
E-bost: c.obonyo@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Cefndir

Mae gen i PhD mewn Addysg o Brifysgol Canterbury, Seland Newydd. Roedd fy mhrosiect ymchwil yn archwilio addysgeg addysgwyr athrawon a’r defnydd o dechnolegau symudol mewn cyrsiau addysg gychwynnol i athrawon yn Seland Newydd. Enillais brofiad ymarferol yn defnyddio technolegau symudol i wella addysgu a dysgu o ganlyniad i’m hastudiaeth. Rhwng 2016 a 2020, bûm yn gweithio hefyd yn Gynorthwyydd Ymchwil ym Mhrifysgol Canterbury yn Seland Newydd, yn cefnogi Menter y Rhaglen AGA Ragorol: Meistr mewn Addysgu a Dysgu.

Mae gen i gyfuniad unigryw o brofiadau. Enillais radd Meistr yn y Celfyddydau mewn Addysg gan arbenigo mewn Technoleg Hyfforddi o Brifysgol Talaith Califfornia, San Bernardino, yn 2015. Yn ogystal, enillais Dystysgrif mewn e-Ddysgu. Am flwyddyn a hanner, bûm yn gweithio yn Gynorthwyydd Ymchwil Graddedig / Addysgu ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, San Bernardino, ar ôl gweithio’n flaenorol yn Ddarlithydd Rhan-amser ym Mhrifysgol Technegol Mombasa yn Kenya.

Ar ôl mwy na 16 o flynyddoedd o brofiad gwaith yn Kenya, UDA, Seland Newydd a’r DU, mae fy ngwaith proffesiynol, ffocws ymchwil, a phrofiadau personol mewn ysgolion a phrifysgolion wedi fy ngalluogi i fod yn rhywun sy’n canolbwyntio ar wybodaeth, sy’n seiliedig ar ymchwil, yn ddigidol gymwys, ac yn ddiwylliannol sensitif. Rwyf wedi cael y pleser a’r anrhydedd o addysgu mewn ysgol uwchradd ac addysg uwch (ar y lefelau cenedlaethol a rhyngwladol). Rwy’n gweithio’n galed i wella profiadau dysgu pob myfyriwr yn effeithiol.

Aelod O

  • Cymdeithas Technoleg Gwybodaeth ac Addysg Athrawon (SITE), UDA: Sefydliad Proffesiynol (2015 – Presennol)
  • Cymdeithas Dysgu Hyblyg Seland Newydd (FLANZ): Sefydliad Proffesiynol (2018 – Presennol)
  • Cyngor Addysgu Seland Newydd: Sefydliad Proffesiynol (2017 – 2021)
  • Labordy Ymchwil e-Ddysgu, Prifysgol Canterbury, Seland Newydd: Sefydliad Proffesiynol (2016 – 2019)
  • Cymdeithas Anrhydedd Ryngwladol Golden Key, UDA: Sefydliad Proffesiynol (2014 – 2015)

Diddordebau Academaidd

Meysydd addysgu:

  • Ymchwil addysg
  • Integreiddio technoleg
  • Addysgeg ac arweinyddiaeth ddigidol
  • Dysgu symudol, addysg o bell, dysgu ar-lein

Mae’r modylau a addysgir yn cynnwys:

  • ECDE70002: Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil mewn Addysg (EdD llwybr llawn amser)
  • ECDE7015: Archwilio Materion Cyfoes mewn Addysg 1: Adolygiad Polisi a Dadansoddiad Beirniadol (EdD llwybr llawn amser)
  • ECDE7012: Dylunio a Rheoli Ymchwil mewn Addysg (EdD llwybr rhan-amser)
  • ECGE7005P: Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol (MA)
  • Goruchwyliwr Traethodau Ymchwil MA, EdD, a PhD

Meysydd Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil presennol yn canolbwyntio ar bedwar maes o fewn addysg uwch, sydd i gyd yn ymwneud â’m brwdfrydedd at ddefnyddio technoleg i wella addysg a dysgu:

  • Gwella arferion addysgegol gan ddefnyddio technolegau digidol
  • Addysgu a dysgu gyda thechnoleg
  • Dysgu proffesiynol athrawon cyn gwasanaethu
  • Cynhwysiant a thegwch

Un o’r prif brosiectau ymchwil roeddwn i’n rhan ohonynt fel Cynorthwyydd Ymchwil Graddedig oedd Prosiect Ymchwil Rhyngwladol Cydweithredol yn ymwneud â saith gwlad (Seland Newydd, Awstralia, Sweden, Y Ffindir, Norwy, Gwlad Pwyl, a Lloegr) i ymchwilio i bartneriaeth a chydweithredu rhwng rhieni a Chanolfannau Plentyndod Cynnar.

Ar hyn o bryd, rwy’n ysgrifennu pennod llyfr o’r enw: “re-examining online learning practices now and beyond.” Nod y bennod yw ychwanegu at y corff gwybodaeth am ddysgu ar-lein trwy gynnig dealltwriaeth fanwl o’r egwyddorion dylunio a’r arferion sy’n hyrwyddo amrywiaeth, tegwch, cynhwysiant, a hygyrchedd mewn amgylcheddau ar-lein.

Cyhoeddiadau

Penodau Llyfrau

Obonyo, C. N. (2023). Digital tools for meaningful learning of preservice teachers. Yn J. Keengwe (Gol.). Innovative Digital Practices and Globalization in Higher Education (tt. 36-54). Hershey, PA: IGI Global. 

