Skip page header and navigation

Elaine Sharpling BAdd, MA, Uwch Gymrawd

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cyfarwyddwr Ymchwil: Addysg ac Ymholi

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


Ffôn: 01792 482 091 
E-bost: elaine.sharpling@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Yn addysgwr athrawon, mae fy ngwaith yn cynnwys cefnogi darpar athrawon ac athrawon cymwysedig wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau ymchwil ac ymholi. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag ysgolion ar brosiectau ar raddfa fach, cyfrannu at waith cenedlaethol a rhyngwladol ynghylch addysg athrawon, a pharatoi’r genhedlaeth nesaf o athrawon i ymgysylltu ag ymchwil.

Cefndir

Ar ôl gyrfa mewn nyrsio, neidiais draw i’r brifysgol i ymgymryd â gradd gydanrhydedd mewn Addysg a Saesneg gyda Statws Athro Cymwysedig. Ar ôl cymhwyso, addysgais yn y sector cynradd a chyn hir cefais fy ngwahodd i ymuno â’r tîm ym Mhrifysgol Birmingham lle addysgais lythrennedd ar y rhaglen TAR.

Yn sgil symud i Addysg Gychwynnol Athrawon ysgol-ganolog, cefais gyswllt agosach gydag athrawon a phenaethiaid a amlygodd yr angen i rymuso ymarferwyr gyda sgiliau ymchwil fel y gallant ‘berchnogi’ eu hystafelloedd dosbarth, ysgolion a chymunedau.

Yn 2006, symudodd ein teulu i Gymru a chefais swydd ym maes addysg athrawon oedd yn cynnwys rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig. Yn 2018, yn Gyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon, arweiniais y tîm trwy broses achredu lle’r oedd dod â theori ac arfer at ei gilydd yn rhan ganolog o’r rhaglenni AGA newydd. Gofynnodd y broses hon am gydweithio agos gydag ysgolion ac fe fu’n rhan hollbwysig yn fy nealltwriaeth o sut y gall arfer, ymchwil a pholisi ddod at ei gilydd er lles pawb.

Mae fy astudiaethau doethurol yn parhau ac maent wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy hunaniaeth a’m hyder fel addysgwr athrawon. Yn arbennig, rwyf wedi dysgu bod ceisio cysylltu ymchwil, arfer a pholisi’n rhoi awydd i mi ddal ati i ddysgu. Yn fwy na hynny, rwyf wedi dysgu i wahodd gwahanol leisiau i’m ‘bwrdd dysgu’ gan fy mod wedi profi manteision cydweithio gyda chydweithwyr. Cymaint felly, mai fy man cychwyn ar unrhyw fenter newydd yw ystyried pwy sydd ei angen wrth y bwrdd, a llais pwy allai fod ar goll!

Aelod O

  • Rhwydwaith Datblygu Addysg Athrawon (TEAN) – Llywydd presennol.
  • Cydweithfa Ymchwil Addysg Athrawon Rhyngwladol (ITERC) – aelod o’r grŵp moeseg a gwleidyddiaeth.
  • BERA Addysg Athrawon (Grŵp Diddordeb Arbennig) – cynrychiolydd Cymru
  • Cyngor Addysg Athrawon y Brifysgol (UCET) – aelod
  • Rhwydwaith Asesu Addysg Rhyngwladol (IEAN) – aelod

Diddordebau Academaidd

Rwyf wedi addysgu ystod eang o fodylau ar draws rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae’r rhain wedi cynnwys:

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Cynradd
  • Yr Athro Ymholgar
  • Ymchwilio’r Dysgu – sut, beth a pam ydw i’n addysgu?

Yn ddiweddarach, rwyf wedi symud i addysgu ar y Meistr mewn Addysg Cenedlaethol (Cymru), ac rwy’n addysgu’n benodol ar:

  • Sgiliau Ymchwilio ac Ymholi Uwch
  • a fi yw’r arweinydd modwl ar gyfer y Modwl Traethawd Hir

Rwy’n goruchwylio myfyrwyr Meistr yn rheolaidd ar y rhaglen Genedlaethol a rhaglen y brifysgol.

Meysydd Ymchwil

Mae fy niddordeb ymchwil personol yn ffocysu ar ddeall a diffinio ansawdd ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon, a sut mae gwahanol randdeiliaid ar draws y system addysg yn cyrraedd dealltwriaeth a rennir.

Mewn perthynas â hyn, mae gennyf ddiddordeb mewn sut mae polisi, ymchwil ac ymarfer yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth positif ar draws system addysg. Yng Nghymru, mae hyn yn gysylltiedig â diwygio’r cwricwlwm a’r ffordd mae athrawon yn dod yn gyfranogion gweithredol wrth siapio’r cwricwlwm ysgol.
Rwyf hefyd yn aelod o’r tîm ymchwil ar gyfer Camau i’r Dyfodol, prosiect tair blynedd a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Glasgow i ddatblygu dealltwriaeth a rennir o ddilyniant yn y Cwricwlwm newydd i Gymru.

(Camau i’r Dyfodol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)

Bydd gen i gariad at lenyddiaeth ac iaith o hyd a byddaf yn gwylio â diddordeb y dystiolaeth ymchwil sy’n datblygu mewn perthynas ag addysgu darllen.

Arbenigedd

Mae fy arbenigedd ym mae addysg athrawon a chefnogi athrawon i ddod yn gyfranogion gweithredol wrth ddylunio ymchwil ystyrlon yn eu dosbarthiadau a’u hysgolion.

Mae hyn hefyd yn cynnwys datblygu sgiliau ymchwil mewn darpar athrawon fel eu bod yn barod i gymryd ymholiad ymlaen yn eu dosbarthiadau.

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Rwyf wedi cefnogi gwahanol brosiectau a ariannwyd yn allanol tu hwnt i brosiect Camau a restrwyd eisoes. Er enghraifft:

  • Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP) – cefnogi dros ugain ysgol gydag ymholi yn y dosbarth.
  • Rhaglenni arweinwyr canol – cefnogi rhaglenni achrededig mewn ysgolion uwchradd
  • Rhaglenni a arweinir gan gonsortia – prosiectau ymchwil a ariennir gan wella ysgolion rhanbarthol.

Cyhoeddiadau

Hayward, L. et al. (2020) So far so god: Building the Evidence-base to promote a Successful Future for the Curriculum for Wales.  University of Glasgow

Waters, J. & Sharpling, E. (2020) Changing the Lens: mapping the development of research dispositions in programmes of Initial Teacher Education (ITE) Cylchgrawn Addysg Cymru 22 (1) 

Adnoddau

Tîm Camau: Gweithdai Asesu ar gyfer y Dyfodol ar gael yma:  CAMAU Asesu ar gyfer y Dyfodol Gweithdy 1 dilyniant ac asesu (gov.wales)

Cyflwyniadau Cynadleddau

ITERC: Critique of positive and negative universality in determining effective practice.  Derbyniwyd ar gyfer TEAN 2023, ATEA 2023, ECER 2023