Skip page header and navigation

Jennifer Mackerras PhD, BA (Anrh), AmusA, PTLLS, ITM

Image and intro

female staff profile smiling

Darlithydd Cysylltiol yn Nhechneg Alexander

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Ffôn: 01267 676767 

Rôl yn y Brifysgol

Darlithydd Cysylltiol yn Nhechneg Alexander

Cefndir

Graddiodd Jennifer o Brifysgol New England (Armidale NSW Awstralia) gyda BA (Anrh) ym 1995, gydag Astudiaethau Theatr yn brif bwnc, gan ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a Medal y Brifysgol. Cwblhaodd ei PhD mewn Drama ym Mhrifysgol Bryste yn 2001. Bu’n gweithio ym maes theatr broffesiynol yn arweinydd gweithdai a Swyddog Addysg am sawl blwyddyn, cyn ail-hyfforddi yn athro Techneg Alexander.

Mae Jennifer yn rhedeg ei busnes Techneg Alexander preifat ei hun; mae hi wedi cynnal cyrsiau a gweithdai ar gyfer sefydliadau yn cynnwys Cyngor Dinas Bryste, Ymddiriedolaeth Ysbyty Athrofaol Southampton; Academi John Cabot; Ysgol Eglwys Gadeiriol Wells; a Phrifysgol Bryste. Bu’n addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2008.

Yn gerddor, mae Jennifer wedi chwarae’r recorder yn unawdydd ac yn aelod o ensemble ers ugain mlynedd. Mae ei ensembles, Pink Noise a’r Biber Duo, yn chwarae cyngherddau ym Mryste a thu hwnt, yn cynnwys perfformiadau yn Coventry, Lewes, Durham, ac Amsterdam. Chwaraeodd yn ddiweddar ar gryno ddisg o gerddoriaeth gan Jonathan Dove gyda’r unawdydd clarinét Emma Johnson.

Aelod O

  • Equity
  • Alexander Technique International
  • Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol
  • Cymdeithas Athrawon Recorder Ewrop

Diddordebau Academaidd

Yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, mae Jennifer yn addysgu ar sawl modwl ar y rhaglen BMus Perfformio Lleisiol. Mae hi hefyd yn addysgu ar y rhaglenni BMus ac MMus yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal ag addysgu yn rhan o’r Stiwdio Actorion Ifanc cyn Coleg. Mae Jennifer hefyd wedi addysgu Techneg Alexander ym Mhrifysgol Celfyddydau Leeds (BMus Cerddoriaeth Boblogaidd), ac yn Ysgol Theatr yr Old Vic Bryste.

Meysydd Ymchwil

Seicoleg Perfformio a Gorbryder Perfformio Cerddoriaeth

Mae Jennifer yn adolygydd cymheiriaid rheolaidd o erthyglau a gyflwynir i’r British Journal of Music Education (Cambridge University Press).

Techneg Alexander i Berfformwyr

Mae Jennifer wedi cyflwyno gweithdai mewn cynadleddau rhyngwladol a gynhaliwyd yn Coventry, Llundain a Melbourne, Awstralia. Mae hi wedi cyhoeddi erthyglau ar y pwnc.

Cerddor gweithredol; addysgeg recorder

Mae Jennifer yn athro recorder ac yn berfformiwr rheolaidd gyda Pink Noise a’r Biber Duo. Mae ganddi ddiddordeb mewn sut i ddefnyddio damcaniaeth addysgol modern sy’n deillio o ymchwil niwrowyddonol i wella addysgeg recorder, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion.

Arbenigedd

  • Perfformio cerddoriaeth
  • Techneg Alexander
  • Gorbryder perfformio
  • Addysg cerddoriaeth ac addysgeg recorder
  • Sgiliau perfformio a chyflwyno

Cyhoeddiadau

Perfformiwr ar Emma Johnson: Songs of Celebration, Nimbus NI 6431. (2022)

Erthygl, ‘Simple Tools to Combat Stage Nerves’, The Recorder Magazine, 2019.

Panelydd, Panel trafod ar Dechneg Alexander mewn sefydliadau addysgol. 9fed Cynhadledd Ryngwladol ar gyfer Techneg Alexander mewn Addysg Cerddoriaeth, Trinity Laban, Llundain, 2016.

Erthygl: ‘Myth-Busting’, ysgrifennwyd ar y cyd â Jane Toms, Attending to Movement, gol. Whatley, Garrett Brown, Alexander, Triarchy Press, 2015

Erthygl: ‘The Role of Social Media in Teaching/Learning the Alexander Technique’ , ExChange - Journal of Alexander Technique International, 2013.

Cyflwyniad gweithdy (gyda Jane Toms): ‘Mythbusters: Alexander Technique and Misapprehensions in Performing Arts’. Cynhadledd Dawns ac Arfer Somatig, Prifysgol Coventry, Coventry, Y DU, Gorffennaf 2013.

Cyflwyniad gweithdy: ‘Dynamic Tools for Audition Technique’. Cynhadledd Techneg Alexander a’r Celfyddydau Perfformio. Victorian College of the Arts, Melbourne, Awstralia, Medi 2012.