Skip page header and navigation

David Bebbington BMus (Anrh), Tyst OR, MA, DipLCM, FLCM, FHEA

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Cyfarwyddwr yr Academi (Ansawdd)

Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: 02920 493139
E-bost: d.bebbington@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Gweithio ar draws rhaglenni yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.

Cefndir

Enillodd David Bebbington radd BMus (Anrh) o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; ei brif astudiaeth yno oedd piano a’i ail astudiaeth oedd y llais. Enillodd Wobr John Ireland ar gyfer Piano a Llais tra oedd yn CBCDC, a chynrychiolodd y coleg ar sawl achlysur yn gyfeilydd yn ystod ei amser yno, yn fwyaf nodedig ar gyfer dosbarthiadau meistr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac yn bianydd jazz ar gyfer Gwobrau Rali GB Cymru. Dyfarnwyd ysgoloriaeth i David ar gyfer blwyddyn academaidd 2001 – 2002 i dderbyn swydd yn Gyfarwyddwr Cerdd i Gôr Eglwys Prifysgol Caerdydd. Wedi hyn, enillodd swydd iddo’i hun yn Gyfarwyddwr Cerdd yn Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr, ym Mhlwyf Maendy Casnewydd, ac yna aeth ymlaen i weithio gyda nifer o Gorau a Chymdeithasau Corawl.

Mae David wedi gweithio ar draws y sbectrwm cerddorol yn unawdydd, cyfeilydd, hyfforddwr lleisiol, arweinydd, cyfarwyddwr cerddorol ac athro. Mae’n gyfarwyddwr corawl ac arweinydd/cyfarwyddwr cerddorol profiadol ac mae wedi gweithredu’n Gyfarwyddwr Cerdd a chwaraewr allweddellau i sawl sioe a pherfformiad gydag artistiaid megis Asa Elliott, Darren Day, Iris Williams, Tony Hatch, Shaun Williamson a’r artist aml-blatinwm, Kenny Thomas. Mae ei waith perfformio rheolaidd yn cynnwys cabaret, bandiau digwyddiadau, gwaith theatr gerddorol a chlasurol mewn cyngherddau Big Band diweddar, cerddoriaeth boblogaidd, jazz, cynyrchiadau theatr, a phrif weithiau. Mae hefyd yn gwneud gwaith yn drefnydd a chynhyrchydd cerddoriaeth mewn amryw arddulliau.

Mae galw mawr am David fel Cyfarwyddwr Cerdd ac mae’n cynnal amserlen berfformio brysur ochr yn ochr â’i rôl yn WAVDA.

Aelod O

  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
  • Aelod o Undeb y Cerddorion

Diddordebau Academaidd

Cyn cyrraedd Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, cafodd David yrfa helaeth ym maes Addysg Uwch yn ddarlithydd, cyfarwyddwr a rheolwr rhaglenni’n gweithio ar amrywiaeth o raglenni Cerddoriaeth, Cerddoriaeth Boblogaidd a Theatr Gerddorol.

Meysydd Ymchwil

Mae David yn gerddor gweithredol, yn perfformio repertoire eang yn rheolaidd ledled y DU a thramor. Mae ei ddiddordebau ymchwil presennol yn ‘rôl y cyfarwyddwr cerdd sy’n chwarae’r allweddellau mewn cyd-destunau cerddoriaeth gyfoes’.

Prosiect diweddar David yw Figment of Funk; cwmni Jazz/cerddoriaeth Asiol yn cynnwys cerddorion sesiwn enwog a darlithwyr o gasgliad o sefydliadau AU. Mae Ian Matthews o Kasabian yn ymddangos yn artist gwadd ar gyfer rhai o’u dosbarthiadau meistr a pherfformiadau.

Arbenigedd

  • Perfformio Cerddoriaeth
  • Cyfarwyddo Cerddorol
  • Theatr Gerddorol
  • Cerddoriaeth Boblogaidd
  • Llais a Phiano
  • Cerddoleg
  • Cynhyrchu

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Mae David yn ymwneud yn rheolaidd a gwaith ymgynghori mewn SAU, gyda sefydliadau allanol a’r diwydiant, ac fe’i gwahoddir hefyd i arwain dosbarthiadau meistr mewn cerddoriaeth.  Ym mis Mai 2023, arweiniodd David ddosbarth meistr yng Ngholeg Cerdd Llundain (Prifysgol Gorllewin Llundain) ar Gyfarwyddo Cerddorol a Gallu Cerddorol Ensemble, a chafodd ei wahodd wedi hynny i ymuno â’u Panel Diwydiant yn gweithio  ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, Laurence Cottle, Elliot Henshaw, a John Wheatcroft ym mis Mehefin 2023. Yn flaenorol, mae David wedi arwain dosbarthiadau meistr yn yr Institute of Contemporary Music Performance, Coleg Celfyddydau Henffordd, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Cross Keys.

Mae David yn Arholwr Allanol ar hyn o bryd ar gyfer y rhaglen Cerddoriaeth Boblogaidd israddedig ym Mhrifysgol Wolverhampton. Yn flaenorol, mae wedi gweithredu yn y swydd hon ar gyfer BA (Anrh) Perfformio mewn Theatr Gerddorol Prifysgol De Montfort; ac ar gyfer BA (Anrh) Cerddoriaeth, BA (Anrh) Celfyddydau Perfformio, FDA Cerddoriaeth ac FDA Arfer Cerddoriaeth Gymhwysol Prifysgol Sunderland. Bu’n gweithredu yn Arbenigwr Allanol ar gyfer MA Perfformio Cerddoriaeth Boblogaidd Nottingham Trent / Confetti yn 2023, yn aelod o Grŵp Cynghorol Pwnc Addysg Uwch ar gyfer Cerddoriaeth Safon Uwch Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yn 2014, ac yn Gynghorydd Arbenigol Allanol ar gyfer Adolygiad Rhwydwaith Pwnc y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol ym Mhrifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd yn 2011.

Cyhoeddiadau

Mae galw mawr am David fel Cyfarwyddwr Cerdd ac mae’n cynnal amserlen brysur o arfer proffesiynol ochr yn ochr â’i rôl yn WAVDA.