
Hafan YDDS - Sefydliadau ac Academïau - Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau - Staff - Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau - Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones
Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones
Athro (Amlieithrwydd a’r Diwydiannau Creadigol)
Cyfarwyddwr, Canolfan Uwchefrydiad Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Ffôn: 01267 676767
E-bost: elin.jones@pcydds.ac.uk
- Cyfarwyddwr, Canolfan Uwchefrydiad Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
- Cyfarwyddwr Mercator
- Cyfarwyddwr Strategol: Cyfnewidfa Lên Cymru
- Tim Rheoli: Ewrop Lenyddol Fyw+ / Literary Europe Live+
- Tim Rheoli: Ulysses’ Shelter
- Tim Rheoli: LEILA
Mae’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones wedi gweithio ym maes ieithoedd lleiafrifol Ewrop ers tri degawd gan arbenigo ym maes y cyfryngau, y sectorau creadigol a diwylliannol, cyfieithu, polisi a chynllunio ieithyddol.
Fel aelod-sylfaenydd o Rwydwaith Mercator, mae wedi trefnu a chymryd rhan mewn niferoedd lawer o gynadleddau, prosiectau ymchwil, teithiau astudio ac wedi ysgrifennu a chyfrannu at adroddiadau, erthyglau a llyfrau yn y maes.
Ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mae hefyd yn cyfarwyddo gwaith Cyfnewidfa Lên Cymru ac yn cydweithio’n agos â Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Wales PEN Cymru.
Yn 2016, fe’i hapwyntiwyd yn Is-Gadeirydd Adolygiad Annibynnol ar Gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Gyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru. Yn 2017, fe’i hapwyntiwyd yn aelod o grŵp arbenigwyr Cyngor Ewrop ar y cyfryngau ar gyfer Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol.
Rhwng 2014 a 2018, arweiniodd ddatblygiad y ddarpariaeth ôl-raddedig gyntaf ar lefel Cymru gyfan gydag Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol a gynigir gan Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“Senedd” heddiw), Cymdeithas Lywodraeth leol Cymru a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Mae’n amlieithog, ac yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, mae’n siarad Basgeg, Catalaneg, Ffrangeg, Galisieg a Sbaeneg ac mae ganddi wybodaeth o Eidaleg, Portiwgaleg, Almaeneg a Gwyddeleg.
Mae’n adolygu ar gyfer ystod o gyfnodolion ac mewn sawl iaith. Mae’n aelod o baneli asesu ymchwil mewn sawl gwlad ac wedi arholi doethuriaethau sawl prifysgol yma yn Ewrop.
Goruchwyliodd 8 doethuriaeth ac ar hyn o bryd mae’n arolygu dwy, sydd wedi eu cyllido’n llawn:
Strategaethau ar gyfer rhyngwladoli’r sector cyhoeddi i blant yng Nghymru (Megan Farr) mewn partneriaeth gyda Chyngor Llyfrau Cymru.
Archwilio Cyfleoedd Digidol wrth Ddatblygu a Gweithredu Strategaeth Ryngwladol Gynaliadwy: Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Nici Beech).
Prosiectau PhD a gwblhawyd:
- Cynnwys Aml-Gyfryngol Ar-lein mewn Cyd-destunau Lleol a Hyper-Lleol yn yr iaith Gymraeg. Siôn Richards mewn partneriaeth â Golwg360 (KESS)
- The role of Welsh language media in the construction and perceptions of identity during middle childhood. Helen Davies (ail oruchwyliwr)
- Naratifau Clyweledol Aml-blatfform ar gyfer Cynhyrchu Cyfryngau. Nia Dryhurst mewn partneriaeth â Cwmni Da (KESS)
- Diwylliant Cyfranogol a’r Economi Gyfryngol Ddigidol Rhodri ap Dyfrig, mewn partneriaeth â Boom (KESS)
- The significance of animé as a novel animation form Ywain Tomos
- Negotiations of Identity in Minority Language Media: Enrique Uribe-Jongbloed.
