Dafydd Johnston

Hafan YDDS  -  Ymchwil  -  Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd   -  Yr Athro Emeritws Dafydd Johnston

Yr Athro Emeritws Dafydd Johnston BA, PhD, FLSW

Athro Emeritws

Ffôn: 01970 636543
E-bost: d.r.johnston@cymru.ac.uk



Athro Emeritws

Bu’r Athro Dafydd Johnston yn Gyfarwyddwr y Ganolfan am ddeuddeng mlynedd o Hydref 2008 tan ei ymddeoliad ar ddiwedd 2020. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar lenyddiaeth Cymru o bob cyfnod, gan gynnwys rhai o awduron Saesneg Cymru. 

Ei faes ymchwil arbennig yw barddoniaeth yr Oesoedd Canol. Ymhlith ei gyhoeddiadau niferus y mae tri golygiad pwysig, Gwaith Iolo Goch (1988), Gwaith Lewys Glyn Cothi (1995) a Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (1998), yn ogystal â dau gasgliad thematig a dorrodd dir newydd, Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (1991) a Galar y Beirdd (1993). Yn 2005 cyhoeddodd astudiaeth gynhwysfawr, Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525, cyfrol a fu ar y rhestr fer ar gyfer ‘Llyfr y Flwyddyn’ yr Academi Gymreig. Ei gyhoeddiad diweddaraf yw ‘Iaith Oleulawn’: Geirfa Dafydd ap Gwilym (2020).

Yr Athro Johnston oedd arweinydd prosiect ymchwil rhyngadrannol dan nawdd yr AHRC (2001–6) a gynhyrchodd olygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym ar ffurf electronig, dafyddapgwilym.net

Bu’n gyd-archwilydd ar Brosiect Guto’r Glyn (2008–12) yn y Ganolfan, ac yn gyd-olygydd, gyda Mary-Ann Constantine, ar y gyfres ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’. Bu’n un o olygyddion y cylchgrawn Studia Celtica o 2002 tan 2020, ac er 2014 ef yw golygydd Y Bywgraffiadur Cymreig.

‘Iaith Oleulawn’: Geirfa Dafydd ap Gwilym (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2020) 

‘Welsh hyfryd and some related compounds’, yn Ailbhe Ó Corráin, Fionntán De Brún a Maxim Fomin (goln.), Scotha cennderca, cen on: A Festschrift for Séamus Mac Mathúna (Uppsala: Uppsala Universitet, 2020), tt. 289–99 

‘The aftermath of 1282: Dafydd ap Gwilym and his contemporaries’, yn Geraint Evans a Helen Fulton (goln.), The Cambridge History of Welsh Literature (Cambridge: Cambridge University Press, 2019), tt. 112–28 

‘Writing the nation in two languages: the Dictionary of Welsh Biography’, yn Karen Fox (gol.), ‘True Biographies of Nations?’: The Cultural Journeys of Dictionaries of National Biography (Canberra: ANU Press, 2019), tt. 159–75 

Language Contact and Linguistic Innovation in the Poetry of Dafydd ap Gwilym, Darlith Goffa E. C. Quiggin (Cambridge: University of Cambridge, Department of Anglo-Saxon, Norse and Celtic, 2017) 

‘The history and future of The Dictionary of Welsh Biography’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 23 (2017), 163–70 

The Literature of Wales (Cardiff: University of Wales Press, 2017) 

‘Shaping a heroic life: Thomas Pennant on Owen Glyndwr’, yn Mary-Ann Constantine a Nigel Leask (goln.), Enlightenment Travel and British Identities: Thomas Pennant’s Tours in Scotland and Wales (London: Anthem Press, 2017), tt. 105–21 

Cynghorion Priodor o Garedigion i Ddeiliaid ei Dyddynod gan William Owen Pughe’, Llên Cymru, 39 (2016), 14–32 

‘Trosglwyddiad cerddi Guto’r Glyn’, yn Dylan Foster Evans, Barry J. Lewis ac Ann Parry Owen (goln.), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2013), tt. 21–51

gyda Mary-Ann Constantine (goln.), ‘Footsteps of Liberty and Revolt’[:] Essays on Wales and the French Revolution (Cardiff: University of Wales Press, 2013)

‘Radical adaptation: translations of medieval Welsh poetry in the 1790s’, yn Constantine a Johnston (goln.), ‘Footsteps of Liberty and Revolt’, tt. 169–89

‘Monastic patronage of Welsh poetry’, yn Janet Burton a Karen Stöber (goln.), Monastic Wales: New Approaches (Cardiff: University of Wales Press, 2013), tt. 177–90

‘Cywydd newydd gan Lewys Glyn Cothi’, Dwned, 18 (2012), 49–60

Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym 1789 a’r Chwyldro Ffrengig’, Llên Cymru, 35 (2012), 32–53

‘Towns in medieval Welsh poetry’, yn Helen Fulton (gol.), Urban Culture in Medieval Wales (Cardiff: University of Wales Press, 2012), tt. 95–115

‘Tywydd eithafol a thrychineb naturiol mewn dwy farwnad gan Iolo Goch’, Llên Cymru, 33 (2010), 51–60

gyda Huw Meirion Edwards, Dylan Foster Evans, A. Cynfael Lake, Elisa Moras a Sara Elin Roberts (goln.), Cerddi Dafydd ap Gwilym (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2010)

‘Hywel ab Owain Gwynedd a Beirdd yr Uchelwyr’, yn Nerys Ann Jones (gol.), Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd-Dywysog (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2009), tt. 134–51

‘Semantic ambiguity in Dafydd ap Gwilym’s ‘Trafferth mewn
Tafarn’ ’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 56 (2008), 59–74

‘Cyngan Oll?’ Cynghanedd y Cywyddwyr Cynnar, Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007)

Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2005)

‘Early translations of Dafydd ap Gwilym’, yn Alyce von Rothkirch a Daniel Williams (goln.), Beyond the Difference: Welsh Literature in Comparative Contexts (Cardiff: University of Wales Press, 2004), tt. 158–72

‘Dafydd ap Gwilym and oral tradition’, Studia Celtica, XXXVII (2003), 143–61

‘Oral tradition in medieval Welsh poetry: 1100–1600’, Oral Tradition, 18/2 (2003), 192–3

gyda Iestyn Daniel, Marged Haycock a Jenny Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2003)

‘Bywyd marwnad: Gruffudd ab yr Ynad Coch a’r traddodiad llafar’, yn Daniel et al. (goln.), Cyfoeth y Testun, tt. 200–19

Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 1998)

Llyfr Poced: Llenyddiaeth Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997)

gyda N. G. Costigan ac R. Iestyn Daniel, Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 1995)

Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)

A Pocket Guide: The Literature of Wales (Cardiff: University of Wales Press, 1994)

The Complete Poems of Idris Davies (Cardiff: University of Wales Press, 1994)

Galar y Beirdd / Poets’ Grief: Marwnadau Plant / Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1993)

Iolo Goch: The Poems, Welsh Classics Series (Llandysul: Gomer, 1993)

Canu Maswedd yr Oesoedd Canol / Medieval Welsh Erotic Poetry (Caerdydd: Tafol, 1991)

Blodeugerdd Barddas o’r Bedwaredd Ganrif ar Ddeg (Felindre, Abertawe: Barddas, 1989)

Iolo Goch (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 1989)

Gwaith Iolo Goch (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1988)