Skip page header and navigation

Geraint Forster BA (Anrh), TAR, MA, FHEA, CSCS

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Darlithydd

Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Ffôn: 01267 676782
E-bost: g.forster@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Darlithio ar ystod o fodylau damcaniaethol ac ymarferol wedi’u seilio’n bennaf ar addysgeg ac arfer awyr agored. Darparu hyfforddiant a chyrsiau asesu Dyfarniad Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Pennaeth beicio mynydd. Arwain cyrchoedd tramor myfyrwyr. Swyddog arholiadau ac asesiadau yr Ysgol. Cyflwyno a datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn Addysg Awyr Agored.

Cefndir

Astudiodd Astudiaethau Chwaraeon a Symudiad Dynol ar lefel gradd, gan arbenigo mewn ffisioleg ymarfer corff a mesur a gwerthuso ffitrwydd corfforol. Gweithiodd yn y diwydiant ffitrwydd yng Nghaerdydd a Llundain fel hyfforddwr ffitrwydd, hyfforddwr personol, rheolwr gwerthiannau ac yna rheolwr canolfan. Ar ôl cwblhau TAR mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol wrth weithio ym Mhrifysgol Casnewydd, symudodd i rôl fel Darlithydd Gweithgareddau Awyr Agored yng Ngholeg Gwent ym Mrynbuga. Ochr yn ochr â Dyfarniadau Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol mewn beicio mynydd, cwnŵio, caiacio, arweinyddiaeth mynydd a dringo, cafodd statws tiwtor i gyflwyno dyfarniadau mewn canŵio/caiacio a beicio mynydd.

Symudodd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym mis Medi 2010 fel cymrawd addysg cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Awyr Agored, rôl a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cafodd gontract parhaol fel Darlithydd Addysg Awyr Agored yn 2013.

Diddordebau Academaidd

Mae ei brif ddiddordebau o gwmpas addysgeg ac arfer gweithgareddau awyr agored ac anturus, ynghyd â gofynion ffisiolegol a ffitrwydd y cyfryw weithgareddau.

Modylau a addysgir:

  • Gwneud Diogelwch yn Bersonol
  • Gweithgareddau Anturus
  • Lleoliadau Gwaith
  • Dulliau Ymchwilio
  • Datblygiad ac Arfer Proffesiynol
  • Hwyluso Dysgu Awyr Agored
  • Hyfforddi Addysgeg
  • Antur: Risg sy’n Werth ei Gymryd
  • O dan y Mynydd Iâ

Meysydd Ymchwil

Prif ddiddordeb ymchwil o gwmpas beth sy’n cymell pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff gwyrdd, a’r rôl y gall hyn chwarae wrth ddatblygu ymdeimlad o gyswllt â natur.

Arbenigedd

Arbenigwr technegol mewn Beicio Mynydd a thiwtor ar y cynllun Gwobr Arweinydd Beicio Mynydd, gan gyflwyno cyrsiau hyfforddi ac asesu Arweinydd Beicio Llwybr yn Ne Cymru. Tiwtor Undeb Canŵio Prydain ar gyfer cyflwyno dyfarniadau hyfforddwr chwaraeon padlo lefel 1 a 2 UKCC.