- Linguistic Representation in Teen Genre Films 1990-2005 Lisa Richards
- Hanes y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg Kate Woodward (ail oruchwyliwr)
Swyddogaethau blaenorol:
- Cadeirydd Bwrdd Prosiect Termau, Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2013-2017)
- Cyfarwyddwr Uned Monitro ac Ymchwil Cydymffurfiaeth Ddarlledu S4C (1998-2010)
- Cynorthwyydd Ymchwil a Darlithydd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
- Darlithydd, Uwch Ddarlithydd ac Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Cyfarwyddwr y Gymraeg a Diwylliant Cymru ar draws chwe adran academaidd yn Athrofa’r Celfyddydau a'r Dyniaethau, Prifysgol Aberystwyth.
- Aelod, Pwyllgor Gweithredol, (ELEN) European Language Equality Network
- Aelod o’r Bwrdd Academaidd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Aelod-Sylfaenydd, International Association of Minority Language Media Research
- Cadeirydd, Cwmni Theatr Arad Goch
- Aelod o’r Bwrdd ac Ymddiriedolwr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- Aelod o’r Bwrdd, Mercator Rhyngwladol / Mercator International
- Aelod-Sylfaenydd Member Mercator Network
Twitter: @elinhgj
- Amrywiaeth ieithyddol, Polisi a Chynllunio Iaith, Ieithoedd Lleiafrifol/edig
- Sector Greadigol, Cyfryngau a Diwylliant, Cyfryngau Cymdeithasol, Cyfieithu Llenyddol a Chreadigol, Cyhoeddi, Polisi ac Ymarfer
- Cyfnewid Rhyng-Ddiwylliannol, Rhwydweithiau Rhyngwladol, Dinasyddiaeth
- Amrywiaeth ieithyddol, Polisi a Chynllunio Iaith, Ieithoedd Lleiafrifol/edig
- Sector Greadigol, Cyfryngau a Diwylliant, Cyfryngau Cymdeithasol, Cyfieithu Llenyddol a Chreadigol, Cyhoeddi, Polisi ac Ymarfer
- Cyfnewid Rhyng-Ddiwylliannol, Rhwydweithiau Rhyngwladol, Dinasyddiaeth
Mae’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones wedi gweithio ym maes ieithoedd lleiafrifol Ewrop ers tri degawd gan arbenigo ym maes y cyfryngau, y sectorau creadigol a diwylliannol, cyfieithu, polisi a chynllunio ieithyddol.
Fel aelod-sylfaenydd o Rwydwaith Mercator, mae wedi trefnu a chymryd rhan mewn niferoedd lawer o gynadleddau, prosiectau ymchwil, teithiau astudio ac wedi ysgrifennu a chyfrannu at adroddiadau, erthyglau a llyfrau yn y maes.
Ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mae hefyd yn cyfarwyddo gwaith Cyfnewidfa Lên Cymru ac yn cydweithio’n agos â Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Wales PEN Cymru.
Yn 2017, fe’i hapwyntiwyd yn aelod o grŵp arbenigwyr Cyngor Ewrop ar y cyfryngau ar gyfer Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol.
Mae’n aelod o bwyllgor gweithredol ELEN (European Language Equality Network), yn aelod o Fwrdd yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Gadeirydd Cwmni Theatr Arad Goch.
Mae’n amlieithog, ac yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, mae’n siarad Basgeg, Catalaneg, Ffrangeg, Galisieg a Sbaeneg ac mae ganddi wybodaeth o Eidaleg, Portiwgaleg, Almaeneg a Gwyddeleg.
- Amrywiaeth ieithyddol, Polisi a Chynllunio Iaith, Ieithoedd Lleiafrifol/edig
- Sector Greadigol, Cyfryngau a Diwylliant, Cyfryngau Cymdeithasol, Cyfieithu Llenyddol a Chreadigol, Cyhoeddi, Polisi ac Ymarfer
- Cyfnewid Rhyng-Ddiwylliannol, Rhwydweithiau Rhyngwladol, Dinasyddiaeth
Jones, Elin H.G. (forthcoming, 2020) ‘Representing Sociolinguistic Reality in a Minoritized Language: S4C, documentary and ‘translanguaging’' in Elin H G Jones and Dafydd Sills-Jones (eds) Documentary in Wales: Cultures and Practices Peter Lang, Oxford.
Jones, Elin H.G. & Sills-Jones, D. (forthcoming, 2020) ‘Editorial Introduction - Documentary in Wales: Cultures and Practices' in Elin H G Jones and Dafydd Sills-Jones (eds) Documentary in Wales: Cultures and Practices Peter Lang, Oxford.
