Skip page header and navigation

Yr Athro Heather Williams MA (Oxon), MSt, DPhil

Llun a chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cymrawd Ymchwil

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS)


Ffôn: 01970 636543 
E-bost: h.williams@cymru.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rwy’n dysgu ar y BA mewn Astudiaethau Celtaidd ac yn cyfarwyddo traethodau ar yr MA mewn Astudiaethau Celtaidd.

Cefndir

Ymchwilydd academaidd a beirniad llenyddol ydw i, sy’n arbenigo mewn llenyddiaeth Ffrangeg, llenyddiaeth Geltaidd a llenyddiaeth gymharol. Wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ieithoedd Modern (Ffrangeg) o Goleg Santes Hilda, Prifysgol Rhydychen, euthum ymlaen i gwblhau graddau meistr a doethuriaeth yno ar waith y bardd Stéphane Mallarmé. Galluogodd Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis imi barhau â’m hymchwil ym Mharis a chyhoeddi Barddoniaeth i Bawb: Stéphane Mallarmé. Bûm yn Gymrawd Ymchwil Iau yng Ngholeg Santes Anne, Rhydychen, yna’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Nottingham, ac wedyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn ymuno â staff y Ganolfan yn 2007 fel Cymrawd Hŷn Pilcher.

Mae gen i brofiad eang o fyd addysg: rydw i wedi darlithio, cynllunio ac asesu cyrsiau addysg uwch israddedig ac ôl-radd, a hefyd wedi dysgu Ffrangeg Safon A trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd leol.

Fel ymchwilydd rydw i wedi cyhoeddi’n eang ar farddoniaeth Ffrangeg, ar lenyddiaethau Llydaw, astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth daith. Rwyf hefyd yn olygydd profiadol o waith ysgolheigaidd yn fy maes, ac yn aml yn gweithredu fel darllenydd ar gyfer gweisg prifysgol a chyfnodolion academaidd.

Arweiniais y tîm Prydeinig ar brosiect ar y cyd rhwng Cymru a Llydaw a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig a’r Ministère des Affaires étrangères (Partenariats Hubert Curien). Nod Cymru a Llydaw: cyfnewid diwylliannol (Cultural changes and exchanges: Brittany and Wales / Bretagne/pays de Galles: quand les chemins se croisent et se décroisent) oedd cryfhau’r cysylltiadiadau rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a’r Centre de Recherche Bretonne et Celtique (CRBC), Prifysgol Brest, Llydaw. Cynhaliwyd cyfres o weithdai (manylion yma), ac yn sgil y rhain cyhoeddwyd cyfrol o erthyglau

Yn ddiweddar bûm yn gweithio ar brosiect ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru’, a gyllidwyd gan yr AHRC, ac yna’r prosiect dilynol i ddatblygu adnoddau digidol yn seiliedig ar ddisgrifiadau hanesyddol o Gymru gan deithwyr o Ewrop. O ganlyniad i’r gwaith hwn rydw i wedi cael cyfle i weithio gyda phartneriaid y tu allan i academia i ymgysylltu â’r cyhoedd. Cynhyrchwyd cronfa ddata chwiliadwy yn cynnig manylion am daithysgrifau am Gymru mewn ieithoedd Ewropeaidd: ‘Accounts of Travel: Travel Writing by European Visitors to Wales’, a datblygwyd gwefan mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Croeso Cymru sy’n targedu ymwelwyr yn ogystal â haneswyr lleol, ‘Yn ogystal, trefnwyd arddangosfa deithiol, a datblygwyd y deunydd yn adnodd dysgu ar ffurf e-lyfr gyda chymorth uned addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Am gyfnod fe gydolygais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Aelod O

  • Cymrawd yn yr Academi Addysg Uwch 
  • Aelod o’r Society for French Studies, a’r Society of Dix-neuviémistes

Diddordebau Academaidd

O ran fy meysydd ymchwil rwy’n hyblyg iawn. Ar ôl cwblhau gwaith mewn llenyddiaeth Ffrangeg (Mallarmé’s Ideas in Language, 2004) euthum ymlaen i arbenigo mewn nifer o feysydd cysylltiol, sef astudiaethau cyfieithu, astudiaethau ôl-drefedigaethol, llenyddiaeth daith, ecofeirniadaeth ac astudiaethau Celtaidd. Yr hyn sy’n rhoi undod i’m gwaith yw fy nefnydd o dechnegau darllen agos, a’r gred fod ieithoedd modern yn ddisgyblaeth gynhenid gymharol. Ffiniau diwylliannol yw prif ffocws fy ymchwil, yn arbennig felly gyfnewid diwylliannol rhwng y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Llydaweg. 

Rwy’n dysgu modiwl lefel 6 ‘Delweddau o Lydaw’: HPCS6007 ar y cwrs BA mewn Astudiaethau Celtaidd. Rwyf hefyd yn cyfarwyddo traethodau ar yr MA mewn Astudiaethau Celtaidd.

