
Hafan YDDS - Sefydliadau ac Academïau - Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau - Staff - Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau - Yr Athro Gary Bunt
Yr Athro Gary Bunt BA (Hons) Kent, MA (Durham), PhD (Wales), SFHEA
Athro mewn Astudiaethau Islamaidd
Ffôn: +44 (0)1570 424894
E-bost: g.bunt@uwtsd.ac.uk
- Prif Ymchwilydd, Prosiect Islam Brydeinig Ddigidol yr ESRC (2022-)
- Cyd-ymchwilydd, Prosiect Islam Ddigidol ar draws Ewrop CHANSE (2022-)
Fel academydd â ffocws yn benodol ar awdurdod crefyddol ac Islam gyfoes, mae’i waith wedi canolbwyntio ar gyflwyno ystod o fodylau ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig, ochr yn ochr â goruchwylio. Yn y gorffennol, roedd hefyd yn ymwneud am gyfnod hir â’r Academi Addysg Uwch a’r Rhwydwaith Astudiaethau Islamaidd fel Cydlynydd Academaidd, ochr yn ochr â rolau gweithredol o fewn Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudiaethau’r Dwyrain Canol. Yn nhermau ymchwil, mae wedi rhoi sylw penodol i agweddau amrywiol ar Islam, ac i rwydweithio a mynegiant Mwslimaidd a hwylusir drwy gyfryngau ar-lein. Mae hyn wedi arwain at ystod o gyhoeddiadau a phapurau cynhadledd, ynghyd â chyfraniadau i ddau brosiect ymchwil parhaus ar Islam ddigidol.
Goruchwylio Ôl-raddedigion
- Portreadu yn y cyfryngau;
- Islam ar-lein;
- Maqasid;
- J. Arberry;
- Moeseg Feddygol Islamaidd;
- Crefydd a’r Rhyngrwyd: rhwydweithio cymdeithasol;
- Y Cyfryngau Cymdeithasol mewn cyd-destunau Mwslimaidd;
- Cyfreitheg Islamaidd;
- Fframio’r Amgen: Effaith Bydolwg, Rhethreg ac Anghyseinedd yn y Cyfryngau ar Ganfyddiadau Mwslimaidd o’r UDA ar ôl 9/11;
- Drama Ddioddefaint Ta'ziyah yn niwylliant poblogaidd Iran;
- Islam ym Malaysia;
- Islam a Pherthnasoedd Cristnogol-Mwslimaidd yn Korea;
- Islam a’r Amgylchedd.
Modylau Ôl-raddedig
Datblygodd yr Athro Bunt y radd MA Astudiaethau Islamaidd (2003–), ac ysgrifennodd a chydlynodd y modylau canlynol:
- Islam Heddiw,
- Sgiliau Astudio ar gyfer Astudiaethau Islamaidd,
- Rhwydweithiau Mwslimaidd,
- Gwleidyddiaeth Fwslimaidd,
- Modwl Prosiect.
Mae hefyd yn goruchwylio llawer o’r traethodau hir ar gyfer y radd MA.
Modylau israddedig
- Archwilio i Gymdeithasau Mwslimaidd yn y Byd Modern, Islam yn y Gorllewin;
- Amrywiaeth Mynegiant Mwslimaidd;
- Islam mewn Cymdeithasau Cyfoes;
- Crefydd, y Cyfryngau a Chymdeithas;
- Dulliau ar gyfer Astudio Diwinyddiaeth a Chrefydd (cydlynydd/datblygwr).
- Rhyw a Thrais: Crefydd yn y Byd Modern;
- Dychmygu’r Amgen;
- Islam yn y Byd Cyfoes (cyfrannwr)
Mae Gary R. Bunt wedi bod yn cynnal ymchwil ar Islam, Mwslimiaid a’r rhyngrwyd er 1997. Mae hyn wedi canolbwyntio ar Islam, Mwslimiaid a’r rhyngrwyd cyfoes. Mae’r gwaith hwn wedi ymestyn tu hwnt i gynulleidfa academaidd amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol, tuag at ymgysylltu â sectorau’r llywodraeth, llunwyr polisi, y cyfryngau a chymunedau Mwslimaidd yn y DU a thramor. Mae’r gwaith wedi ennill cynulleidfa gyffredinol drwy gael ei gyflwyno mewn darlithoedd cyhoeddus, a thrwy’r rhyngrwyd, a’r cyfryngau darlledu a phrint yn y DU a thramor.
