Skip page header and navigation

Dr Judith Marshall BSc (Hons); PGCE(FE); MSc; PhD; CPsychol; AFBPsS; FHEA

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Darlithydd mewn Seicoleg

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


Ffôn: 01792 482013 
E-bost: judith.marshall@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Darlithydd: Seicoleg Gymdeithasol; Seicoleg Datblygiad y Rhychwant Oes; Gwahaniaethau Unigol; Dulliau Ymchwil Ansoddol
  • Tiwtor Derbyn
  • Arweinydd Modwl
  • Tiwtor Cymorth Academaidd
  • Tiwtor Blwyddyn Lefel Chwech
  • Goruchwyliwr Traethodau Hir Israddedig
  • Goruchwyliwr PhD

Cefndir

Astudiais Seicoleg, Ieithyddiaeth, Seineg a Ffonoleg ar gyfer fy ngradd BSc (Anrh) Seicoleg a Chyfathrebu.

Ar ôl cwblhau fy nghymhwyster TAR (AB) ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2001, des i’n ddarlithydd seicoleg llawn amser yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yn addysgu ar lefel Israddedig a Meistr. Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn i hefyd yn rhan o dîm addysgu’r cwrs TAR (AB).

Yna cofrestrais ym Mhrifysgol Caerdydd yn fyfyriwr ôl-raddedig llawn amser a ariannwyd gan yr ESRC i ennill fy ngradd Meistr mewn Dulliau Ymchwil ac yna fy PhD.

Yn 2008, ymunais â Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin i gyd-ysgrifennu a chyflwyno’r cwrs gradd Seicoleg cyntaf yn y brifysgol hon. Yn 2012 trosglwyddais i’r tîm Seicoleg ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe yn ystod proses gyfuno Prifysgolion Y Drindod Caerfyrddin, Met Abertawe a Llambed i ffurfio PCYDDS.

Yn rhan o dîm y rhaglen yn PCYDDS, rwy’n cyfrannu at gyflwyno ac asesu’r modwl Seicoleg, a goruchwylio ymchwil ar gampysau Abertawe a Chaerfyrddin.

Aelod O

  • Cymrawd Cyswllt Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
  • Seicolegydd Siartredig
  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
  • Aelod llawn y Gyfadran Academyddion, Ymchwilwyr ac Athrawon mewn Seicoleg
  • Aelod llawn o adran Seicoleg Gymdeithasol BPS
  • Aelod llawn o adran Seicoleg Datblygiad BPS
  • Aelod llawn o Gangen Gymreig BPS
  • Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD)

Diddordebau Academaidd

Fy mhrif feysydd addysgu yw:

  • Seicoleg Gymdeithasol, Seicoleg Datblygiad Gydol Oes, a Gwahaniaethau Unigol, gyda ffocws cryf ar ddylanwadau cymdeithasol a diwylliannol ar wneud synnwyr o ddatblygiad a gwahaniaeth dynol.
  • Dulliau Ymchwil Ansoddol.

Pynciau goruchwylio PhD cyfredol:

  • Cerddorion cerddoriaeth boblogaidd oedd yn weithgar rhwng 1976 a 1979: trafod hunaniaeth dros amser mewn byd globaleiddiedig ôl-fodern
  • Archwiliad ethnograffig o rithffurfiau digidol artistiaid eu hunain yn oes y cyfryngau cymdeithasol.

Arholwr allanol MPhil

Meysydd Ymchwil

Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn y croestoriad rhwng yr unigol a’r cymdeithasol, gan gynnwys y ffyrdd y mae gwybodaeth a hunaniaeth yn cael eu llunio.  Yn benodol:

Y ffyrdd y mae pobl yn defnyddio dealltwriaeth â seiliau diwylliannol a gwreiddiau hanesyddol fel adnoddau symbolaidd ar gyfer gwneud synnwyr o’r byd.

Y ffyrdd y mae gwybodaeth, sgiliau ac arferion ymgorfforedig yn effeithio ar ffurfio hunaniaeth.

Gallu pobl i uniaethu ac ymgysylltu â gweithgarwch gwleidyddol o fewn eu cymunedau

Gallu lleoliadau cymdeithasol a ffisegol i hwyluso a chyfyngu ar y ffyrdd y gall pobl ymgysylltu ag addysg a dychmygu dyfodol mewn addysg a gwaith.

Prosiect ymchwil presennol:  ‘Diagnosis Hwyr o Wahaniaethau Dysgu Penodol: Rheoli Hunaniaeth ac Ymgysylltu’

PhD: ‘Dychmygu Dyfodol mewn Lleoliadau sy’n Newid: Dad-ddiwydiannu a rhyngwynebau addysg/gwaith’. Cyfraniad at ddamcaniaeth seicoleg gymdeithasol.

Arbenigedd

Dulliau a dadansoddi ansoddol, gan gynnwys cyfweld, grwpiau ffocws, dulliau ennyn ymateb trwy luniau, dulliau symudol, dulliau cymysg.

Cyhoeddiadau

Davies, SMB, Lohmann-Hancock, C., Welton, N, Sutton, L, McKnight, G, Fletcher- Miles, J, Jones, S, Williams, D., & Marshall, J. (2014). Perceptions of Poverty: A Study of the Impact of Age on Opinions about Poverty. Caerfyrddin: Pennath.