Meysydd Ymchwil

Llydaw

Rydw i wedi cyhoeddi’n eang ar ddelweddau o Lydaw mewn llenyddiaeth o Lydaw ac o Ffrainc, gan weithio i godi proffil Llydaw ac ymchwil amlieithog o fewn Astudiaethau Ffrangeg. 

Mae fy llyfr Postcolonial Brittany: Literature Between Languages (2007) yn ymdrin â’r bwlch rhwng dwy iaith Llydaw fodern, trwy gyfrwng cyfres o ddarlleniadau manwl o weithiau llenyddol Ffrangeg sy’n cynnig delweddau o Lydaw neu o Lydewdod. Disgrifiwyd y gyfrol fel un ‘arloesol’ yn French Studies, ac y mae’n derbyn mwy o sylw yn ddiweddar wrth i ysgolheigion mewn astudiaethau Ffrancoffon a Ffrangeg droi i ystyried diwylliant tir mawr Ffrainc yn un cynhenid amlieithog ac amrywiol. Mae’r rhifyn arbennig o Nottingham French Studies (2021) ar lenyddiaethau a diwylliant Llydaw, a olygwyd ar y cyd gyda David Evans, Prifysgol Saint Andrews, yn anelu at ehangu’r ystod o ddialogau academaidd y gall Llydaw ac astudiaethau Llydewig gyfrannu iddynt, gan gasglu ynghyd waith gan ymchwilwyr o Lydaw, Cymru, yr Alban a’r Unol Daleithiau. Mae’n cyflwyno, yn dadansoddi ac yn hyrwyddo corpws o destunau Llydaweg a Ffrangeg o Lydaw a esgeuluswyd cyn hyn – testunau sy’n ffynhonnell werthfawr ar gyfer archwilio nifer o bynciau cyfoes yn y dyniaethau.

Mae fy mhrosiect nesaf ar y berthynas ddiwylliannol rhwng Cymru a Llydaw yn un cymharol. Y nod yw olrhain eu perthynas yn y cyfnod modern (1789 ymlaen), gan ofyn pa ddefnydd a wnaeth y naill ddiwylliant o’r llall. Ceir crynodeb gen i yma: ‘Y tebyg annhebyg a’r ‘gwenn ha du blues’: Golwg ar hanes y berthynas rhwng Cymru a Llydaw’, O’r Pedwar Gwynt. Bydd y prosiect yn creu astudiaeth achos o gyfnewid diwylliannol rhwng lleiafrifoedd ac yn fodd o gwestiynu effaith hegemoni ar ddiwylliant a hunaniaeth. Bydd y gwaith yn bwrw golwg drawsgenedlaethol ac amlieithog ar Gymru, ac yn cyfrannu at ddisgẃrs newydd o fewn ieithoedd modern sy’n herio canoli Ffrengig yn hytrach na’i adlewyrchu.

Ffiniau diwylliannol

Rydw i wedi gweithio ar gyfieithu a chyfnewid diwylliannol ar draws ffiniau ieithyddol, rhwng y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Llydaweg. Yn benodol, rydw i wedi cyhoeddi ar gyfieithu rhwng Ffrangeg a Llydaweg, ac mae gen i ddiddordeb byw mewn cyfieithu i’r Gymraeg. Mae fy ngwaith yn tynnu ar ac yn cyfrannu at feirniadaeth ym meysydd astudiaethau cyfieithu, llenyddiaeth daith, ôl-drefedigaethedd ac ecofeirniadaeth.  

Yn ddiweddar, y testunau a ddarganfuwyd gan brosiect ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru’, dan nawdd yr AHRC, sydd wedi bod yn ganolbwynt i’m hymchwil. Mae hyn wedi caniatáu imi ddatblygu persbectif ar gyfer astudio Cymru sy’n ystyried ieithoedd heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg, ac sy’n mynd y tu hwnt i Brydain. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y cysylltiadau rhwng Cymru a Ffrainc.

Barddoniaeth Ffrangeg

Ceir yn fy llyfr Mallarmé’s Ideas in Language (2004) gyfres o ddarlleniadau agos o farddoniaeth a gwaith theoretig Mallarmé, sy’n archwilio syniadau’r bardd o fewn cyfyngiadau iaith yn hytrach na’i syniadau am iaith. Dadleuir bod ffordd unigryw Mallarmé o wreiddio syniadau mewn ieithwedd yn ennill lle iddo nid yn unig yn hanes barddoniaeth, ond hefyd yn hanes athroniaeth, a disgẃrs theori. Mae’r sgiliau dadansoddi testunol a ddysgais ar y prosiect hwn yn gonglfaen i’m holl ymchwil. Arweiniodd fy ngwaith ar Mallarmé hefyd at ddiddordeb mewn cyfyngiadau ffurfiol mewn llenyddiaeth (e.e. y gynghanedd), ac at theori lenyddol.

