Image and intro
Uwch Ddarlithydd
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: +44 (0) 1267 676605
E-bost: g.tinney@uwtsd.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Tiwtor Derbyniadau
- Pencampwr Cynaliadwyedd
- Achredu Dysgu Blaenorol (swyddog RPEL)
- Aelod o banel Academi Addysg Uwch
- Aelod o Bwyllgor Ymchwil Cyfadran Addysg a Chymunedau
- Cydlynydd modwl
Cefndir
Dechreuais fy ngyrfa fel biolegydd ym Mhrifysgol Lancaster cyn symud ymlaen i ddysgu cyrsiau iechyd, gofal cymdeithasol a bioleg yn y sector addysg bellach ac oedolion.
Yn 2002, mi gyfunais fy niddordeb mewn lles, addysg awyr agored a chynaladwyedd pan gefais fy mhenodi fel darlithydd ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, i ddarparu rhaglenni israddedig a graddedig yn gysylltiedig ag ymwybyddiaeth amgylcheddol, cadwraeth a datblygiad cynaliadwy.
Yn 2007 cefais fy mhenodi i’r Ysgol Plentyndod Cynnar lle’r wyf wedi gallu cyfuno fy niddordeb mewn cynaladwyedd a lles gyda phrofiadau plant ieuanc o Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yng Nghymru. Rwy’n meddu ar gymhwyster Arweinydd Ysgol Goedwig lefel 3 sy’n cefnogi fy ngwaith gyda phlant ac oedolion yn yr awyr agored.
Diddordebau Academaidd
Mae fy niddordebau academaidd yn cynnwys archwilio methodoleg ymchwil, dysgu awyr agored, dysgu o fewn natur, cynaladwyedd, cysyniadau gwyddonol a dinasyddiaeth fyd-eang ym mhlentyndod cynnar.
Rwy’n dysgu ar nifer o gyrsiau israddedig a graddedig gan gynnwys pynciau megis:
- Ymchwil ar gyfer Dysgu.
- Dysgu Awyr Agored ym Mhlentyndod Cynnar.
- Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yn y Blynyddoedd Cynnar.
- Cynhwysiant a Phlentyndod Cynnar.
- Cyfryngau, Lles a Phlentyndod.
- Arweinyddiaeth ac Adeiladu Tîm mewn Lleoliadau Plentyndod Cynnar.
- Traethawd Hir – prosiect ymchwil personol
- Amgylcheddau Llythrennog
- Traethodau hir ymchwil graddedig
Meysydd Ymchwil
Rwy’n parhau i ddatblygu fy niddordebau ymchwil ym maes cynaladwyedd a phlant ieuanc. Rwyf hefyd yn gyfrifol am Dderbyniadau o fewn yr Ysgol Plentyndod Cynnar ac mae hyn wedi cefnogi fy niddordebau ymchwil mewn ehangu mynediad a datblygu methodoleg gadarn er mwyn denu myfyrwyr o gefndiroedd llai traddodiadol o wahanol gymunedau i mewn i addysg uwch. Mae hyn hefyd yn cynnwys archwilio agweddau myfyrwyr tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn y blynyddoedd diweddar yr wyf wedi bod yn archwilio diddordebau ymchwil mewn rhaglenni darllen cynnar yng nghyd-destun rhannu darllen gyda theuluoedd a phlant ieuanc.
Arbenigedd
- Dysgu yn yr awyr agored a dysgu mewn natur.
- Cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang.
- Dulliau a thechnegau ymchwil a’u defnydd yn y plentyndod cynnar.
- Arweinydd Ysgol Goedwig lefel 3.
- Cysyniadau gwyddonol yn y blynyddoedd cynnar