Skip page header and navigation

Yr Athro John T. Koch AM, PhD, FLSW

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Cymrawd Hŷn ac Arweinydd Prosiect

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS)

Ffôn: 01970 636543 
E-bost: jtk@cymru.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Trefnu, goruchwylio ac ymgymryd yn bersonol ag ymchwil wreiddiol, cyhoeddi a gweithgareddau estyn allan ym maes astudiaethau Celtaidd rhyngddisgyblaethol.

Cefndir

Mae’r Athro John T. Koch (PhD Harvard 1985) yn ieithydd hanesyddol sy’n arbenigo yn yr ieithoedd Celtaidd cynnar. Mae ganddo broffil amlddisgyblaethol unigryw.

Mae ei feysydd ymchwil yn cynnwys gwreiddiau Indo-Ewropeaidd enwau, geiriau a gramadeg yn yr ieithoedd Celtaidd.

O’r cychwyn cyntaf, mae wedi bod yn mynd i’r afael ag archaeoleg yn ogystal ag iaith a llenyddiaeth yn ei gyhoeddiadau.

Mae wedi bod yn arwain prosiectau amlddisgyblaethol sy’n cyfuno ieithyddiaeth ac archaeoleg ers 20 mlynedd a rhagor, ac yn ystod y 13 blynedd diweddaf mae hynny wedi cynnwys geneteg yn ogystal. Ymhlith y prosiectau hyn roedd dau a gynhaliwyd yn y Ganolfan dan nawdd yr AHRC, sef ‘Yr Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol’ ac ‘Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau: Cwestiynau am Iaith Gyffredin’.

Mae gan yr Athro Koch brofiad helaeth yn mapio data archaeolegol ac ieithyddol gyda GIS. Mae’n un o blith yr ychydig iawn o ieithyddion sydd wedi mynd i’r afael yn llawn â’r chwyldro sy’n parhau i ddatblygu ym maes archaeogeneteg.

Gyda’i frwdfrydedd dros geisio gwneud synnwyr o’r toreth o ddata DNA hynafol sydd ar gael erbyn heddiw, y mae’n arbenigwr byd cydnabyddedig yn y maes, ac fe’i gwahoddir yn gyson i gyflwyno papurau mewn cynadleddau rhyngwladol.

Aelod O

Cymrawd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Diddordebau Academaidd

Mae John Koch wedi bod yn addysgu’r modiwl ‘Cyflwyniad i’r Ieithoedd Celtaidd’ i israddedigion ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chyn hynny ystod eang o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yn ymdrin â gwahanol ieithoedd Celtaidd a’u llenyddiaethau, yn ogystal ag astudiaethau ar ieithoedd ac archaeoleg cymunedau cynhanesyddol, hynafol a chanoloesol a siaradai ieithoedd Celtaidd.

Bu’n cyfarwyddo ymchwil ddoethurol yn ymwneud ag arysgrifau Prydyn, ymdriniaeth awduron Clasurol â’r hen Geltiaid, cerddi Beirdd y Tywysogion, cyfansoddion y ferf bod yn yr ieithoedd Brythonaidd, a sail ffonetig ac esblygiad hanesyddol y treiglad meddal yn y Gymraeg.