Obonyo, C. N. (2023). Collaborative learning with mobile technologies in teacher education. Yn J. Keengwe (Gol.). Handbook of Research on Facilitating Collaborative Learning through Digital Content and Learning Technologies (tt. 62-83). Hershey, PA: IGI Global. 

Obonyo, C. N. (2019). Preparing preservice teachers to use mobile technologies. Yn A. Forkosh Baruch, & H. Meishar Tal (Goln.). Mobile Technologies in Educational Organizations (tt. 42-62). Hershey, PA: IGI Global. 

Traethawd Ymchwil Doethurol

Obonyo, C. N. (2020). Preparing Student Teachers To Use Mobile Technologies In Teaching And Learning: A Single Site Case Study. Prifysgol Canterbury, Seland Newydd. (Heb ei gyhoeddi)

Cyfraniadau i Gynadleddau

Obonyo, C., Davis, N. & Fickel, L. (2020). Teacher educators’ practices with m-learning: A case study of ‘far transfer’ into schools of practices learned during preservice teacher education. Yn E. Langran (Gol.), Proceedings of SITE Interactive 2020 Online Conference (tt. 725-730). Ar-lein: Cymdeithas Hyrwyddo Cyfrifiadura mewn Addysg (AACE). (Papur Cyhoeddedig)

Obonyo, C., Fickel, L. & Davis, N. (Gorffennaf, 2018). Thriving through uncertainty: Teacher educators responding to ‘future-focused’ principles. Yn ATEA and TEFANZ Conference Booklet (tt. 29-30)Melbourne, Awstralia(Crynodeb Cyhoeddedig)

Obonyo, C., Davis, N. & Fickel, L. (2018). Mobile learning practices in initial teacher education: Illustrations from three teacher educators. Yn E. Langran & J. Borup (Goln.), Proceedings of Society for Information Technology & Teacher Education (SITE) International Conference (tt. 2424-2429). Washington, D.C., Unol Daleithiau: Cymdeithas Hyrwyddo Cyfrifiadura mewn Addysg (AACE). (Papur Cyhoeddedig)

Obonyo C., Davis N., & Fickel, L. (2018). New forms of teaching and learning: Examples from one teacher educators’ mobile pedagogical practices. Yn Flexible Learning Association of New Zealand (Gol.), (FLANZ) Conference Handbook (tt. 127-131). Palmerston North, Seland Newydd. (Papur Cyhoeddedig)

Obonyo C., Davis, N., & Fickel, L. H. (2017). Mobile learning practices in initial teacher education: Preparing future teachers. Yn Literacy and Learning Research Symposium Booklet (t. 16). Prifysgol Canterbury, Christchurch, Seland Newydd. (Cyflwyniad llafar)

Obonyo C., Davis N., & Fickel, L. (2017). Mobile learning in initial teacher educationYn F. Y. Yu et al. (Goln.), Proceedings of the 25th International Conference on Computers in Education (ICCE). (tt. 9-12). Consortia Myfyrwyr Doethurol. Christchurch, Seland Newydd. (Papur Cyhoeddedig)

Obonyo C., Davis N., & Fickel, L. (2017). Mobile learning practices in initial teacher education. Prifysgol Canterbury, Christchurch, Seland Newydd: Arddangosfa Ôl-raddedig – Coleg Addysg, 1 Medi 2017. (Cyflwyniad llafar).

Obonyo C. a Leh ASC. (2015). Facilitating action research in higher education using flipped classroom approach. Yn D. Rutledge & D. Slykhuis (Goln.), Proceedings of SITE 2015—Society for Information Technology & Teacher Education International Conference (tt. 1011-1014). Las Vegas, NV, Unol Daleithiau: Cymdeithas Hyrwyddo Cyfrifiadura mewn Addysg (AACE). (Papur Cyhoeddedig)

Obonyo C. a Leh ASC. (2015). Flipped Classrooms for International Students. 29ain Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol Phi Beta Delta, 23-24 Ebrill 2015. Riverside, CA, Unol Daleithiau. (Cyflwyniad llafar).

Gwybodaeth bellach

  • Hydref 2016–Presennol: Gwasanaethu ar fyrddau adolygu’r Cyfnodolion canlynol:
    International Review of Research in Open and Distributed Learning (IRRODL).
    Journal of Open, Flexible, and Distance Learning (JOFDL).
  • 2018–2019: Aelod o’r Pwyllgor Moeseg Ddynol Ymchwil Addysgol (ERHEC), Prifysgol Canterbury, Seland Newydd.
  • Awst 2018: Adolygais ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol IEEE ar Addysgu, Asesu a Dysgu ar gyfer Peirianneg (TALE).
  • Mai 2018: Cydweithiais â’r Athro Nodedig Niki Davis i adolygu cynnig ar gyfer llyfr. Wedi’i gyhoeddi erbyn hyn: Kearney, M., Burden, K., & Schuck, S. (2020). Theorising and implementing mobile learning: Using the iPAC framework to inform research and teaching practice. Springer Nature.
  • 2014–2015: Bûm yn mentora ac yn arwain athrawon mewn swydd i wella eu hyfforddi trwy integreiddio technolegau digidol yn eu dosbarthiadau Sbaeneg – Prosiect Ieithoedd a Llenyddiaeth y Byd ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, San Bernardino.
  • Gorffennaf–Medi 2014: Cynorthwyydd Ymchwil Graddedig; Prosiect COPE (Gofalu am Eraill fel Profiad Cadarnhaol): Prosiect Ymchwil ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, San Bernardino, UDA. Ariannwyd gan Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol.