Skip page header and navigation

Karen Eaton-Thomas BSc, TAR, MSc, GMBPsS, FHEA

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Darlithydd mewn Seicoleg

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: +44 (0)1267 225147 
E-bost: k.eatonthomas@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Rheolwr rhaglen y BSc Iechyd Meddwl a’r TystAU Deall Iechyd Meddwl.
  • Addysgu ar raglenni Seicoleg israddedig.
  • Goruchwylio traethodau hir israddedig.

Cefndir

Des i’n wreiddiol o gefndir Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn dod yn gynorthwyydd ymchwil a myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, yn gweithio ar brosiect wedi’i ariannu mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru.

Roedd fy ymchwil yn ymwneud ag astudio gallu gwybyddol ac ieithyddol plant a datblygu adnoddau asesu priodol i blant dwyieithog yng Nghymru. Ers ymuno â’r Drindod Dewi Sant yn 2012, mae fy niddordebau ymchwil wedi symud tuag at iechyd meddwl a lles unigolion, ac yn arbennig, y rhai a ystyrir yn boblogaeth agored i niwed.

Diddordebau Academaidd

Mae fy niddordebau academaidd ac addysgu’n cynnwys seicoleg fforensig a chlinigol, ynghyd ag iechyd meddwl a lles unigolion, gan gynnwys y rheiny o boblogaethau agored i niwed. Mae’r rhan fwyaf o’m haddysgu’n canolbwyntio ar faterion cyfoes yn ymwneud ag iechyd meddwl, megis rôl y cyfryngau mewn codi ymwybyddiaeth o stigma iechyd meddwl, agweddau cymdeithasol a stereoteipio.

Meysydd Ymchwil

Roedd meysydd gwreiddiol fy niddordeb ymchwil yn seiliedig ar arbenigaeth hemisfferig ac ochroli swyddogaeth, yn benodol mewn perthynas ag emosiynoldeb, swyddogaeth wybyddol ac iaith. Yn fwy diweddar, rydw i wedi canolbwyntio ar stigma, hunan-stigma, hunan-barch a hunan-effeithiolrwydd mewn poblogaethau agored i niwed.

Arbenigedd

  • Cymhwyster Defnyddiwr Profion Cynorthwyol: Galwedigaethol
  • Cymhwyster Defnyddiwr Profion: Gallu Galwedigaethol
  • Cymhwyster Defnyddiwr Profion: Personoliaeth Alwedigaethol
  • Cofrestr Cymwysterau mewn Defnyddio Profion (RQTU)