Prif gyfraniad yr ymchwil fu datblygu methodolegau newydd a gwybodaeth am y ffenomena’n gysylltiedig ag Islam a Mwslimiaid yn y seiberofod. Mae hyn wedi gofyn am ddatblygu ystyriaethau methodolegol penodol yn gysylltiedig ag Astudiaethau Crefyddol/Astudiaethau Islamaidd amlddisgyblaethol, gan integreiddio ystyriaethau seiber-ddiwylliannol â ffactorau hanesyddol a damcaniaethau ynghylch agweddau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol ar Islam gyfoes.
Mae’r ymchwil hwn wedi cynnwys astudiaethau o ddialogau ar ffurfiau o jihad o fewn amryw o leoliadau rhanbarthol, ac ysgrifennu am we 2.0, rhwydweithio cymdeithasol, amlgyfrwng a blogio. Mae llawer o’r gwaith hwn wedi sefydlu sylfeini ar gyfer astudiaethau disgyblaethol a rhyngddisgyblaethol ar Islam a’r rhyngrwyd a chrefyddau ar y rhyngrwyd. Mae’n cael effaith gymdeithasol benodol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn nhermau dadansoddi’r sector hollbwysig hwn o ddisgwrs ar y rhyngrwyd.
Llyfr
- Hashtag Islam: How Cyber-Islamic Environments Are Transforming Religious Authority(Chapel Hill, University of North Carolina Press, 2018/New Delhi: Pentagon Books, 2018). Fersiwn Tyrceg: Heştek İslam: Si̇ber-İslami̇ Ortamlar Di̇ni̇ Otori̇teyi̇ Nasil Dönüştürür? (trans. Mehmet Ali Başak & Aziz Akkaya) (Istanbul: Adab Yayınları, 2022).
Penodau mewn Llyfrau
- 'The Net Imam Effect: Digital Contestations of #Islam and Religious Authority.’ Chapter in Robert Rozehnal (editor) Cyber Muslims: Islamic Digital Media in the Internet Age (London & New York, Bloomsbury Academic, 2022)
- ‘Islamic Spirituality and the Internet.’ Chapter in Bruce B. Lawrence and Vincent Cornell (editors), The Wiley-Blackwell Companion to Islamic Spirituality (Wiley-Blackwell, 2022)
- ‘The Qur’an and the Internet.’ Chapter in George Archer, Maria M. Dakake, Daniel A. Madigan (editors) The Routledge Companion to the Qur'an, (Routledge, 2021)
- ‘Is it possible to have a ‘religious experience’ in cyberspace?’, chapter in Bettina E. Schmidt (editor), The Study of Religious Experience(Sheffield: Equinox Publishing, 2016)
- ‘Decoding the Hajj in Cyberspace’ chapter in The Hajj: Pilgrimage in Islam. Eric Taglicozzo and Shawkat M. Toorawa (editors) (Cambridge: Cambridge University Press, 2015)
- 'Studying Muslims in Cyberspace’, chapter in Gabriele Marranci (editor), Studying Islam in Practice, (London: Routledge, 2014 )
- 'Islam, Social Networking and the Cloud’, chapter in Jeffrey T. Kenney & Ebrahim Moosa (editors), Islam in the Modern World, (London: Routledge, 2013)
Cofnodion mewn Gwyddoniaduron
- Cofnod, 'Islam and Social Media', for the Encyclopedia of Islam and the Muslim World, (editor: Richard C. Martin (Gale, 2016)
- Cofnod, "Islam Online”, for the Oxford Encyclopedia of the Islamic World (editor: John L. Esposito), (Oxford University Press, 2008)
Grantiau a Enillwyd
- Islam Brydeinig Ddigidol: Sut mae Amgylcheddau Islamaidd Seiber yn effeithio ar fywyd pob dydd. Rhif grant ESRC, ES/W002175/1. 2022 – Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caeredin a Phrifysgol Coventry. Prif Ymchwilydd
- Islam Ddigidol ar draws Ewrop: Deall Cyfranogiad Mwslimiaid mewn Amgylcheddau Islamaidd ar-lein. Collaboration of Humanities and Social Sciences in Europe (CHANSE). 2022 – Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caeredin, Prifysgol Coventry, Ysgol Economeg Warsaw SGH, Prifysgol Gothenburg, Prifysgol Annibynnol Barcelona, Prifysgol Vytautas Magnus, Lithwania. Cyd-ymchwilydd.