Meysydd Ymchwil

Adlewyrchir prif ddiddordebau ymchwil John Koch yn y rhestr o’i gyhoeddiadau isod. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • barddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg gynnar; 
  • llenyddiaeth a hanes cynnar Iwerddon; 
  • yr ieithoedd Celtaidd hynafol a chanoloesol; 
  • cefndir Indo-Ewropeaidd yr ieithoedd Celtaidd; 
  • problem y famwlad Indo-Ewropeaidd; 
  • ieithyddiaeth hanesyddol ac adlunio ieithyddol; 
  • seineg a ffonoleg; cystrawen gymharol; 
  • cyfeiriadau at yr hen Geltiaid mewn llenyddiaeth Glasurol; 
  • archaeoleg y cymunedau hynafol a chanoloesol a siaradai iaith Geltaidd; 
  • cysylltiadau rhwng pobloedd cynhanesyddol a hanesyddol cynnar a siaradai iaith Geltaidd ar y naill law ac iaith Germanaidd ar y llall; 
  • cysylltiadau rhwng cymunedau a siaradai iaith Geltaidd a’r ieithoedd hynafol yng ngorllewin Ewrop nad oeddent yn tarddu o Indo-Ewropeg (Basgeg Hynafol, Ibereg, Etrusgeg); 
  • tafodieitheg yr ieithoedd Celtaidd; 
  • mytholeg ac ideoleg Geltaidd ac Indo-Ewropeaidd; 
  • Cristnogaeth gynnar yn y gwledydd Celtaidd; 
  • archaeogeneteg; 
  • Ewrop Oes yr Efydd; 
  • dylanwad Rhufain ar ogledd-orllewin Ewrop; 
  • teipograffeg a chyhoeddi astudiaethau ysgolheigaidd yn ymwneud â’r ieithoedd Celtaidd ac astudiaethau Celtaidd; 
  • gwyddoniaeth archaeolegol.

Arbenigedd

Roedd addysg brifysgol John Koch yn cynnwys archaeoleg, yn ogystal â’r ieithoedd Celtaidd a’u llenyddiaethau. Bu’n addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig yn y ddau faes. Ceir adlewyrchiad o ehangder ei arbenigedd amlddisgyblaethol yn y cyhoeddiadau a ganlyn:

Koch, J. T. (2012) (gol. cyffredinol a phrif awdur cyfrannol, gydag A. Minard, gol.) The Celts: History, Life and Culture, 2 gyf. (Santa Barbara and Oxford: ABC-Clio), 958tt [ISBN (print) 978–1–59884–964–6, (e-lyfr) 978–1–59884–965–3]

Koch, J. T., gydag R. Karl, A. Minard ac S. Ó Faoláin (2007) An Atlas for Celtic Studies. Archaeology and Names in Ancient Europe and Early Medieval Ireland, Britain, and Brittany, Celtic Studies Publications 12 (Oxford: Oxbow Books) [gol. y gyfres: J. T. Koch]

Koch, J. T. (2006) (gol.) Celtic Culture: A Historical Encyclopedia, 5 cyf. (Santa Barbara and Oxford: ABC-Clio)

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Ers y flwyddyn 2000 mae John Koch wedi bod yn gyfarwyddwr ar y cwmni cyhoeddi academaidd bychan ‘Celtic Studies Publications (CSP-Cymru Cyf)’

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau Cynrychioladol

  1. mewn cyfnodolion rhyngwladol blaenllaw a adolygir
  2. mewn trafodion cynadleddau a adolygwyd

Koch, J. T. (2018) ‘Rock art and Celto-Germanic vocabulary: shared iconography and words as reflections of Bronze Age contact’, Adoranten

Silva, M., M. Oliveira, D. Vieira, A. Brandão, T. Rito, J. B. Pereira, R. M. Fraser, B. Hudson, F. Gandini, C. Edwards, M. Pala, J. T. Koch, J. F. Wilson, L. Pereira, M. B. Richards, P. Soares (2017) ‘A genetic chronology for the Indian Subcontinent points to heavily sex-biased dispersals’, BMC Evolutionary Biology 17 (88): 1–18

Koch, J. T. (2016) ‘Bannauenta, Borough Hill, and Welsh mynwent’, Studia Celtica 50: 169–74

Koch, J. T. (2014) ‘On the debate over the classification of the language of the South-Western (SW) inscriptions, also known as Tartessian’, Journal of Indo-European Studies 42/3–4: 336–427

Koch, J. T. (2014) ‘A decipherment interrupted: proceeding from Valério, Eska, and Prósper’, Journal of Indo-European Studies 42/3–4: 487–524

Koch, J. T. (2013) ‘La fórmula epigráfica tartesia a la luz de los descubrimientos de la necrópolis de Medellín’, Acta Palaeohispanica XI, Palaeohispanica 12: 347–57

Gibson, C., P. Bray, K. Cleary, F. Fernández Palacios, J. T. Koch (2019) ‘Mapping the flow: introduction to Atlantic Europe and the Metal Ages project’, yn D. Brandherm (gol.) Aspects of the Bronze Age in the Atlantic Archipelago and Beyond: Proceedings from the Belfast Bronze Age Forum 9–10 November 2013, Archæologia Atlantica – Monographiæ III (Hagen: Curach Bhán Publications): 77–99

Koch, J. T. (2013) ‘Las inscripciones del suroeste y el Tarteso de la arqueología y de la historia’, yn J. Alvar a J. Campos (goln.) Tarteso, el emporio del metal (Córdoba: Editorial Almuzara): 541–58

Koch, J. T. (2013) ‘Waiting for Gododdin: thoughts on Taliesin and Iudic-Hael, Catraeth, and unripe time in Celtic studies’, yn A. Woolf (gol.) Beyond the Gododdin: Dark Age Scotland in Medieval Wales (St Andrews: The Committee for Dark Age Studies, University of St Andrews): 177–204

Koch, J. T. (2012) ‘Tartessian as Celtic and Celtic from the West: both, only the first, only the second, neither’, yn D. le Brise (gol.) Aires Linguistiques Aires Culturelles. Études de concordances en Europe occidentale (Brest: Centre de Recherche Bretonne et Celtique / Université de Bretagne Occidentale): 77–92

Koch, J. T. (2010) ‘Paradigm Shift? Interpreting Tartessian as Celtic’, yn B. Cunliffe a J. T. Koch (goln.) Celtic from the West: Alternative Perspectives from Archaeology, Genetics, Language and Literature, Celtic Studies Publications 15 (Oxford: Oxbow Books): 185–301 [gol. y gyfres: J. T. Koch. viii + 388tt]

  1. mewn cyfrolau amlawdur a adolygwyd
  2. monograffau ymchwil

Koch, J. T., gydag F. Fernández (2019) ‘A case of identity theft? Archaeogenetics, Beaker People, and Celtic origins’, yn B. Cunliffe a J. T. Koch (goln.) Exploring Celtic Origins: New Ways Forward in Archaeology, Linguistics, and Genetics, Celtic Studies Publications 22 (Oxford: Oxbow Books): 38–79 [gol. y gyfres: J. T. Koch. xii + 214tt]

Cunliffe, B., a J. T. Koch (2019) ‘A dialogue at the crossroads’, yn B. Cunliffe a J. T. Koch (goln.) Exploring Celtic Origins: New Ways Forward in Archaeology, Linguistics, and Genetics, Celtic Studies Publications 22 (Oxford: Oxbow Books): 192–206 [gol. y gyfres: J. T. Koch. xii + 214tt]

Ling, J., a J. T. Koch (2018) ‘A sea beyond Europe to the north and west’, yn J. Dodd ac E. Meijer (goln.) Giving the Past a Future: Essays in Archaeology and Rock Art Studies in Honour of Dr. Phil. h.c. Gerhard Milstreu (Oxford: Archaeopress): 96–111

Koch, J. T., ac F. Fernández Palacios (2017) ‘Some epigraphic comparanda bearing on the “pan-Celtic god” Lugus’, yn R. Haeussler ac A. King (goln.) Celtic Religions in the Roman Period: Personal, Local, and Global (Aberystwyth: Celtic Studies Publications): 37–56 [gol. y gyfres: J. T. Koch. xiv + 532tt]

Koch, J. T. (2016) ‘Phoenicians in the West and the break-up of the Atlantic Bronze Age and Proto-Celtic’, yn J. T. Koch, B. Cunliffe, K. Cleary, C. Gibson (goln.) Celtic from the West 3: Atlantic Europe in the Metal Ages: Questions of Shared Language (Oxford: Oxbow Books): 431–76 [gol. y gyfres: J. T. Koch. xii + 539tt]

Koch, J. T. (2015) ‘Some Palaeohispanic implications of the Gaulish inscription of Rezé (Ratiatum)’, yn G. Oudaer, G. Hily, H. Le Bihan (goln.) Mélanges en l’honneur de Pierre-Yves Lambert (Rennes: Université de Rennes 2): 333–46

Koch, J. T. (2014) ‘Once again, Herodotus, the Κελτοί, the source of the Danube, and the Pillars of Hercules’, yn C. Gosden, S. Crawford a K. Ulmschneider (goln.) Celtic Art in Europe: Making Connections: Essays in Honour of Vincent Megaw on his 80th Birthday (Oxford: Oxbow Books): 6–18

Koch, J. T. (2013) ‘Prologue: Ha C1a ≠ PC (the earliest Hallstatt Iron Age cannot equal Proto-Celtic)’, yn J. T. Koch a B. Cunliffe (goln.) Celtic from the West 2: Rethinking the Bronze Age and the Arrival of Indo-European in Atlantic Europe, Celtic Studies Publications 16 (Oxford: Oxbow Books): 1–16 [gol. y gyfres: J. T. Koch. viii + 237tt]

Koch, J. T. (2013) ‘Out of the flow and ebb of the European Bronze Age: Heroes, Tartessos, and Celtic’, yn J. T. Koch a B. Cunliffe (goln.) Celtic from the West 2: Rethinking the Bronze Age and the Arrival of Indo-European in Atlantic Europe, Celtic Studies Publications 16 (Oxford: Oxbow Books): 101–46 [gol. y gyfres: J. T. Koch]

Koch, J. T. (2020) Celto-Germanic: Later Prehistory and Post-Proto-Indo-European Vocabulary in the North and West (Aberystwyth: Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies), 186tt [e-lyfr]

Koch, J. T. (2019) Common Ground and Progress on the Celtic of the South-western (SW) Inscriptions (Aberystwyth: Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies), 136tt [e-lyfr]

Koch, J. T. (2013; arg. cyntaf 2009) Tartessian: Celtic in the South-West at the Dawn of History, Celtic Studies Publications 13, arg. newydd wedi ei ddiwygio a’i ehangu (Aberystwyth: Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies), xii + 332tt

Koch, J. T. (2013) Cunedda, Cynan, Cadwallon, Cynddylan: Four Welsh Poems and Britain 383–655 (Aberystwyth: Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies), vi + 328tt

Koch, J. T. (2011) Tartessian 2: The Inscription of Mesas do Castelinho, ro and the Verbal Complex, Preliminaries to Historical Phonology (Aberystwyth: Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies), vi + 198tt

Koch, J. T. (1997) The Gododdin of Aneirin: Texts and Context from Dark-Age North Britain (Historical Introduction, Reconstructed Text, Translation, Notes) (Cardiff: Uni­versity of Wales Press), 410tt

  1. cyfeirlyfrau
  2. cyfieithiadau

Koch, J. T. (2012) (gol. cyffredinol a phrif awdur cyfrannol, gydag A. Minard, gol.) The Celts: History, Life and Culture, 2 gyf. (Santa Barbara and Oxford: ABC-Clio), 958tt [ISBN (print) 978–1–59884–964–6, (e-lyfr) 978–1–59884–965–3]

Koch, J. T., a J. Carey (2003; arg. cyntaf 1994) (goln.) The Celtic Heroic Age: Literary Sources for Ancient Celtic Europe & Early Ireland & Wales, Celtic Studies Publications 1, pedwerydd arg. (Aberystwyth: Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies), 488tt

Gwybodaeth bellach

Cyflwyniadau o ganlyniad i wahoddiad mewn cynadleddau rhyngwladol sefydledig ac/neu i ysgolion uwch rhyngwladol

2020 ‘Celto-Germanic and North-West Indo-European vocabulary: resonances in myth and rock art iconography’, cynhadledd ‘Indo-European Interfaces: Building Bridges between Mythology, Linguistics and Archaeology’, Colegiwm Uwchefrydiau Sweden, Uppsala, Sweden, Hydref 2020

2019 ‘ “Celtic from the West” and the archaeogenetics revolution’, darlith o ganlyniad i wahoddiad gan yr adrannau Archaeoleg a Gwyddeleg Cynnar a Chanoloesol ac a oedd yn agored i’r cyhoedd, Coleg Prifysgol Corc, Tachwedd 2019

