Skip page header and navigation

Heddwen Davies B.Add. Cynradd (Anrhydedd)

Llun a chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


Phone: 44 (0)1267 676923 
Email: c.greenway@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Uwch Ddarlithydd gyda chyfrifoldeb am arwain y Celfyddydau ac Addysg Gorfforol. (BA Addysg gyda SAC a TAR Cynradd)

Rwyf hefyd yn cefnogi Carys Richards wrth brosesu ceisiadau darpar hyfforddeion i’r cwrs.

Cefndir

Yn sgîl graddio o Goleg Cyncoed, Caerdydd 1994 gydag arbenigedd yn Addysg Gorfforol bûm yn ffodus i dderbyn fy swydd gyntaf fel athrawes ysgol gynradd yng Ngheredigion. Yn 2001 cefais fy swydd gyntaf fel Pennaeth Ysgol Gynradd Penlôn, Llwyncelyn.

Yna rhwng 2004 tan 2008 bûm yn ddarlithwraig yng Ngholeg y Drindod yn arbenigo yn Addysg Gorfforol a chefnogi ym maes Cerddoriaeth. Yn ystod y cyfod yma bûm yn rhannu cyfrifoldebau gyda Ms Nalda Wainwright wrth drefnu, paratoi a chynnal nifer o gyrsiau i athrawon ym maes Addysg Gorfforol ar draws siroedd eang.

Yna yn 2008 euthum yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Wirfoddol Gymorthedig Llanwenog ac yna, gydag amser, Ysgolion Cynradd Llanwnnen a Chwrtnewydd mewn cytundeb ffederal anffurfiol. Fel Pennaeth gwnes arwain yr ysgolion trwy arolygaethau llwyddiannus gan Estyn.

Eleni, (2014) bûm yn ffodus i dderbyn swydd ‘nôl ym Mhrif Ysgol y Drindod Dewi Sant gyda chyfrifoldeb am y Celfyddydau ac Addysg Gorfforol ar y cwrs B.Add a chwrs T.A.R. yn Abertawe.

Diddordebau Academaidd

  • Rwy’n cyfrannu at raglenni BAddysg Gynradd (SAC), TAR Cynradd.
  • Cydlynydd modwl ITEA5001/C – ‘Y Celfyddydau Gweledol a Mynegiannol yng Ngnhymru’.
  • Cydlynydd modwl ITDA6002/C – ‘Y Celfyddydau Integredig yn yr Ysgol Gynradd’.
  • Yn sgil hyn rwyf ynghlwm wrth ddarparu darlithoedd ym meysydd yn y celfyddydau ac addysg gorfforol.

Hefyd rwy’n darlithio ar fodwlau :

  • TAR Modwl 1 – ‘Pedagogeg yn y dosbarth cynradd’
  • TAR Modwl 2 & ITCM4001/C – ‘Materion Cwricwlwm’
  • ITSP4001/C – ‘Lleoedd a Mannau i Ddysgu’.
  • ITWC6001/C – ‘Athrawon, Ysgolion a’r Gymuned Ehangach’ sy’n trafod materion proffesiynol am y swydd o ddysgu megis cyfrifoldebau cydlynnydd, asesu a dadansoddi data a gweithio o fewn cymuned glos ysgol gynradd.

Tiwtor :

  • ITPT4001/C, ITPT5001/C, ITPT6001/C & TAR – goruchwylio hyfforddeion ar Brofiadau Addysgu Proffesiynol

Meysydd Ymchwil

Rwyf newydd gychwyn ar gwrs MA yn Addysg Gorfforol ac ar hyn o bryd yn cael tipyn o hwyl arni!

Arbenigedd

  • Ym maes addysg ac yn benodol addysg plant 3 – 11 oed.
  • Fel Pennaeth - y gallu i arwain ysgolion cynradd gweldig fel yn effeithiol.
  • Addysg Gorfforol Cynradd
  • Cerddoriaeth Cynradd