Skip page header and navigation

Dr. Ewa Kazimierska MSc, MPhil, PhD.

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Darlithydd

Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA)


E-bost: e.kazimierska@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Mae Ewa yn ddarlithydd ar y rhaglen brentisiaeth mewn Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (OME) a’i chyfrifoldeb yw addysgu modylau Cemeg OME sylfaenol ac uwch. Mae hefyd yn addysgu Sgiliau Astudio a Dulliau Ymchwil i’r prentisiaid ar y rhaglen Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (OME) ac ymgeiswyr HNC.

Cefndir

Mae Ewa’n hanu’n wreiddiol o Warsaw, Gwlad Pwyl. Enillodd MSc mewn Cemeg Ddadansoddol/Amgylcheddol o Brifysgol Warsaw yn 1999 a symud ymlaen at PhD yng Nghanolfan y Graddedigion ym Mhrifysgol Ddinesig Efrog Newydd (CUNY).  Derbyniodd ei PhD mewn Cemeg Ddadansoddol yn 2006 am draethawd ymchwil ar briodweddau cludo polymerau clyfar. Wedi hynny, cwblhaodd ôl-ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Dinas Dulyn (DCU) Iwerddon, lle bu’n arwain ymchwil ar bolymerau dargludol nanostrwythuredig ar gyfer synwyryddion cemegol a biogemegol.

Ar ôl saib o saith mlynedd yn ei gyrfa, yn 2017 dychwelodd Ewa i’r byd academaidd ac ailgydio yn ei llwybr academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, i ddatblygu cyfansoddion nanodiwb copr-carbon.

Yn 2012 newidiodd Ewa ei gyrfa o fod yn ymchwilydd i addysgu gan ddod yn ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yn y Drindod Dewi Sant, yn gyfrifol am ddarparu modylau cemeg i’r myfyrwyr OME.

Diddordebau Academaidd

Mae Ewa wedi addysgu cyrsiau cemeg israddedig gan gynnwys Cemeg Graidd ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn arbenigo mewn gwyddoniaeth a Chemeg Gyffredinol 1 a 2. Bu hefyd yn arwain seminarau ar gyfer myfyrwyr sy’n paratoi eu traethawd ymchwil.

Bu’n cymryd rhan yn y gwaith o ddylunio a darparu modwl israddedig yn canolbwyntio ar ddulliau arbrofol o ddadansoddi rhywogaethau organig ac anorganig, a lluniodd ddarlith ac arddangosiad labordy ar gyfer Astudiaeth Achos sylweddol lle bu’n sôn am greu a nodweddu cyfansoddion nanodiwb copr-carbon (Cu-CNT).

Diddordeb Ewa yw datblygu modylau Cemeg OME a ddarperir mewn cyd-destun dosbarth gwrthdro a chyflwyno rhagor o ddulliau dysgu sy’n seiliedig ar broblemau yn ei gwaith addysgu.

Meysydd Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil Ewa yn fras yn cwmpasu cymhwyso technegau cemegol ac electrogemegol er mwyn creu a nodweddu amrywiol ddeunyddiau gan gynnwys polymerau a chyfansoddion clyfar a dargludol.

Ymchwiliodd i briodweddau cludo polymerau thermoymatebol a addaswyd â nanoronynnau coloidaidd metel fel cyfrwng trosglwyddo a datblygodd bolymerau dargludol nanostrwythuredig fel platfform ar gyfer synwyryddion a biosynwyryddion newydd.

Yn ei swydd ddiwethaf, canolbwyntiodd Ewa ei diddordeb ymchwil ar greu a nodweddu cyfansoddion copr-CNT er mwyn cludo a throsglwyddo ynni’n fwy effeithlon.  

Arbenigedd

Mae arbenigedd Ewa’n rhychwantu cymhwyso amrywiol ddulliau a thechnegau dadansoddol megis sbectroscopeg, (UV-vis, Raman, FT-IR), microscopeg (SEM-EDX), foltametreg, potensiometreg a rhwystriant i ddatblygu a nodweddu deunyddiau newydd ar gyfer cymwysiadau newydd.

Arweiniodd ei hymchwil ar gyfansoddion Cu-CNT at gais am batent.

Mae wedi cael profiad hir o addysgu cemeg ar amrywiol lefelau gan gynnwys yn yr ysgol gynradd ac uwchradd, at Safon Uwch/Lefel A, mewn coleg a phrifysgol yn ogystal â goruchwylio prosiectau israddedigion a graddedigion.  

Cyhoeddiadau

Mae Ewa wedi cyhoeddi tri phapur ar ddeg mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ac mae’r manylion isod yn arwydd o’i hymchwil dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

  • Investigation into the re-arrangement of copper foams pre- and post-CO2 electrocatalysis; A. Rudd, S. Hermandez-Aldave, E. Kazimierska, L.B. Hamdy, O.J.E. Bain, A.R. Barron, E. Andreoli. Chemistry 2021, 3, 687
  • Effect of applied pressure on the electrical resistance of carbon nanotube fibers; J. Barnett, J.D McGettrick, V.S. Gangoli, E. Kazimierska, A. Orbaek White, A.R. Barron. Materials 2021, 14, 2106
  • CO2 reduction to propanol by copper foams, a pre- a nd post-catalysis study; A. Rudd, E. Kazimierska, L. Hamdy, O. Bain, S. Anh, A. Barron, E. Andreoli. ChemRxiv. Preprint 2021
  • Understanding the effect of carbon nanotube functionalisation on copper electrodeposition; Kazimierska, E. Andreoli, A.R. Barron. Journal of Applied Electrochemistry 2019, 49 (8), 731
  • Solvent-free microwave-assisted synthesis of tenorite nanoparticle-decorated multiwalled carbon nanotubes; A. Rudd, C.E. Gowenlock, V. Gomez, E. Kazimierska, A.M. Al Enizi, E. Andreoli, A.R. Barron. Journal of Materials Science and Technology 2019, 35 (6), 1121
  • Enhancing the CO2 capture performance of defective UiO-66 via post-synthetic defect exchange; Koutsianos, E. Kazimierska, A.R. Barron, M. Taddei, E. Andreoli. Dalton Transactions 2019, 48, 3349

Gwybodaeth bellach

Er mwyn i Ewa allu cyflawni ei hymchwil a sefydlu cynlluniau cydweithio, dyfarnwyd iddi nifer o gymrodoriaethau a grantiau gan gynnwys y canlynol:

  • Gwobr Gydweithio Texas
  • Rhaglen Alliance Hubert Curien gan y British Council  
  • Grant Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol
  • Sêr Cymru II, Cymrodoriaeth Ymchwil Adennill Talent, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), tair blynedd o gyllid
  • Cynllun Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Cyngor Ymchwil Iwerddon i Wyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (IRCSET), dwy flynedd o gyllid