2019 ‘Proto-Vikings? Bronze Age contact between Scandinavia and the Atlantic West and Celto-Germanic vocabulary’, darlith o ganlyniad i wahoddiad gan yr adrannau Archaeoleg a Gwyddeleg Cynnar a Chanoloesol ac a oedd yn agored i’r cyhoedd, Coleg Prifysgol Corc, Tachwedd 2019

2018 ‘Formation of the Indo-European branches in the light of the archaeogenetic revolution’, cynhadledd ‘Genes, Isotopes and Artefacts: How Should We Interpret the Movement of People throughout Bronze Age Europe?’, Academi Awstria ar gyfer y Gwyddorau, Fienna, Rhagfyr 2018

2018 ‘The origins of the Basques and Celts in Atlantic Europe in the light of new discoveries’, cyngres ‘ “Indigenous Peoples” Roots in the North Atlantic’, Coleg Unama’ki, Prifysgol Cape Breton, Canada, Medi 2018

2018 (gyda J. Ling) ‘A sea beyond Europe to the north and west’: how metal trade, maritime interaction and language transformed Atlantic Europe 1400/1300–900 BC’, cynhadledd ‘When Archaeology Meets Linguistics and Genetics’, Prifysgol Göteborg, Sweden, Mai 2018

2016 ‘Thinking about Indo-European and Celtic myths in the 2nd and 3rd millennia’, prif ddarlith yn y 4ydd Colocwiwm Blynyddol ar ‘Thinking about Celtic Mythology in the 21st Century, with special reference to archaeology’, Prifysgol Caeredin, Tachwedd 2016

2016 ‘(Re-)Situating Proto-Celtic in time and space in the light of new ancient DNA evidence’, gweithdy ar ‘Indo-European migrations and Celtic origins: aDNA and linguistic evidence’, Internationales Wissenschaftsforum, Prifysgol Heidelberg, yr Almaen, Medi 2016

2015 ‘Before the Branches: towards a new understanding of (Late) Proto-Indo-European and Copper-to-Bronze Age Europe’, darlith, Prifysgol Göteborg, Sweden, Rhagfyr 2015

2015 ‘Indo-European in Atlantic Europe at the protohistoric horizon and before: some recent work and its possible implications’, symposiwm rhyngwladol ar ‘Linguistics, Archaeology and Genetics’, Sefydliad Gwyddor Hanes Dynol Max Planck, Jena, yr Almaen, Hydref 2015

2014 ‘What can historical linguistics tell us today about (1) the pre-Roman languages of Britain and (2) how they came to be there?’, gweithdy academaidd ‘Iron Age Britain and Celtic Diasporas – Population Continuity, and Movements into, out of and around Great Britain, c.800 BC–AD 400’, Prifysgol Caerlŷr, Tachwedd 2014

2014 (gydag F. Fernández) ‘Gods epigraphically attested in ancient times with counter­parts in the Early Medieval texts from the British Isles’, XIIIeg gweithdy F.E.R.C.AN. [fontes epigraphici religionum celticarum antiquarum] (cynhadledd ryngddisgyblaethol ryngwladol ar grefydd(au) ‘Celtaidd’), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, Hydref 2014

2014 ‘Indo-European from the east and Celtic from the west: reconciling models for languages in later prehistory’, prif ddarlith, Seithfed Colocwiwm y Societas Celto-Slavica, Bangor, Medi 2014

2014 ‘Indo-European and non-Indo-European in Atlantic Europe in later prehistory and the emergence of Celtic’, Tercer congreso internacional Atlantiar, Irun, Gwlad y Basg, Mai 2018

2013 ‘Referring back to the Bronze Age from the dawn of Palaeohispanic literacy: the SW inscriptions interpreted as nativism’, fforwm ar Oes yr Efydd, Prifysgol y Frenhines, Belffast, Tachwedd 2013