Cynhadledd a Drefnwyd
Cynullydd Cynhadledd: Cynhadledd Flynyddol BRISMES 2016. 'Cysylltu’r Dwyrain Canol drwy Amser, y Gofod a’r Seiberofod.' Hefyd wedi darparu papur: 'Interpreting Networks in Cyberspace: the ‘Fatwa Machine’ and Religious Authority Online' yn rhan o’r panel 'Diogelwch, Gweithredaeth a Symud yn y Seiberofod'. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed. Gorffennaf 2016.
Detholiad o Bapurau Cynhadledd
- Darlith drwy wahoddiad: 'Digital Piety, #Islam and Muslim Digital Worlds'. 4th International Women And Justice Summit 2020, Staying Human in the Digital World, Kadin ve Demokrasi Derneği & T.C. Aile, Çalışma ve Sosyal Hizmetler Bakanlığı. Istanbul. November 2020. Ar-lein.
- Darlith drwy wahoddiad: 'The Allah Algorithm: Interpreting Islamic Influencers' Online Responses to Covid-19'. George Mason University. Ali Vural Ak Center for Global Islamic Studies, Fairfax, Virginia, September 2020. Ar-lein.
- Darlith Gyhoeddus: 'Inside the Fatwa Machine: #Islam, Authority and the Net Imam Impact.' Canadian Muslims Online, New Muslim Public Spheres in the Digital Age, Département de sciences des religions, Faculté des sciences humaines, Université du Québec à Montréal, (UQAM), Montréal, Québec, February 2020.
- Prif Anerchiad: 'The Fatwa Machine: Influencers & Authority in Cyber Islamic Environments'. Islam in the Digital Age 'Digital Islam, Education and Youth: Changing Landscape of Indonesian Islam'. 19th Annual International Conference on Islamic Studies. Jakarta. October 2019.
- Papur: ‘The Information Souq: Religious Authority and Cyber Islamic Environments’. British Sociology Association Sociology of Religion Annual Conference. Cardiff University, July 2019.
- Papur drwy wahoddiad: 'The Net Imam Paradox: Contesting Leadership, Religious Authority and Representation in Cyberspace'. 'Leadership, Authority and Representation in British Muslim Communities' Conference. Islam UK Centre, Cardiff University. January 2019.
- Papur drwy wahoddiad: 'Countering Smartphone Jihad: New Approaches to Radicalisation, Religious Extremism and Community Dynamics.' Co-presented with Dr Yvonne Howard-Bunt. 'Resilience Conference: Building Resilience to Extremism and Exploitation', Marble Hall, Cardiff. Ethnic Minorities & Youth Support Team Wales (EYST). November 2018.
- Papur drwy wahoddiad: 'Approaches to Digital Religious Studies', Amsterdam Institute for Humanities Research, University of Amsterdam, April 2018
- Papur drwy wahoddiad: 'Flaming, Trolls and Memes: Digital Dimensions of Coexistence in Cyberspace'. Conference. 'Ethical Approaches to Peaceful Coexistence'. Knowledge Exchange Programme/Muslim Council of Wales/University of Wales Trinity Saint David. City Hall, Cardiff. December 2017.
- Darlith Flynyddol Diwrnod y Sylfaenwyr, 'Interpreting Cyber Islamic Environments'. University of Wales Trinity Saint David, Lampeter campus. November 2016.
- Papur drwy wahoddiad: 'Jihad: Between Theory and Practice' Conference. 'E-Jihad 2.0: The Evolution of Jihad in Cyberspace.' University of Leiden. March 2016.
- Prif Anerchiad: ‘Interpreting Cyber Islamic Environments'. Conference. American University in Dubai/British Society for Middle Eastern Studies. Dubai. April 2015.
Gwefan ymchwil
Virtually Islamic
Blogiau:
Virtually Islamic Blog
Islam in Britain
Y Cyfryngau Cymdeithasol:
Twitter: @garybunt
Facebook: Gary R. Bunt (tudalennau ymchwil)