Skip page header and navigation

Dr Gareth Evans

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Cyfarwyddwr: Polisi Addysg

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

E-bost: gareth.evans@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Mae Dr Gareth Evans yn Gyfarwyddwr Polisi Addysg yn Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, lle mae’n arwain y Ganolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg (CDAPA).

Mae’r Ganolfan yn darparu llwyfan ar gyfer dadlau a dadansoddi ym maes polisi addysg, gan herio normau sefydledig ac adfyfyrio’n feirniadol ar yr amgylchedd y mae addysgwyr ar bob lefel yn gweithredu ynddo.
 

Cefndir

Yn awdur toreithiog ac addysgwr uchel ei barch, bu Gareth yn newyddiadurwr addysg am 10 mlynedd bron cyn ymuno â’r brifysgol, ac ef yw’r unig arbenigwr i weithio ochr yn ochr â phedwar gweinidog addysg gwahanol i Gymru.

Yn ogystal â dadansoddi, craffu ar, a chyfrannu at bolisi addysg yng Nghymru, mae bellach yn gweithio gydag ysgolion a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu ei weithredu’n llwyddiannus. Mae’n arwain cyfranogiad y brifysgol yn y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP), sydd â’r nod o gefnogi athrawon i ddod yn ymholwyr proffesiynol, a chwaraeodd ran allweddol wrth ddatblygu’r sylfaen ymchwil ar gyfer y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (NAPL) yng Nghymru.

Fel Cyfarwyddwr CDAPA, mae’n goruchwylio ac yn cyfrannu at ymchwil wedi’i gomisiynu, adolygiadau a dadansoddiadau ar gyfer amryw sefydliadau, sy’n berthnasol i feysydd addysg a pholisi addysg. 

Mae llyfr Gareth, A Class Apart: Learning the Lessons of Education in Post-Devolution Wales, yn dilyn hynt llwyddiant a methiant polisi addysg yng Nghymru ers datganoli, a chafodd y llyfr, a gyhoeddwyd yn 2015, glod beirniadol. Mae’n sylwebydd rheolaidd ar y cyfryngau print a darlledu cenedlaethol.

Diddordebau Academaidd

Mae Gareth yn aelod o nifer o grwpiau cynghori addysg ac mae wedi cytuno’n ddiweddar i ymuno â fforwm cenedlaethol newydd i wella’r gwaith o recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru. 

Mae wedi arwain ymweliadau astudio rhyngwladol i Ganada a’r Iseldiroedd a chyfrannu at sawl cynhadledd addysg ar ystod eang o faterion. Mae gan Gareth ddiddordeb arbennig mewn diwygio’r system a datblygu polisi.

Mae Gareth yn darlithio ar nifer o raglenni addysg ôl-raddedig, a’u cefnogi. Mae ei fodwl ar Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg (ECDE7014) yr Athrofa’n archwilio materion cyfoes mewn addysg ac yn ymgorffori nifer o themâu allweddol, gan gynnwys diwygio’r cwricwlwm ac effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Meysydd Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil craidd Gareth yn canolbwyntio ar ddiwygio polisi addysg, yng nghyd-destun Cymru’n benodol. Mae ei weithgarwch ymchwil presennol yn ymwneud â dysgu proffesiynol gan y gweithlu addysg ac atebolrwydd mewn ysgolion. Roedd ei ymchwil doethurol, a gwblhawyd yn 2023, yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth arweinwyr ysgolion o arolygon yng Nghymru.

Cyhoeddiadau

Evans, G. (2015) A class apart: Learning the lessons of education in post-devolution Wales. Caerdydd: Welsh Academic Press.

Evans, G. (2017) Tales from Toronto: Comparing education in Wales and Canada. Caerdydd: British Council Cymru.

Evans, G. (2018) Strategic context of professional learning in Wales. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Evans, G. (2018) Collaborative networks of professional learning in Wales – literature review. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Evans, G. (2018) Collaborative networks of professional learning in Wales – focus groups. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Evans, G. (2019) Research project on teacher professional enquiry in Wales: Rapid report. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Evans, G. (2019) Going global: Teaching outside the box. Caerdydd: British Council Cymru.

Evans, G. (2020) The value of asymmetric school weeks: Lessons learned from schools in Wales. Abertawe: Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.

Evans, G. (2021) Back to the future? Reflections on three phases of education policy reform in Wales and their implications for teachers. Journal of Educational Change.

Evans, G., Llewellyn, S. & Lewabe, J. (2022) Towards a research-engaged teaching profession: Insider reflections on a collaborative approach to developing teachers in Wales as professional enquirers. Practice: Contemporary Issues in Practitioner Education.

Evans, G. (2023) Scratching beneath the surface: Using policy archaeology to better understand education reform in Wales. Management in Education.

Jones, K. & Evans, G. (2023) ‘Co-constructing a new approach to professional learning in Wales: Implementing a national vision’, yn Jones, K., Ostinelli, G. & Crescentini, A. (Goln). Innovation in teacher professional learning in Europe: Research, policy and practice. Oxon: Routledge, 103-116.

Evans, G. (2023) A new dawn or false hope? Exploring the early implementation of Curriculum for Wales. Education Inquiry.