Skip page header and navigation

Christian Felices BA, PGCE (PCET)

Image and introduction

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Cydlynydd Sgiliau Cyflogadwyedd

Athrofa Rheolaeth ac Iechyd


E-bost: c.felices@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Fi yw cydlynydd cwrs y rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac rwy’n addysgu ar draws nifer o raglenni o fewn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd.

Cefndir

Wedi dechrau fy nhaith ym maes peirianneg, cefais brofiad ymarferol o weithio ar nifer o brosiectau ar draws llawer o wahanol ddiwydiannau, gan gynnwys y meysydd modurol ac amaethyddol.  O fewn y rolau hyn, roeddwn bob amser yn frwdfrydig dros welliant parhaus.

Y brwdfrydedd hwn oedd y rheswm am i mi ddilyn gyrfa ym maes gweinyddiaeth a rheolaeth, un sydd wedi fy ngweld yn symud ymlaen o swydd lefel mynediad i swydd rheoli prosiectau / rhaglenni. Yn rhinwedd fy swydd, rwyf wedi datblygu a gweithredu’n llwyddiannus brosiectau perfformiad ac effeithlonrwydd a gafodd eu defnyddio gan y gangen ac ar draws y cwmni, a gwnaethant gyflawni gwelliannau sylweddol.

Aelod O

  • Yr Academi Addysg Uwch (Higher Education Academy – HEA)

Diddordebau Academaidd

Rwy’n addysgu ar draws nifer o fodylau ac mae gennyf sawl diddordeb academaidd sy’n canolbwyntio’n benodol ar y canlynol:

  • Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau
  • Sgiliau Digidol
  • Strategaeth Fusnes
  • Rheoli Perthnasau gyda Chwsmeriaid

Meysydd Ymchwil

Ar hyn o bryd, rwy’n astudio am radd PhD ‘Toward Harmonious Business’, ac mae’r ymchwil yn cwmpasu detholiad o ddisgyblaethau amrywiol, gan gynnwys ffiseg cwantwm a strategaeth fusnes, gyda’r bwriad o sefydlu ymagweddau newydd at gymdeithas gynaliadwy ac atgynhyrchiol.