Arbenigedd

Yn ogystal â’r uchod mae gen i arbenigedd mewn golygu a chyfieithu.

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Trwy fy ymchwil rydw i wedi cydweithio gyda’r sector amgueddfeydd a threftadaeth.

Cyhoeddiadau

Llyfrau:

gyda Kathryn Jones a Carol Tully, Hidden Texts, Hidden Nation: (Re)Discoveries of Wales in Travel Writing in French and German (1780–2018) (Liverpool: Liverpool University Press, 2020)

Postcolonial Brittany: Literature Between Languages (Oxford: Peter Lang, 2007)

Mallarmé’s Ideas in Language (Oxford: Peter Lang, 2004)

Barddoniaeth i Bawb? Stéphane Mallarmé ([Aberystwyth]: Cronfa Goffa Saunders Lewis, 1998)

Cyfrolau wedi’u golygu:

gyda Valentina Gosetti (goln) French Studies Bulletin, 44: 167-168 (2023), rhifyn arbennig ar ‘Bypassing Paris’

gyda David Evans (goln.), Nottingham French Studies, 60:2 (Gorffennaf 2021), rhifyn arbennig ar lenyddiaeth a diwylliant Llydaw

gyda Kathryn Jones a Carol Tully (goln.), Studies in Travel Writing, 18:2 (2014)

gydag Anne Hellegouarc’h (goln.), Regards croisés sur la Bretagne et le pays de Galles/ Cross-Cultural Essays on Wales and Brittany (Brest: CRBC, 2013)

Erthyglau a phenodau mewn llyfrau:

gyda Valentina Gosetti, ‘Introduction: Bypassing Paris? Se passer de Paris?’, French Studies Bulletin, 44: 167-168 (2023), 1-4 https://doi.org/10.1093/frebul/ktad014 

‘For a Welsh French Studies’, French Studies Bulletin, 44: 167-168 (2023), 63-66 https://doi.org/10.1093/frebul/ktad019 

‘Tensions on the periphery: Breton druids in Cardiff (1899)’, Studies in Travel Writing 26:1 (2023), 71-84 https://doi.org/10.1080/13645145.2023.2212869   

‘Sites of Celtic authenticity in post-Ossian French travelogues’, Australian Journal of French Studies 60:2 (2023), 198-210 https://doi.org/10.3828/ajfs.2023.18 

gyda David Evans, ‘Introduction: New Dialogues with Breton Literature and Culture’, rhagarweiniad i Nottingham French Studies, 60:2, rhifyn arbennig (Gorffennaf 2021), gol. Heather Williams a David Evans

‘Are the Bretons French? The case of François Jaffrennou/ Taldir ab Hernin’, Nottingham French Studies, 60:2, rhifyn arbennig ar lenyddiaeth a diwylliant Llydaw (Gorffennaf 2021), gol. Heather Williams a David Evans 

Erthyglau gwyddoniadur:

‘Minority’, yn Charles Forsdick a Barbara Spadaro (goln.), Translating Cultures: a Glossary (eto i ymddangos ar lein)

 ‘Henri Martin’s Eisteddfod speech’, yn Charles Forsdick a Barbara Spadaro (goln.), Objects in Translation: a ‘Translating Cultures’ Exhibition (eto i ymddangos ar lein)

 ‘strwythuraeth’, ‘ôl-strwythuraeth’, ‘dadadeiladu’, ‘theori ffeminyddol’, ‘arwyddwr/arwyddedig’, ‘différance’, ‘ôl-foderniaeth’, yn Robert Rhys a Heather Williams (goln.),

Esboniadur Beirniadaeth a Theori Lenyddol: <wici.porth.ac.uk> (2018)

 ‘Tristan Corbière’, ‘Auguste Brizeux’, ‘Les Chouans’, yn The Literary Encyclopedia: https://www.litencyc.com (2017), adran Ffrangeg gol. Nigel Harkness a Jennifer Yee

 ‘Minority’, yn Charles Forsdick, Zoë Kinsley a Kate Walchester (goln.), Keywords for Travel Writing Studies: A Critical Glossary (London: Anthem, 2019), tt. 151–3

 ‘llenyddiaeth taith’, ‘Symbol’, ‘Symboliaeth’, Renan, villanelle, ‘Études celtiques’, yn Simon Brooks a Robert Rhys (gol.), Esboniadur Beirniadaeth a Theori Lenyddol <https://wici.porth.ac.uk/index.php/Categori:Beirniadaeth_a_Theori&gt; (2016)

 ‘Celtomania’, yn John T. Koch (gol.), Celtic Culture: A Historical Encyclopedia, 5 cyf. (Santa Barbara: ABC-CLIO, 2006)

Rydw i wedi cyfrannu adolygiadau i Annales: Histoire, Sciences sociales, Barn, Cambrian Medieval Celtic StudiesFrench Studies, Llên Cymru, Modern and Contemporary FranceNew Welsh ReviewNew Zealand Journal of French StudiesNineteenth-Century French Studies, a Planet.