Jones, E. H. G., Lainio, J. (Ed.), Moring, T., & Resit, F. (2019). European Charter for Regional or Minority Languages—New technologies, new social media and the European Charter for Regional or Minority Languages: Report for the Committee of Experts. Strasbourg: Council of Europe. 42pp https://www.coe.int/en/web/european-charter-regional-or-minority-languages/home/-/asset_publisher/VzXuex45jmKt/content/hot-off-the-press-new-media-new-technologies-the-charter?inheritRedirect=false
Davies, P., Hughes, M., Jones, E.H.G., Rolph, M., Williams, J. (2017) Independent Review of Support for Publishing and Literature in Wales Welsh Government 219pp
Elfyn, M. & Urretabizkaia, A. (2016) Korrespondentziak = Gohebiaethau = Correspondencias (trans. A. R. King & E. H. G. Jones) Donostia: Erein.
Jones, Elin H.G., (2016) The LEARNMeWhite Paper on Linguistic Diversity: Abridged Version Mercator Network for European Commission. https://www.mercator-network.eu/fileadmin/network/publications_pdf/Learnme_WP_Abridged_29-2.pdf 27pp
Lainio, J. with Bartak, C., Jones, Elin H.G., van der Meer, C., Vila, X. (2016) The LEARNMeWhite Paper on Linguistic Diversity: Full Version Mercator Network for European Commission. https://www.mercator-network.eu/fileadmin/network/publications_pdf/Learnme_WP_29-2.pdf 84pp
Jones, Elin H.G., Owen, D.H., Thomas, N. (2015) Cronfa Cyfieithiadau‘r Gymraeg [Online annotated database of scholarly and literary translations into Welsh in the modern period] Coleg Cymraeg Cenedlaethol: https://www.porth.ac.uk/cyfieithiadau/ in Welsh only. 800 entries.
Jones, Elin H.G., Rolewska, A. (2014) Revisiting, reanalysing and redefining research on linguistic diversity: media, education and policy LEARNMe Position Paper One: Mercator Network https://www.mercator-network.eu/fileadmin/network/publications_pdf/Aberystwyth-Position-Paper.pdf 19pp
Jones, Elin H.G. (2013) ‘Permeable and Impermeable Linguistic Boundaries: from Mass Media to Social Media in Policy and Practice in Minoritised Language Contexts’ ZER Aldizkaria Vol. 18 Núm. 35 ISSN: 1137-
Jones, Elin H.G., Uribe-Jongbloed, E. (eds) (2013) Social Media and Minority Languages: Convergence and the Creative Industries Clevedon: Multilingual Matters. 430pp
Jones, Elin H.G. (2013) ‘The Indices of Linguistic Vitality’ in Elin H.G. Jones and E. Uribe-Jongbloed (eds) Social Media and Minority Languages: Convergence and the Creative Industries. Multilingual Matters / Channel View Publications, p. 92-112 (21 pp).
Jones, Elin H.G., Woodward, K. (2012) Pen Talar: On-screen and off-screen narratives of nation in a Welsh context (2012) Critical Studies in Television 6, 2 p. 100-113 DOI: 10.7227/CST.6.2.11
Jones, Elin H.G. (2012) Y Cyfrwng a'r Iaith: dadansoddi rôl cyfryngau mewn cyd-destunau iaith leiafrifol [The Medium and the Language: Analysis of the role of Media in Minority Language Contexts’ in Elin H.G. Jones (ed.) Ysgrifau ar Ffilm a'r Cyfryngau [Essays on Film and the Media] Coleg Cymraeg Cenedlaethol, p. 121-141 21 p.
Jones, Elin H.G. (ed.) (2012) Ysgrifau ar Ffilm a'r Cyfryngau [Essays on Film and the Media] Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 138pp
- Siaradwraig Wadd mewn cynadleddau rhyngwladol
- Aelod o bwyllgorau academaidd a phwyllgorau trefnu cynadleddau rhyngwladol
- Cyfrannu’n rheolaidd i’r cyfryngau yng Nghymru ac yn achlysurol i gyfryngau mewn ieithoedd eraill.