Skip page header and navigation

Dr Ffion M. Jones MA, PhD

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cymrawd Ymchwil

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd


Ffôn: 01970 636543 
E-bost: ffion.jones@cymru.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Cymrawd Ymchwil

Cefndir

Mae Ffion Mair Jones yn gweithio ar brosiectau yn y Ganolfan sy’n ymwneud â’r ddeunawfed ganrif. Y diweddaraf o’r rhain oedd ‘Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i’r Alban 1760–1820’, lle bu’n trawsysgrifio ac yn creu golygiadau digidol o rannau o ohebiaeth eang a hynod Thomas Pennant. Mae ganddi ddiddordeb neilltuol yng ngohebiaeth Gymreig Pennant ac yn y llythyru a fu rhyngddo a’r casglwr printiau Richard Bull; gw. y llyfryddiaeth am ddolenni i’r golygiadau o’r rhain ar lein ar ‘Curious Travellers editions’. Ymhlith ei diddordebau pellach y mae gohebiaeth gynnar Pennant; ei ohebiaeth Gyfandirol a’i daith i’r Cyfandir yn 1765; y proses o creu British Zoology; arlunwyr Pennant; a’r math o dderbyniad a gâi Pennant mewn cylchoedd Cymraeg eu hiaith hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif. 

Bu Ffion hefyd yn gweithio ar brosiect ‘Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru, 1740–1918’, lle bu’n cydolygu tair cyfrol o ohebiaeth, The Correspondence of Iolo Morganwg (Cardiff, 2007), ac yn ysgrifennu monograff sy’n rhoi sylw i nodiadau ymyl-dalen Iolo mewn llyfrau o’i eiddo ac ar odrau ei lythyrau, ‘The Bard is a Very Singular Character: Iolo Morganwg, Marginalia and Print Culture (Cardiff, 2010).  

Fel aelod o brosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’ cyhoeddodd gyfrol o faledi o’r cyfnod rhwng blynyddoedd cynnar y Chwyldro a diwedd y rhyfeloedd Napoleonaidd, Welsh Ballads of the French Revolution 1793–1815 (Cardiff, 2012); sawl ysgrif ynghylch y faled; a golygiad o anterliwt o waith Huw Jones, Glan Conwy, sy’n adrodd hanes y Chwyldro o safbwynt Cymreig.

Arweiniodd diddordeb Ffion yng ngohebiaeth Gymreig y ddeunawfed ganrif at greu cronfa ddata o ohebiaeth y Morrisiaid (1725–86). Mae ei diddordebau pellach yn cynnwys genre poblogaidd yr anterliwt yng Nghymru. Yn y cyswllt hwn, canolbwyntiodd ar ddeunydd hanesyddol sy’n ymdrin â Rhyfeloedd Cartref Prydain yn yr ail ganrif ar bymtheg (gw. y golygiad o Huw Morys, Y Rhyfel Cartrefol (Bangor, 2008)) a’r chwyldroadau Americanaidd a Ffrengig, ac ar ddeunydd cronicl megis hanes y Brenin Llŷr. Yn ogystal â hyn, mae ganddi ddiddordeb mewn materion sy’n ymwneud â llythrennedd yn y ddeunawfed ganrif fel y caiff ei awgrymu gan y baledi Cymraeg; ac yn y defnydd o’r Gymraeg yn llythyrau’r Morrisiaid, yn enwedig mewn perthynas â chyfieithu geirfa’r Ymoleuedigaeth i’r Gymraeg.

Diddordebau Academaidd

Gwaith dysgu yn ymwneud â chrefyddau Celtaidd yn Oes yr Haearn a’r cyfnod Rhufeinig; a dirnadaeth o’r Byd Arall mewn llenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg.

Modiwlau a ddysgwyd:

Celtic Otherworlds (modiwl MA)

Celtic Religions (modiwl BA)

Arolygu traethodau MA: tramgwydd, colled a galar mewn barddoniaeth Gymraeg a Gwyddeleg Canol

Cymeriadau o’r Byd Arall mewn llenyddiaeth a llên gwerin o’r Alban, Iwerddon a Chymru yn y canoloesoedd a’r cyfnod modern cynnar

Meysydd Ymchwil

Gohebiaeth a rhwydweithiau gohebol yn y ddeunawfed ganrif, gan ganolbwyntio ar ddeunydd Cymreig; potensial defnyddio technegau dadansoddi rhwydweithiau ar gyfer darllen gohebiaeth; gohebiaeth wyddonol a gohebiaeth ynghylch byd natur; cynrychioli byd natur a thirlun mewn gwaith celf; rhwydweithiau hynafiaethol ym Mhrydain y ddeunawfed ganrif; baledi ac anterliwtiau Cymraeg; cyfieithu i’r Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif

Arbenigedd

Gohebiaethau Cymraeg o’r ddeunawfed ganrif – Iolo Morganwg, Thomas Pennant, Morrisiaid Môn; cylchoedd byd natur a’r byd hynafiaethol; arlunwyr Thomas Pennant, gan gynnwys Moses Griffith; baledi ac anterliwtiau Cymraeg, gyda phwyslais ar anterliwtiau hanes