2011 ‘Las inscripciones del suroeste y el Tarteso de la arqueología y de la historia’, I Congreso Internacional: Tarteso el Emporio del Metal, Universidad de Huelva, Andalucía, Sbaen, Rhagfyr 2011

2011 ‘Tartessian as Celtic and Celtic from the West: both, only the first, only the second, or neither’, cynhadledd ‘Aires Linguistiques/Aires Culturelles’, CRBC, Brest, Llydaw, Mehefin 2011

2010 ‘Archaeology and Language in Ancient Atlantic Europe’, Colloque International ‘La langue Bretonne des Origines / Origines de la langue Bretonne’, CRBC, Roazhon 2, Llydaw, Ebrill 2010

2010 ‘Out of the flow and ebb of the European Bronze Age: heroes, Tartessos, and Celtic’, Colocwiwm Celtaidd Prifysgol Califfornia, Los Angeles, Mawrth 2010

2009 ‘A case for Tartessian as a Celtic language’, X Colóquio Internacional sobre Línguas e Culturas Paleo-hispânicas, Museu Nacional de Arqueologia, Belém, Lisboa, Portiwgal, Chwefror 2009

2008 ‘People called Keltoi, the La Tène Style, and Ancient Celtic Languages: the threefold Celts in the light of geography’, Darlith Astudiaethau Celtaidd O’Donnell a draddodwyd ym mhrifysgolion Abertawe, Bangor ac Aberystwyth, Ebrill–Mai 2008

2008 ‘Was the Atlantic Zone the Celtic homeland? Early linguistic evidence’, Darlith Astudiaethau Celtaidd O’Donnell, Prifysgol Caeredin, Ebrill 2008

2006 ‘On the “historical” Taliesin poetry’, Darlith Goffa Rudolph Thurneysen, Prifysgol Bonn, yr Almaen, Hydref 2006

2004 ‘Waiting for Gododdin: further thoughts on the Cynfeirdd problem, Catraeth, and unripe time in Celtic studies’, prif ddarlith, Cymdeithas Astudiaethau Celtaidd Gogledd America, Prifysgol Toronto, Ebrill 2004

2000 ‘Re-thinking the Dark Ages for the 21st century: modern identity and Britain’s heroic age’, Darlith Astudiaethau Celtaidd O’Donnell, Prifysgol Caeredin, Mai 2000

1999 ‘Observations on ethnic identity, multiculturalism, and the future of Celtic studies’, prif ddarlith, 11eg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, Coleg Prifysgol Corc, Gorffennaf 1999

Cynadleddau rhyngwladol yn ymwneud â’i feysydd arbenigol y bu ganddo ran yn eu trefnu (fel aelod o bwyllgor llywio a/neu bwyllgor trefnu)

2020, gweithdy: ‘Mining, Metals, and Long-distance Contacts in Bronze Age Wales and Beyond’, Prifysgol Bangor a safle archaeolegol Penygogarth

2017, gweithdy: ‘Rock Art and Metal: Late Bronze Age Contact between Scandinavia and the Iberian Peninsula’, Prifysgol Göteborg

2015, fforwm: ‘Beaker People, Archaeogenetics, and Celtic Origins’, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

2014, XIIIeg gynhadledd ryngddisgyblaethol ryngwladol ar grefydd(au) ‘Celtaidd’ (F.E.R.C.AN), Llanbedr Pont Steffan

2014, fforwm/gweithdy: ‘Atlantic Europe in the Metal Ages –Questions of Shared Language’, Prifysgol Caerdydd

2012, fforwm: ‘New Light on the Ancient West: Recent Work in Archaeology, Genetics, and Linguistics on Later Prehistory and Protohistory’, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

2011, fforwm: ‘Ancient Britons, Wales, and Europe – New Research in Genetics, Archaeology, and Linguistics,’ Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd

2010, fforwm: ‘Rethinking the Bronze Age and the Arrival of Indo-European in Atlantic Europe’, Rhydychen

Grantiau sylweddol a ddyfarnwyd iddo

AHRC ‘Yr Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol’ 2000–5

AHRC ‘Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau: Cwestiynau am Iaith Gyffredin’ 2013–16